Monitro a gwerthuso gweithrediad ac allgynhyrchion systemau darlledu a chyfryngau

URN: SKSBE13
Sectorau Busnes (Cyfresi): Peirianneg Systemau Darlledu a Chyfryngau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â monitro a gwerthuso systemau darlledu a chyfryngau a'u hallgynhyrchion i'r safonau ansawdd disgwyliedig.

Mae'r safon hon yn berthnasol i amrywiaeth o systemau darlledu a chyfryngau gan gynnwys gweithrediad stiwdio, darlledu allanol, ôl-gynhyrchu, dosbarthiad a darllediad.

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n gweithio mewn swyddi monitro gan gynnwys gweithredwyr technegol, technegwyr a pheirianwyr systemau darlledu a chyfryngau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​monitro'r gwaith o weithredu systemau darlledu a chyfryngau ar adegau penodol
  2. gwirio bod y defnydd o bobl ac adnoddau yn cwrdd â gofynion y dasg
  3. cadarnhau bod dulliau a gweithdrefnau darllediad neu ddarlledu wedi'u defnyddio
  4. gweithio o fewn y paramedrau diogelwch sydd eu hangen
  5. gwirio bod problemau gyda gweithredu darlledu wedi'u hadnabod a'u datrys heb oedi
  6. adrodd a chofnodi diffygion sydd wedi'u datrys gyda gweithredu darlledu yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  7. gwirio a chadarnhau bod allgynhyrchion darlledu yn cydymffurfio gyda'r manylebau
  8. gwirio a chadarnhau bod y gwaith o weithredu darlledu yn cydymffurfio gyda rheoliadau, safonau, canllawiau a gweithdrefnau perthnasol
  9. rhoi gwybod i'r staff perthnasol am unrhyw weithgareddau monitro a deilliannau
  10. rhoi gwybod am a rhannu problemau nad oes modd eu datrys gydag eraill

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​diben, manteision, cyfyngiadau a risgiau'r gwahanol offer a meddalwedd sydd eu hangen ar gyfer systemau darlledu a chyfryngau
  2. protocolau sy'n gysylltiedig ag offer, meddalwedd a systemau darlledu a chyfryngau gan gynnwys pwy sy'n gallu eu defnyddio
  3. rhagofalon diogelwch penodol i'w dilyn wrth weithio gydag offer, meddalwedd a systemau darlledu
  4. sut i weithio'r offer, meddalwedd a systemau darlledu a chyfryngau sydd eu hangen
  5. sut i gysylltu offer a systemau darlledu a chyfryngau gyda systemau rhwydwaith

  6. prosesau'r sefydliad ar gyfer sicrhau diogelwch ymarferol a diogelwch rhwydwaith data a systemau

  7. y ffurfiau sydd eu hangen ar gyfer gwahanol ddulliau darllediad
  8. protocolau'r diwydiant ar gyfer metadata o ran trosglwyddo ffolderi
  9. dulliau a gweithdrefnau monitro a phryd dylai monitro ddigwydd
  10. pwy ddylai gael gwybod am weithgareddau monitro a deilliannau
  11. amrywiadau posibl mewn cynlluniau ac amserlenni all godi yn ystod cyfnod gweithredu'r system
  12. sut i wirio ansawdd allgynhyrchion systemau darlledu gan ddefnyddio asesiadau goddrychol a gwrthrychol
  13. sut i ddewis a defnyddio offer a meddalwedd monitro
  14. sut i gael gwybodaeth am ofynion ac argaeledd staff, nwyddau bwytadwy, offer profi, darnau sbâr ac amser
  15. y rheoliadau, canllawiau, gweithdrefnau a systemau cwmni perthnasol sy'n ymwneud ag iechyd, diogelwch, yr amgylchedd a darlledu a sut i gael gwybodaeth amdanynt
  16. sut i roi gwybod am a rhannu problemau gydag eraill

Cwmpas/ystod

asesiadau goddrychol a gwrthrychol:

  1. allgynnyrch llun ac ansawdd sain,
  2. cymharu gyda safonau'r diwydiant a manylebau system,
  3. dadansoddi llif data a llwybr arwyddion
  4. gofynion technegol Ansawdd Gwasanaeth

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSBE13

Galwedigaethau Perthnasol

Peiriannydd Darlledu , Peiriannydd Darlledu Allanol , Peiriannydd Stiwdio , Peiriannydd Prosiect, Peiriannydd Ôl-gynhyrchu, Peiriannydd Lluniau, Peiriannydd Cynnal a Chadw Darlledu, Peiriannydd Darllediad

Cod SOC

3147

Geiriau Allweddol

darlledu; peirianneg; darllediad; chwarae allan; gwasanaeth; monitro; ansawdd;