Comisiynu systemau darlledu a chyfryngau
URN: SKSBE6
Sectorau Busnes (Suites): Peirianneg Systemau Darlledu a Chyfryngau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chomisiynu systemau darlledu a chyfryngau ar ddiwedd y broses osod.
Mae'r safon hon yn berthnasol i amrywiaeth o systemau darlledu a chyfryngau gan gynnwys gweithrediad stiwdio, darlledu allanol, ôl-gynhyrchu, dosbarthiad a darllediad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- rhagnodi dulliau a gweithdrefnau ar gyfer y system ddarlledu a chyfryngau gaiff ei chomisiynu
- cynllunio comisiynu systemau darlledu a chyfryngau
- penderfynu ar a chael gafael ar yr adnoddau sydd eu hangen i gomisiynu systemau darlledu a chyfryngau
- gweithredu comisiwn systemau darlledu a chyfryngau pan fydd amodau yn addas
- gweithredu comisiynu systemau darlledu a chyfryngau gan ddilyn gweithdrefnau cytunedig
- adnabod a datrys problemau sy'n ymwneud â chomisiynu systemau darlledu a chyfryngau
- asesu canlyniadau comisiynu a gwirio bod allgynhyrchion systemau darlledu a chyfryngau yn cwrdd â'r gofynion
- cadarnhau bod systemau darlledu a chyfryngau yn cwrdd â'r gofynion ac yn cydymffurfio gyda'r holl reoliadau a chanllawiau perthnasol
- cofnodi canlyniadau comisiynu mewn systemau gwybodaeth
- gwirio bod cleientiaid wedi derbyn trosglwyddiad rheolaeth wrth drosglwyddo systemau comisiwn iddynt
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- diben, manteision, cyfyngiadau a risgiau'r offer a meddalwedd sydd eu hangen ar gyfer systemau darlledu a chyfryngau
- y gwahaniaeth rhwng systemau sy'n seiliedig ar y cwmwl a systemau ar leoliad
- rhagofalon diogelwch penodol i'w dilyn wrth weithio gydag offer, meddalwedd a systemau darlledu
- sut i weithio'r offer, meddalwedd a systemau darlledu a chyfryngau sydd eu hangen
- y diben a'r protocolau sy'n gysylltiedig â chyfeirio gan ddefnyddio IP
- egwyddorion dyluniad, pensaernïaeth, datblygiad a chynhaliaeth rhwydweithiau
- sut i gysylltu systemau ac offer darlledu a chyfryngau gyda systemau rhwydwaith
- prosesau'r sefydliad ar gyfer sicrhau diogelwch rhwydwaith a diogelwch ymarferol data a systemau
- systemau gweithio diogel ac ar eich pen eich hun ar gyfer gweithio gydag erialau, foltedd uchel, byrddau trydan, byrddau switsh a chyflenwadau trydan di-dor
- gofynion technegol Ansawdd Gwasanaeth sy'n cael effaith ar gomisiynu
- manylebau ac allgynhyrchion cytunedig ar gyfer y systemau darlledu a chyfryngau gaiff eu comisiynu
- cyfluniadau cynnyrch a gwasanaeth
- y broses, dulliau a gweithdrefnau comisiynu mae modd eu defnyddio ar gyfer systemau darlledu a chyfryngau
- sut i weithredu comisiwn a mesur llwyddiant
- y fanyleb i lywio cynllunio’r comisiynu sy’n berthnasol i’r system a’r
gosodiad - y cyfluniad sydd ei angen cyn trosglwyddo
- gofynion y rhanddeiliaid
- y profion sydd eu hangen er mwyn gwerthuso'r system
pa ffactorau dylid eu hystyried wrth gynllunio comisiynu
pa fathau o broblemau comisiynu allai godi a sut i'w datrys
- yrheoliadau, canllawiau, gweithdrefnau a systemau cwmni perthnasol sy'n ymwneud ag iechyd, diogelwch, yr amgylchedd a darlledu a sut i gael gwybodaeth amdanynt
- pwysigrwydd cadw cofnodion o wybodaeth comisiynu
- sut i roi gwybod am a rhannu problemau gydag eraill
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSBE6
Galwedigaethau Perthnasol
Peiriannydd Darlledu , Peiriannydd Darlledu Allanol , Peiriannydd Stiwdio , Peiriannydd Prosiect, Peiriannydd Ôl-gynhyrchu, Peiriannydd Lluniau, Peiriannydd Cynnal a Chadw Darlledu, Peiriannydd Darllediad
Cod SOC
3147
Geiriau Allweddol
darlledu; peirianneg; comisiynu; systemau;