Creu dyluniadau ar gyfer systemau darlledu a chyfryngau
URN: SKSBE3
Sectorau Busnes (Cyfresi): Peirianneg Systemau Darlledu a Chyfryngau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chreu dyluniadau ar gyfer systemau darlledu a chyfryngau.
Mae'r safon hon yn berthnasol i amrywiaeth o systemau darlledu a chyfryngau gan gynnwys gweithrediad stiwdio, darlledu allanol, ôl-gynhyrchu, dosbarthiad a darllediad.
Efallai bydd eich dyluniadau ar gyfer cleientiaid mewnol neu allanol i'r sefydliad rydych chi'n gweithio iddo.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- creu dyluniadau sy'n cwrdd â gofynion cleientiaid fel sydd wedi'u manylu mewn manylebau dyluniadau ar gyfer systemau darlledu a chyfryngau
- cymhwyso prosesau peirianneg darlledu er mwyn cwrdd â manylebau dyluniadau
- creu amrediad o ddyluniadau system posibl a dichonol i gleientiaid eu hystyried
- derbyn cyngor ac arweiniad o ffynonellau addas i'ch cynorthwyo gyda'ch gwaith dylunio
- cyflwyno dyluniadau ar ffurfiau cytunedig a gyda gwybodaeth ategol ofynnol i ganiatáu cleientiaid i'w hasesu
- darparu sail resymegol ar gyfer unrhyw amrywiad o fanylebau dyluniad
- gwirio bod dyluniadau yn cydymffurfio gyda rheoliadau a chanllawiau
- gwirio bod dyluniadau wedi'u hamddiffyn yn unol â gofynion hawliau patent, eiddo deallusol a hawlfraint
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- diben, manteision, cyfyngiadau a risgiau'r gwahanol offer a meddalwedd sydd eu hangen ar gyfer systemau darlledu a chyfryngau
- y gwahaniaeth rhwng systemau sy'n seiliedig ar y cwmwl a systemau ar leoliad
- y rhagofalon diogelwch penodol i'w dilyn wrth weithio gydag offer, meddalwedd a systemau darlledu
- egwyddorion dyluniad, pensaernïaeth, datblygiad a chynhaliaeth rhwydweithiau
- sut i gysylltu systemau ac offer darlledu a chyfryngau gyda systemau rhwydwaith gan ddilyn protocolau
- prosesau'r sefydliad ar gyfer sicrhau diogelwch rhwydwaith a diogelwch ymarferol data a systemau
- y gofynion technegol Ansawdd Gwasanaeth sy'n cael effaith ar eich gwaith
- y gwahanol fathau o fanylebau dylunio a gofynion dylunio gall cleientiaid eu darparu ar gyfer systemau darlledu a chyfryngau
- manteision cynnwys gweithredwyr yn y broses ddylunio
- gwahanol ddulliau sydd angen eu mabwysiadu wrth weithio gyda chleientiaid, gweithredwyr, staff cynhyrchu, staff technegol, trydydd parti, darparwyr gwasanaeth a phobl berthnasol eraill
- pryd bydd yn briodol rhoi dewis o ddyluniadau i gleientiaid
- ffynonellau cyngor ac arweiniad ar ddyluniadau ar gyfer systemau darlledu a chyfryngau
- dulliau a ffurfiau o gyflwyno dyluniadau
- hawliau patent, hawlfraint a materion eiddo deallusol priodol a sut mae modd diogelu dyluniadau system
- rheoliadau, canllawiau, gweithdrefnau a systemau cwmni perthnasol sy'n ymwneud ag iechyd, diogelwch, yr amgylchedd a darlledu
Cwmpas/ystod
gofynion dylunio i'w hystyried gan gynnwys
- natur ymarferol
- amgylcheddol
- ariannol
- rheoliadol
- gweithredol
- cleient
- cynnal a chadw
- iechyd a diogelwch
- ergonomeg
- estheteg
- prosesau peirianneg i'w hystyried
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSBE3
Galwedigaethau Perthnasol
Peiriannydd Darlledu , Peiriannydd Darlledu Allanol , Peiriannydd Stiwdio , Peiriannydd Prosiect, Peiriannydd Ôl-gynhyrchu, Peiriannydd Lluniau, Peiriannydd Cynnal a Chadw Darlledu, Peiriannydd Darllediad
Cod SOC
3147
Geiriau Allweddol
darlledu; peirianneg; gofynion; manylebau; dyluniadau;