Gwerthuso dyluniadau ar gyfer systemau darlledu a chyfryngau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gwerthuso dyluniadau ar gyfer systemau darlledu.
Mae'r safon hon yn berthnasol i amrywiaeth o systemau darlledu a chyfryngau gan gynnwys gweithrediad stiwdio, darlledu allanol, ôl-gynhyrchu, dosbarthiad a darllediad. Efallai byddwch yn gwerthuso dyluniadau ar gyfer cleientiaid sy'n fewnol neu yn allanol i'r sefydliad rydych chi'n gweithio iddo.
Mae'r safon hon ar gyfer Peirianwyr Darlledu a Chyfryngau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sefydlu meini prawf er mwyn gwerthuso dyluniadau ar gyfer systemau darlledu a chyfryngau
- ymchwilio gwybodaeth am ddyluniadau system
- amlygu cryfderau a gwendidau dyluniadau system yn unol â'r meini prawf gwerthuso cytunedig
- ystyried effaith amgylcheddol a chynaliadwyedd system ddarlledu a chyfryngau
- asesu goblygiadau newidiadau i fanylebau dylunio a'r adnoddau sydd ar gael
- dewis dyluniadau sydd fwyaf effeithiol wrth gwrdd â gofynion cleientiaid a manylebau dylunio
- cwblhau gwerthusiad y dyluniad system
- cofnodi canlyniadau gwerthuso yn systemau'r sefydliad
- cyflwyno canlyniadau gwerthuso a dewisiadau ar gyfer gwella yn unol â gweithdrefnau cytunedig
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- diben, manteision, cyfyngiadau a risgiau'r offer a meddalwedd sydd eu hangen ar gyfer systemau darlledu a chyfryngau
- y gwahaniaeth rhwng systemau sy'n seiliedig ar y cwmwl a systemau ar leoliad
- y diben a'r protocoliau sy'n gysylltiedig â chyfeirio gan ddefnyddio IP
- egwyddorion dyluniad, pensaernïaeth, datblygiad a chynhaliaeth rhwydweithiau
- sut i gysylltu systemau ac offer darlledu a chyfryngau are gyfer systemau rhwydwaith
- prosesau'r sefydliad ar gyfer sicrhau diogelwch rhwydwaith a diogelwch ymarferol data a systemau
- sut i egluro problemau TG i bobl broffesiynol ym maes TG
- systemau gweithio diogel ac ar eich pen eich hun ar gyfer gweithio gydag erialau, foltedd uchel, byrddau trydan, byrddau switsh a chyflenwadau trydan di-dor
- gofynion technegol Ansawdd Gwasanaeth sy'n cael effaith ar eich gwaith
- meini prawf gwerthuso, dulliau ac adnoddau sydd eu hangen ar gyfer gwahanol fathau o ddyluniad system ddarlledu a chyfryngau
- sut i adnabod effaith amgylcheddol a chynaliadwyedd system ddarlledu a chyfryngau
- gofynion mynediad gweithredwyr
- ffynonellau gwybodaeth ar gyfer dyluniad system ddarlledu a chyfryngau
- mathau o argymhellion all godi o werthusiadau a phwy sydd angen yr wybodaeth hon
- sut i addasu'r dull cyflwyno i gyd-fynd gyda'r tîm dylunio, cleientiaid, cydweithwyr a phobl berthnasol eraill
- rheoliadau, canllawiau a gweithdrefnau cwmni perthnasol sy'n ymwneud ag iechyd, diogelwch, yr amgylchedd a darlledu
Cwmpas/ystod
dulliau ac adnoddau yn cynnwys
dadansoddi dogfennaeth ddylunio
efelychiad
arddangosiad ar raddfa fach
prawf peilot
model/brasfodel
asesu cynddelw
**
gwahanol fathau o ddyluniad system ddarlledu a chyfryngau** gan gynnwys y rheiny sy'n gysylltiedig â:
natur ymarferol
perfformiad
cost
ansawdd
technoleg
ymarferoldeb
- amserlen weithredu
rhwyddineb gweithredu
rhwyddineb a chost cynnal a chadw
- hyd bywyd/gallu i uwchraddio
- mynediad i weithredwyr
- gofynion diogelwch
- cydymffurfio gyda safonau sefydliad, diwydiant ac iechyd a diogelwch
- cynaliadwyedd
*
gwybodaeth ar gyfer dyluniad system ddarlledu a chyfryngau* yn cynnwys
- manylebau dylunio
- cyflwyniadau dylunio
dogfennaeth ddylunio
cyflenwyr
gwneuthurwyr offer
- arbenigwyr technegol
- cydweithwyr
- defnyddwyr system
- staff gweithredol