Cynnal a datblygu sgiliau a gwybodaeth dechnegol a gweithredol eich hunan o fewn maes peirianneg darlledu

URN: SKSBE17
Sectorau Busnes (Suites): Peirianneg Systemau Darlledu a Chyfryngau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2015

Trosolwg

Mae'r Safon yma yn nodi'r cymwyseddau sydd eu hangen arnoch i gynnal a datblygu eich arbenigedd mewn peirianneg ddarlledu. Mae hyn yn berthnasol i systemau darlledu o dan wahanol amodau gan gynnwys gweithrediad stiwdio, darllediadau allanol, ôl-gynhyrchu, dosbarthu a throsglwyddo.

Bydd yn rhaid i chi adnabod yr arbenigedd sydd ei angen arnoch i wneud eich gwaith presennol ac yn y dyfodol, cymryd sylw o ddatblygiadau mewn technoleg ac arferion o fewn maes peirianneg ddarlledu, adnabod eich gofynion datblygu a dewis a dilyn gweithgareddau datblygu priodol i gadw eich gwybodaeth a'ch sgiliau yn gyfredol. Bydd eich cyfrifoldebau yn gofyn i chi gydymffurfio â gwahanol bolisïau a gweithdrefnau sefydliadol, ac i adrodd nôl unrhyw broblem na allwch ei datrys i'r unigolion perthnasol


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Yr hyn mae'n rhaid i chi allu ei wneud

P1 nodi gweithgareddau'r gwaith peirianneg ddarlledu sy'n ofynnol o ffynonellau dibynadwy
P2 cynnal dadansoddiad cywir o arbenigedd eich hunan a'i werthuso yn erbyn yr arbenigedd sydd ei angen i ymgymryd â gweithgareddau peirianneg darlledu
P3 monitro datblygiadau o fewn y sector a disgyblaeth peirianneg ddarlledu, gan ddefnyddio gwybodaeth o ffynonellau priodol
P4 gwerthuso datblygiadau newydd mewn peirianneg ddarlledu o ran damcaniaethau, dulliau a gweithdrefnau, yn enwedig o ran technoleg gwybodaeth, a'u cymharu â gofynion eich swydd bresennol ac yn y dyfodol
P5 nodi'r gweithgareddau datblygiad proffesiynol hynny a fydd yn darparu'r sgiliau a'r wybodaeth ydych angen
P6 cynnal a diweddaru eich arbenigedd a gwybodaeth ar adegau priodol ac mewn ffordd sy'n addas i'ch sefyllfa
P7 parchu cyfraniad pobl eraill ac ymateb i adborth y gynulleidfa a chwsmeriaid ac unrhyw awgrymiadau gan gydweithwyr, mewn ffordd gadarnhaol
P8 rhoi gwybodaeth i eraill am eich arbenigedd technegol a gweithredol yn unol â'r gweithdrefnau y cytunwyd arnynt


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Yr hyn mae'n rhaid i chi ei wybod a deall

​K1 y gweithgareddau peirianneg ddarlledu y gellid eu defnyddio ar gyfer gwahanol fathau o amcan datblygu

K2 sut i adnabod a phennu profiad ymarferol perthnasol

K3 sut y gall gwahanol weithgaredd peirianneg ddarlledu gael ei roi ar waith, a sut maent yn cysylltu â'i gilydd

K4 y math o arbenigedd sydd ei angen ar gyfer gwahanol weithgareddau peirianneg darlledu

K5 y gweithgareddau datblygiad proffesiynol sydd ar gael

K6 sut i gaffael gwahanol fathau o ddatblygiad proffesiynol

K7 sut i adnabod a chael gwybodaeth am ddatblygiadau ​technolegol mewn systemau darlledu, meddalwedd ac offer, sut y cânt eu defnyddio a beth y gallant ei gyflawni

K8 pwy sydd angen gwybodaeth ar ddatblygiadau technegol

K9 pwysigrwydd cadw i fyny gyda'r diweddaraf o ran technoleg gwybodaeth, arferion a datblygiadau o fewn peirianneg ddarlledu, i chi a'ch sefydliad

K10 arbenigedd pobl eraill yn y proffesiwn

K11 pam mae'n bwysig i ymgorffori moeseg a gwerthoedd proffesiynol i weithgareddau peirianneg darlledu

K12 pa fath o wrthdaro buddiannau a allai ddigwydd, a sut y dylid eu datrys

K13 canllawiau, gweithdrefnau a systemau perthnasol y sefydliad o ran iechyd, diogelwch, yr amgylchedd a rheoliadau darlledu, a sut i dderbyn gwybodaeth amdanynt

K14 maint eich cyfrifoldeb ac i bwy y dylech roi gwybod os oes gennych unrhyw broblem na allwch ei datrys


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

​Cynhyrchu Ffilm a Theledu


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative Skillset

URN gwreiddiol

SKSBE17

Galwedigaethau Perthnasol

Peiriannydd, Peiriannydd Darlledu , Peiriannydd Darlledu Allanol , Peiriannydd Trosglwyddo , Peiriannydd Llun, Peiriannydd Stiwdio , Peiriannydd Prosiect

Cod SOC

2124;2129;3115

Geiriau Allweddol

Peirianneg, Darlledu, Systemau, Stiwdio