Monitro a chynnal a chadw ansawdd technegol y gwasanaeth mewn peirianneg gwasanaethau darlledu a chyfryngau

URN: SKSBE5
Sectorau Busnes (Suites): Peirianneg Systemau Darlledu a Chyfryngau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud  â sicrhau ansawdd technegol gwasanaeth.

Mae'r safon hon yn berthnasol i amrywiaeth o systemau darlledu a chyfryngau gan gynnwys gweithrediad stiwdio, darlledu allanol, ôl-gynhyrchu, dosbarthiad a darllediad.

Bydd gwahanol ofynion ar gyfer ansawdd technegol gwasanaeth yn dibynnu ar sut caiff allgynhyrchion eu darlledu neu eu ffrydio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​adnabod gofynion a disgwyliadau technegol y gwasanaeth
  2. adnabod disgwyliadau ansawdd sy'n cwrdd â chyfyngiadau darlledu neu gynhyrchu
  3. darparu briffiau technegol manwl i'r bobl berthnasol
  4. cyfathrebu disgwyliadau ansawdd gwasanaeth i'r rheiny sydd ynghlwm â'r gwaith
  5. gwirio bod prosesau rheoli ansawdd sy'n cydymffurfio gyda gweithdrefnau cytunedig mewn lle
  6. gwirio bod gwasanaeth technegol yn cwrdd â gofynion mynediad a defnyddioldeb penodol
  7. asesu ansawdd technegol ar adegau penodol
  8. gwerthuso ansawdd technegol gwasanaeth yn ôl disgwyliadau ansawdd
  9. adnabod gwasanaeth sydd ddim yn cwrdd â gofynion ansawdd technegol
  10. defnyddio offer a'r technegau diagnostig i adnabod a chywiro achosion diffygion syml mewn offer a systemau darlledu a chyfryngau
  11. rhoi mesurau mewn lle i gywiro problemau sydd ddim yn cwrdd â gofynion ansawdd technegol
  12. gwirio effeithiolrwydd mesurau i gywiro problemau yn y gwasanaeth ar adegau priodol
  13. dod o hyd i ddatrysiadau sy'n dderbyniol i randdeiliaid, pan nad oes posibl cyflawni'r ansawdd technegol dymunol mewn gwasanaeth

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. diben, manteision, cyfyngiadau a risgiau'r offer a meddalwedd sydd eu hangen ar gyfer systemau darlledu a chyfryngau
  2. y gwahaniaeth rhwng systemau sy'n seiliedig ar y cwmwl a systemau ar leoliad
  3. rhagofalon diogelwch penodol i'w dilyn wrth weithio gydag offer, meddalwedd a systemau darlledu
  4. sut i weithio'r offer, meddalwedd a systemau darlledu a chyfryngau
  5. y diben a'r protocolau sy'n gysylltiedig â chyfeirio gan ddefnyddio IP
  6. egwyddorion dyluniad, pensaernïaeth, datblygiad a chynhaliaeth rhwydweithiau
  7. sut i gysylltu systemau ac offer darlledu a chyfryngau gyda systemau rhwydwaith
  8. mathau o broblemau all godi wrth weithio systemau darlledu a chyfryngau
  9. sut i flaenoriaethu a datrys problemau gweithredol mewn pryd
  10. yr offer a thechnegau diagnostig i'w defnyddio er mwyn dod o hyd i ddiffygion
  11. prosesau'r sefydliad ar gyfer sicrhau diogelwch data a systemau
  12. systemau gweithio diogel ac ar eich pen eich hun ar gyfer gweithio gydag erialau, foltedd uchel, byrddau trydan, byrddau switsh a chyflenwadau trydan di-dor
  13. safonau archwilio technegol a'r safonau darparu proffesiynol, cenedlaethol a rhyngwladol
  14. gofynion ansawdd ar gyfer gwahanol ddulliau darlledu neu ffrydio terfynol
  15. y gwiriadau ansawdd ac adolygiadau sydd mewn lle
  16. pwy sydd angen bod ynghlwm ag asesu neu werthuso ansawdd y tu mewn a thu allan i'r sefydliad
  17. sut i gyflwyno gwybodaeth i eraill yn ymwneud ag ansawdd technegol
  18. cyfyngiadau ansawdd technegol gan gynnwys cyfyngiadau offer, cyllideb, amgylchedd corfforol a chyfyngiadau cynhyrchu eraill
  19. rheoliadau, canllawiau, gweithdrefnau a systemau cwmni perthnasol sy'n ymwneud ag iechyd, diogelwch, yr amgylchedd a darlledu a sut i gael gwybodaeth amdanynt
  20. arweiniad cyfredol ac arfer dda yn ymwneud â mynediad a defnyddioldeb
  21. sut i roi gwybod am a rhannu problemau gydag eraill

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSBE5

Galwedigaethau Perthnasol

Peiriannydd Darlledu , Peiriannydd Darlledu Allanol , Peiriannydd Stiwdio , Peiriannydd Prosiect, Peiriannydd Ôl-gynhyrchu, Peiriannydd Lluniau, Peiriannydd Cynnal a Chadw Darlledu, Peiriannydd Darllediad

Cod SOC

3147

Geiriau Allweddol

darlledu; peirianneg; technegol; ansawdd;