Cynghori ar faterion technegol yn ymwneud ag offer, meddalwedd neu systemau darlledu a chyfryngau
URN: SKSBE12
Sectorau Busnes (Suites): Peirianneg Systemau Darlledu a Chyfryngau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynghori eraill ar faterion darlledu a darllediad technegol i'r ansawdd disgwyliedig.
Mae'r safon hon yn berthnasol i amrywiaeth o systemau darlledu a chyfryngau gan gynnwys gweithrediad stiwdio, darlledu allanol, ôl-gynhyrchu, dosbarthiad a darllediad. Gellir rhoi cyngor i gydweithwyr technegol neu annhechnegol a gall fod yn gysylltiedig â gosod, gweithredu neu gynnal a chadw offer a systemau darlledu a chyfryngau.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n gweithio fel peirianwyr systemau darlledu a chyfryngau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- ymchwilio i a chael gafael ar wybodaeth cyn rhoi cyngor
- dewis a chynghori ar y datrysiad technegol mwyaf effeithiol yn unol â chyfyngiadau cynhyrchu
- rhoi cyngor i bobl berthnasol yn dilyn amserlenni a gofynion
- dewis a defnyddio dulliau cyfathrebu sy'n cwrdd ag anghenion y rheiny sy'n derbyn cyngor
- defnyddio lefel o derminoleg dechnegol sy'n cwrdd â dealltwriaeth dechnegol y person sy'n derbyn cyngor
- defnyddio gwybodaeth ategol i egluro unrhyw gyngor pan y bydd angen
- gwirio bod pobl yn deall y cyngor rydych chi'n ei roi a goblygiadau dilyn y cyngor hwnnw
- awgrymu deunyddiau, offer a sgiliau fydd eu hangen i ddilyn y cyngor
- gwirio bod unrhyw gyngor yn cydymffurfio gyda rheoliadau a chanllawiau perthnasol
- adolygu'r cyngor gaiff ei roi yn erbyn problemau gaiff eu codi ac addasu'r dull lle bo angen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- diben, manteision, cyfyngiadau a risgiau'r offer a meddalwedd sydd eu hangen ar gyfer systemau darlledu a chyfryngau
- rhagofalon diogelwch penodol i'w dilyn wrth weithio gydag offer, meddalwedd a systemau darlledu
- sut i weithio'r offer, meddalwedd a systemau darlledu sydd eu hangen
- y diben a'r protocolau sy'n gysylltiedig â chyfeirio gan ddefnyddio IP
- egwyddorion dyluniad, pensaernïaeth, datblygiad a chynhaliaeth rhwydweithiau
- sut i gysylltu systemau ac offer darlledu a chyfryngau gyda systemau rhwydwaith
- mathau o broblemau all godi wrth weithredu systemau darlledu a chyfryngau a pham ei fod yn bwysig eu datrys yn brydlon
- yr offer a'r technegau datrys problemau gaiff eu defnyddio i adnabod a chywiro achosion diffygion mewn offer, meddalwedd a systemau darlledu
- prosesau'r sefydliad ar gyfer sicrhau diogelwch ymarferol a diogelwch rhwydwaith data a systemau
- sut i sicrhau cyflenwad trydan di-dor
- safonau archwilio cyfredol a safonau darparu proffesiynol, cenedlaethol a rhyngwladol a datganiadau o arferion gorau
- rheoliadau, canllawiau, gweithdrefnau a systemau cwmni perthnasol sy'n ymwneud ag iechyd, diogelwch, yr amgylchedd a darlledu a sut i gael gwybodaeth amdanynt
- sut i adnabod pwy ddylid rhoi cyngor iddynt a phwysigrwydd rhoi cyngor mewn pryd
- sut i egluro datrysiad a'i sail resymegol a gwirio dealltwriaeth eraill o'r cyngor a roddwyd
- sut i bortreadu ymddygiad cadarnhaol i eraill pan na fyddant yn deall eich cyngor yn syth
- y mathau o wybodaeth ategol i roi eglurhad ac egluro'r manteision ac anfanteision
- y gwahanol ddulliau cyfathrebu, eu manteision ac anfanteision a phryd i'w defnyddio
- maint eich cyfrifoldeb eich hun ac i bwy dylech chi roi gwybod os oes gennych unrhyw broblem na allwch chi ei datrys
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSBE12
Galwedigaethau Perthnasol
Peiriannydd Darlledu , Peiriannydd Darlledu Allanol , Peiriannydd Stiwdio , Peiriannydd Prosiect, Peiriannydd Ôl-gynhyrchu, Peiriannydd Lluniau, Peiriannydd Cynnal a Chadw Darlledu, Peiriannydd Darllediad
Cod SOC
3147
Geiriau Allweddol
darlledu; peirianneg; technegol; cynhyrchu; cyngor; cefnogaeth;