Monitro ac optimeiddio’r llif gwaith ar gyfer peirianneg systemau darlledu a chyfryngau
URN: SKSBE15
Sectorau Busnes (Suites): Peirianneg Systemau Darlledu a Chyfryngau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneuda monitro ac optimeiddio'r llif gwaith ar gyfer peirianneg systemau darlledu a chyfryngau.
Mae'r safon hon yn berthnasol i amrywiaeth o amodau darlledu gan gynnwys gweithrediad stiwdio, darlledu allanol, ôl-gynhyrchu, dosbarthiad a darllediad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwirio bod y llif gwaith yn rhagnodi technegau peirianneg darlledu addas
- gwirio bod y llif gwaith yn gyson gyda disgwyliadau'r cleient ac yn caniatáu iddynt wirio datblygiadau a gwneud penderfyniadau
- monitro'r llif gwaith yn rheolaidd yn erbyn nodau, amcanion, cerrig milltir a chynnyrch danfonadwy y prosiect
- cyfathrebu'r llif gwaith, amserlen a gofynion technegol
- monitro a chofnodi gwybodaeth storio cyfryngau
- cael gafael ar wybodaeth am ddatblygiad tasgau
- asesu bygythiadau i'r amserlen a safonau technegol
- newid amserlenni llif gwaith a chywiro anghysondebau mewn safonau neu ansawdd
- monitro'r gwaith o weithredu newidiadau i'r llif gwaith
- rhoi gwybod am unrhyw broblemau heb oedi
- gwirio bod y llif gwaith yn cwrdd â gofynion diogelwch data a system
- cydymffurfio gyda rheoliadau, deddfwriaeth a phrotocoliau iechyd a diogelwch ar gyfer gweithio systemau darlledu a chyfryngau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- diben, manteision, cyfyngiadau a risgiau'r gwahanol offer a meddalwedd sydd eu hangen ar gyfer systemau darlledu
- protocolau sy'n gysylltiedig ag offer, meddalwedd a systemau darlledu gan gynnwys pwy sy'n gallu eu defnyddio
- ffactorau iechyd a diogelwch y gweithle a rhagofalon penodol i'w dilyn wrth weithio gydag offer, meddalwedd a systemau darlledu a chyfryngau
- sut i gysylltu a gweithio'r offer, meddalwedd a systemau darlledu a chyfryngau sydd eu hangen ar gyfer y llif gwaith
- mathau o broblemau all godi wrth weithio systemau darlledu a chyfryngau a pham ei fod yn bwysig datrys problem yn gyflym
- yr offer a thechnegau i adnabod a chywiro achosion diffygion syml mewn offer, meddalwedd a systemau darlledu
- prosesau ar gyfer sicrhau diogelwch ymarferol a diogelwch rhwydwaith data a systemau sy'n berthnasol i'r llif gwaith
- y gofynion technegol Ansawdd Gwasanaeth sy'n cael effaith ar eich gwaith
- llifau gwaith technegol a chyffredin caledwedd a meddalwedd
- egwyddorion cynnyrch danfonadwy safonol ac ansafonol, ffurfiau ffolderi, rhyng-gysylltiad digidol ac elfennau o arwyddion sain a fideo
- sut i fesur elfennau hanfodol arwyddion sain a fideo
- y ffurfiau gaiff eu defnyddio ar bob cam o'r llif gwaith a pha mor ddibynnol ydy'r gwahanol gamau technegol a chynhyrchu ar ei gilydd
- y technegau caiff deunyddiau eu darlledu drwyddynt
- gofynion ffurf a llif gwaith y cwsmer a'r gwahanol fathau o offer, meddalwedd a systemau darlledu a chyfryngau
- safonau archwilio cyfredol a'r safonau darparu proffesiynol, cenedlaethol a rhyngwladol a datganiadau o arferion gorau ar gyfer amrediad o lwyfannau
- y rhyngwynebau rhwng camau'r llif gwaith ar gyfer cyfryngau byw ac wedi'i recordio
- sut i fonitro a chynnal y storfa gyfryngau sy'n gysylltiedig i'ch gwaith
- sut i gyfathrebu gyda thîm sy'n newid
y rheoliadau, canllawiau, gweithdrefnau a systemau cwmni perthnasol sy'n ymwneud ag iechyd, diogelwch, yr amgylchedd a darlledu a sut i gael gwybodaeth amdanynt
sut a phryd i roi gwybod am a rhannu problemau gydag eraill
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSBE15
Galwedigaethau Perthnasol
Peiriannydd Darlledu , Peiriannydd Darlledu Allanol , Peiriannydd Stiwdio , Peiriannydd Prosiect, Peiriannydd Ôl-gynhyrchu, Peiriannydd Lluniau, Peiriannydd Cynnal a Chadw Darlledu, Peiriannydd Darllediad
Cod SOC
3147
Geiriau Allweddol
darlledu; peirianneg; llif gwaith; monitro; optimeiddio;