Gweithio mewn ffordd broffesiynol o fewn peirianneg darlledu
Trosolwg
Mae'r Safon yma yn nodi'r cymwyseddau sydd eu hangen arnoch i weithio mewn ffordd broffesiynol o fewn peirianneg darlledu ac i reoli'ch cyfraniad fel ei fod yn cael effaith bositif ar y rheiny yr ydych yn gweithio gyda nhw. Mae hyn yn berthnasol i systemau darlledu o dan wahanol amodau gan gynnwys gweithrediad stiwdio, darllediadau allanol, ôl-gynhyrchu, dosbarthu a throsglwyddo.
Bydd eich cyfrifoldebau yn gofyn chi gynnal eich gwaith mewn ffordd gynhyrchiol, rhannu gwybodaeth gydag eraill, ymateb yn gadarnhaol i ofynion ac amgylchiadau newidiol ac i sefyll eich tir pan ofynnir i chi wneud rhywbeth yr ydych yn teimlo sy'n anfoesegol. Bydd eich cyfrifoldebau yn gofyn i chi gydymffurfio â gwahanol bolisïau a gweithdrefnau sefydliadol, ac i adrodd nôl unrhyw broblem na allwch ei datrys i'r unigolion perthnasol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Yr hyn mae'n rhaid i chi allu ei wneud
P1 sicrhau bod eich gwaith yn cael ei gyflawni ar amser ac yn ateb y briff
P2 rhannu gwaith a chyfnewid gwybodaeth a sgiliau ar beirianneg ddarlledu ag eraill ar adegau priodol
P3 dehongli problemau a dod o hyd i atebion sy'n cyflawni'r allbynnau peirianneg ddarlledu a ddymunir
P4 rhoi a derbyn adborth mewn ffordd adeiladol a defnyddio'r adborth i adolygu gwaith pan fo angen
P5 bod yn hyblyg, addasadwy a chadarnhaol i syniadau newydd, gofynion creadigol a datblygiadau technegol
P6 hyrwyddo unrhyw newidiadau sy'n dilyn datblygiadau o fewn llif gwaith a datblygiadau technegol mewn peirianneg ddarlledu
P7 nodi pryd y bydd newidiadau a ofynnwyd amdanynt gan eraill yn debygol o gael effaith andwyol ar amserlenni, y canlyniadau terfynol, yr amgylchedd neu rannau eraill o'r gwaith gan gyfathrebu hyn mewn modd priodol
P8 cyfathrebu eich barn mewn ffordd gyson pan ofynnir i chi wneud rhywbeth yr ydych yn teimlo sy'n anfoesegol, yn anymarferol neu a fydd yn cael effaith negyddol ar yr amgylchedd
P9 storio a pharatoi gwaith i eraill mewn ffurf briodol ar gyfer y swydd a'r sefydliad yr ydych yn gweithio iddo
P10 ceisio cymorth neu gyngor gan bobl briodol neu ffynonellau gwybodaeth pan fydd cyfyngiadau yn eich gwybodaeth neu arbenigedd yn effeithio ar eich gwaith
P11 chwilio am gyfleoedd dysgu a rhwydweithio a fydd fwyaf buddiol i chi
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Yr hyn mae'n rhaid i chi ei wybod a deall
K1 gofynion technegol Ansawdd Gwasanaeth sy'n effeithio ar eich gwaith
K2 llif gwaith peirianneg darlledu a sut mae eich rôl a rolau eraill yn ffitio i mewn iddo
K3 diben, budd, cyfyngiadau a risgiau'r offer a meddalwedd sy'n ofynnol ar gyfer systemau darlledu a phryd y mae'n briodol i'w defnyddio
K4 gofynion gweithredol a phrotocolau mewn perthynas â systemau darlledu, meddalwedd ac offer gan gynnwys pwy all eu defnyddio
K5 sut y bydd angen i'ch swyddogaeth a'ch cyfrifoldebau newid hwyrach i ymdrin â gofynion amrywiol y gwaith peirianneg ddarlledu
K6 goblygiadau eich penderfyniadau ar yr adnoddau yr ydych yn ymwneud ag â hwy
K7 sut i nodi effaith amgylcheddol eich gwaith a'i gyfleu i bobl eraill
K8 briff y gwaith a sut i ddehongli'r gofynion a pharamedrau
K9 y manteision o wrando ar syniadau pobl eraill a sut i adnabod unigolion a allai eich cefnogi pan fyddwch angen hynny
K10 sut a phryd i ofyn cwestiwn er mwyn gwella eich gwaith
K11 sut i ymateb a delio yn briodol â sylwadau negyddol a gofynion ychwanegol
K12 sut i addasu'r llif gwaith a chynllunio atebion wrth orfod ymdrin â'r annisgwyl
K13 sut i weithio fel rhan o dîm
K14 sut i sylwi pryd y gallai syniadau neu waith peirianneg ddarlledu flaenorol eu hailddefnyddio neu eu haddasu
K15 sut i storio gwaith peirianneg ddarlledu
K16 sut i ddefnyddio adnoddau ar-lein i chwilio am gyngor ac i gael gwybod beth mae eraill yn ei wneud
K17 sut i holi a herio yn adeiladol benderfyniadau pobl eraill a phryd y mae'n briodol i wneud hynny
K18 cyfyngiadau'r feddalwedd a ddefnyddiwch o ran yr hyn yr ydych yn ei wneud a ble y gallwch weithio
K19 y cyfleoedd rhwydweithio a dysgu sydd yn bodoli a sut i wybod amdanynt
K20 canllawiau, gweithdrefnau a systemau perthnasol y sefydliad o ran iechyd, diogelwch, yr amgylchedd a rheoliadau darlledu, a sut i dderbyn gwybodaeth amdanynt
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cynhyrchu Ffilm a Theledu