Gweithredu systemau cyfryngau, darlledu a darllediad

URN: SKSBE14
Sectorau Busnes (Suites): Peirianneg Systemau Darlledu a Chyfryngau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon a wnelo â gweithio systemau darlledu a chyfryngau neu ddarllediad i chwarae allan neu allforio cyfryngau a data yn dilyn manylebau a gweithdrefnau sydd wedi'u cymeradwyo.

Mae'r safon hon yn berthnasol i amrywiaeth o systemau darlledu a chyfryngau gan gynnwys gweithrediad stiwdio, darlledu allanol, ôl-gynhyrchu, dosbarthiad a darllediad.

Mae'r safon hon ar gyfer gweithredwyr technegol a thechnegwyr systemau darlledu a chyfryngau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​gwirio data sydd wedi'i dderbyn yn ôl gofynion y llif gwaith
  2. trin data yn ôl y gofynion
  3. gwirio a chadarnhau bod y data sydd i'w ddarlledu ar y ffurf sydd ei hangen ar gyfer y dull, tasg a rhanbarth darlledu
  4. gweithredu systemau darlledu a darllediad gan ddefnyddio dulliau a gweithdrefnau yn unol â gofynion y sefydliad
  5. chwarae allan neu allforio cyfryngau gsn ddilyn gofynion technegol
  6. gwirio a chadarnhau bod systemau diogelwch yn gweithio i'r safon sydd ei hangen
  7. adrodd am unrhyw broblemau gyda'r systemau neu allgynhyrchion darlledu a chyfryngau
  8. gwirio bod allgynhyrchion y systemau darlledu a chyfryngau yn cydymffurfio gyda manylebau, rheoliadau, safonau, canllawiau a gweithdrefnau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​diben, manteision, cyfyngiadau a risgiau'r gwahanol offer a meddalwedd sydd eu hangen ar gyfer systemau darlledu a chyfryngau
  2. protocolau sy'n gysylltiedig ag offer, meddalwedd a systemau darlledu a chyfryngau gan gynnwys pwy sy'n gallu eu defnyddio
  3. y  rhagofalon diogelwch penodol i'w dilyn wrth weithio gydag offer, meddalwedd a systemau darlledu
  4. sut i weithio'r offer, y meddalwedd a'r systemau darlledu a chyfryngau sydd eu hangen
  5. sut i gysylltu offer a systemau darlledu i systemau rhwydwaith
  6. y mathau o broblemau all godi wrth weithio systemau darlledu a chyfryngau
  7. prosesau'r sefydliad ar gyfer sicrhau diogelwch ymarferol a diogelwch rhwydwaith data a systemau
  8. gofynion technegol Ansawdd Gwasanaeth sy'n cael effaith ar eich gwaith
  9. y ffurfiau sydd eu hangen ar gyfer gwahanol ddulliau darlledu a darllediad
  10. yr effeithiau gall yr amgylchedd rydych chi'n gweithio ynddo gael ar gydbwysedd lliw a goleuo a sut i gywiro hyn
  11. y technegau i dderbyn, trafod, a chwarae allan neu allforio cyfryngau neu ddata darlledu
  12. protocolau'r diwydiant ar gyfer metadata o ran trosglwyddo ffolderi
  13. rheoliadau, canllawiau, gweithdrefnau a systemau cwmni perthnasol sy'n ymwneud ag iechyd, diogelwch, yr amgylchedd a darlledu
  14. sut i wirio ansawdd allgynhyrchion gan ddefnyddio asesiadau goddrychol a gwrthrychol
  15. pwy i roi gwybod iddynt am broblemau gydag allgynhyrchion darlledu a chyfryngau

Cwmpas/ystod

allgynhyrchion

  1. allgynnyrch llun
  2. ansawdd sain
  3. safonau'r diwydiant
  4. manylebau system
  5. llif data
  6. dadansoddi llwybr arwyddion

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSBE14

Galwedigaethau Perthnasol

Peiriannydd Darlledu , Peiriannydd Darlledu Allanol , Peiriannydd Stiwdio , Peiriannydd Prosiect, Peiriannydd Ôl-gynhyrchu, Peiriannydd Lluniau, Peiriannydd Cynnal a Chadw Darlledu, Peiriannydd Darllediad

Cod SOC

3147

Geiriau Allweddol

darlledu; peirianneg; darllediad; chwarae’n well; gwasanaeth; gweithredu