Cynhyrchu a chytuno ar fanylebau gweithredol ar gyfer systemau darlledu a chyfryngau gyda chleientiaid

URN: SKSBE2
Sectorau Busnes (Suites): Peirianneg Systemau Darlledu a Chyfryngau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud  â chynhyrchu a chytuno ar fanylebau gweithredol ar gyfer systemau darlledu a chyfryngau ar gyfer chleientiaid.

Mae'r safon hon yn berthnasol i amrywiaeth o systemau darlledu a chyfryngau gan gynnwys gweithrediad stiwdio, darlledu allanol, ôl-gynhyrchu, dosbarthiad a darllediad. Gall cleientiaid fod yn rhai mewnol neu allanol i'r sefydliad rydych chi'n gweithio iddo.

Mae'r safon hon ar gyfer peirianwyr systemau darlledu a chyfryngau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​cynhyrchu manylebau ar gyfer systemau darlledu a chyfryngau sy'n cwrdd â gofynion cleientiaid
  2. gwirio bod modd gweithredu a rhoi'r manylebau ar waith
  3. gwirio bod manylebau yn cydymffurfio gyda'r holl reoliadau a chanllawiau perthnasol
  4. gwirio bod manylebau yn cwrdd â gofynion diogelwch cytunedig ar gyfer data a systemau
  5. cynnig defnyddio adnoddau ar gyfer offer technegol, ardaloedd neu gyfleusterau technegol, ergonomeg a llif gwaith sy'n effeithiol a fydd yn cwrdd â gofynion
  6. ystyried effaith amgylcheddol a chynaliadwyedd system ddarlledu a chyfryngau
  7. cyflwyno manylebau i'r cleient ar sut bydd y system yn perfformio a sut bydd yn cyfuno gyda systemau eraill
  8. cytuno ar fanylebau gyda chleientiaid ar adegau priodol yn y broses ddylunio
  9. darparu sail resymegol ar gyfer unrhyw ofynion nad oes modd eu cyflawni neu fanylebau y mae'n rhaid eu newid
  10. cynhyrchu manylebau ar ffurfiau cytunedig gyda'r dogfennau ategol sydd eu hangen
  11. cofnodi manylebau mewn systemau gwybodaeth
  12. cydymffurfio gyda rheoliadau, deddfwriaeth a phrotocolau iechyd a diogelwch.

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​diben, manteision, cyfyngiadau a risgiau'r offer a meddalwedd sydd eu hangen ar gyfer systemau darlledu a chyfryngau
  2. gofynion gweithredu a phrotocolau sy'n gysylltiedig â systemau darlledu, meddalwedd ac offer gan gynnwys pwy all eu defnyddio
  3. y diben a'r protocoliau sy'n gysylltiedig â chyfeirio gan ddefnyddio IP
  4. egwyddorion dyluniad, pensaernïaeth, datblygiad a chynhaliaeth rhwydweithiau
  5. prosesau'r sefydliad ar gyfer sicrhau diogelwch rhwydwaith a diogelwch ymarferol data a systemau
  6. systemau gweithio diogel ac ar eich pen eich hun ar gyfer gweithio gydag erialau, foltedd uchel, byrddau trydan, byrddau switsh a chyflenwadau trydan di-dor
  7. gofynion Ansawdd Gwasanaeth sy'n cael effaith ar eich gwaith
  8. gwahanol fathau a ffurfiau o fanylebau gaiff eu defnyddio gyda systemau darlledu a chyfryngau
  9. sut i adnabod effaith amgylcheddol a chynaliadwyedd system ddarlledu a chyfryngau
  10. pryd dylid ymgynghori ar fanyleb gyda chleient
  11. gofynion mynediad gweithredwyr
  12. mathau o newidiadau i fanyleb all fod yn angenrheidiol
  13. manteision cynnwys gweithredwyr yn y broses ddylunio
  14. gwahanol ddulliau sydd angen eu mabwysiadu wrth weithio gyda chleientiaid, gweithredwyr, staff cynhyrchu, staff technegol, trydydd parti, darparwyr gwasanaeth a phobl berthnasol eraill  
  15. sut i gyflwyno eich cynnig chi o fanyleb
  16. rheoliadau, canllawiau, gweithdrefnau a systemau cwmni perthnasol sy'n ymwneud ag iechyd, diogelwch, yr amgylchedd a darlledu sut i gael gwybodaeth amdanynt
  17. systemau'r sefydliad ar gyfer cofnodi gwybodaeth a defnyddio adborth o adroddiadau, cyflwyniadau a rheoli newid

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSBE2

Galwedigaethau Perthnasol

Peiriannydd Darlledu , Peiriannydd Darlledu Allanol , Peiriannydd Stiwdio , Peiriannydd Prosiect, Peiriannydd Ôl-gynhyrchu, Peiriannydd Lluniau, Peiriannydd Cynnal a Chadw Darlledu, Peiriannydd Darllediad

Cod SOC

3147

Geiriau Allweddol

darlledu; peirianneg; systemau; cleientiaid; manylebau;