Datrys problemau gydag offer, meddalwedd neu systemau darlledu a chyfryngau
URN: SKSBE11
Sectorau Busnes (Suites): Peirianneg Systemau Darlledu a Chyfryngau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag adnabod a datrys problemau gydag offer, meddalwedd neu systemau darlledu a chyfryngau yn unol â gofynion ansawdd.
Mae'r safon hon yn berthnasol i amrywiaeth o systemau darlledu a chyfryngau gan gynnwys gweithrediad stiwdio, darlledu allanol, ôl-gynhyrchu, dosbarthiad a darllediad. Gall problemau ddaw i'r amlwg ymwneud â systemau byw a gosodiad darlledu, cynhyrchiad ar lefel system neu broblemau gweithredol sy'n digwydd oherwydd, neu yn ystod, gwaith cynnal a chadw.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dilyn camau prydlon i ymateb i a chanfod problemau
- cael gafael ar wybodaeth sy'n gysylltiedig â'r broblem
- dadansoddi natur a maint problemau
- gwerthuso'r holl ddatrysiadau peirianneg darlledu realistig i gywiro problemau
- dewis y datrysiad peirianneg darlledu i gywiro'r problemau
- lleihau amhariad ar y gwasanaeth wrth ddatrys problemau, yn unol ag amodau'r cytundeb lefel gwasanaeth
- gweithredu o fewn rhagofalon diogelwch penodol wrth weithio gydag offer, meddalwedd a systemau darlledu
- diweddaru'r bobl berthnasol ar unrhyw ddatblygiad
- datrys problemau gan ddefnyddio datrysiadau peirianneg darlledu mewn pryd
- rhaglennu atgyweiriadau parhaol a gwaith cynnal a chadw parhaus i mewn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad pan gaiff atgyweiriadau dros dro eu gwneud
- gwirio bod eich gwaith yn cydymffurfio gyda'r rheoliadau a chanllawiau
- cofnodi achosion problemau a chamau a ddilynwyd yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- rhoi gwybod am a rhannu problemau nad oes modd eu datrys gydag eraill
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- diben, manteision, cyfyngiadau a risgiau'r offer a meddalwedd sydd eu hangen ar gyfer systemau darlledu a chyfryngau
- y rhagofalon diogelwch penodol i'w dilyn wrth weithio gydag offer, meddalwedd a systemau darlledu
- sut i weithio'r offer, meddalwedd a systemau darlledu a chyfryngau sydd eu hangen
- y diben a'r protocolau sy'n gysylltiedig â chyfeirio gan ddefnyddio IP
- egwyddorion dyluniad, pensaernïaeth, datblygiad a chynhaliaeth rhwydweithiau
- sut i gysylltu systemau ac offer darlledu a chyfryngau gyda systemau rhwydwaith
- yr offer a'r technegau gaiff eu defnyddio i adnabod a chywiro achosion diffygion mewn offer a systemau darlledu a chyfryngau
- prosesau'r sefydliad ar gyfer sicrhau diogelwch data a systemau rhwydwaith
- sut i sicrhau cyflenwad trydan di-dor
- egwyddorion peirianneg drydanol syml
- y mathau o broblemau all godi a pha mor hanfodol ydyn nhw
- technegau i osgoi toriad heb ei gynllunio
- achosion methiant system ac offer
- sut i werthuso natur a maint problemau a phwy i roi gwybod iddynt am unrhyw ddatblygiad
- dulliau gwerthuso i asesu'r datrysiad peirianneg fwyaf effeithiol i broblem benodol
- pam ei fod yn bwysig lleihau amser segur offer a systemau a datrys problemau yn gyflym
- amodau cytundebau lefel gwasanaeth a gofynion Ansawdd Gwasanaeth ar gyfer gwaith cynnal a chadw a datrys problemau
- ffynonellau gwybodaeth am broblemau meddalwedd, offer a systemau gan gynnwys adborth gan ddefnyddwyr, adroddiadau diffygion a chofnodion technegol
- datrysiadau peirianneg dros dro a parhaol ar gyfer gwahanol fathau o broblemau meddalwedd, offer a system
- sut i werthuso goblygiadau datrysiadau arfaethedig ac adnabod y datrysiad peirianneg fwyaf effeithiol i broblem
- y rheoliadau, canllawiau, gweithdrefnau a systemau cwmni perthnasol sy'n ymwneud ag iechyd, diogelwch, yr amgylchedd a darlledu a sut i gael gwybodaeth amdanynt
- amserlenni a dulliau ar gyfer adrodd am broblemau a chwblhau datrysiadau peirianneg
- sut a phryd i rannu problemau gydag eraill
Cwmpas/ystod
achosion methiant system ac offer gan gynnwys
- gwaith cynnal a chadw aneffeithiol
- defnydd anaddas
- lleoliad
- adnoddau wedi'u dosbarthu yn wael
- dyluniad offer gwael
- namau neu wrthdrawiadau mewn meddalwedd
- diffyg hyfforddiant neu wybodaeth
- darfodiad offer neu gydrannau
**
dulliau gwerthuso** gan gynnwys
- addasu adnoddau
- addasu'r offer neu system
- llif gwaith
- lleoliad yr offer
- cefnogaeth gan y gwneuthurwr
- hyfforddiant
- dogfennaeth
- lefel goruchwylio
- amserlenni cynnal a chadw
- tynnu offer oddi ar y rhestr
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSBE11
Galwedigaethau Perthnasol
Peiriannydd Darlledu , Peiriannydd Darlledu Allanol , Peiriannydd Stiwdio , Peiriannydd Prosiect, Peiriannydd Ôl-gynhyrchu, Peiriannydd Lluniau, Peiriannydd Cynnal a Chadw Darlledu, Peiriannydd Darllediad
Cod SOC
3147
Geiriau Allweddol
darlledu; peirianneg; datrys problemau; system; meddalwedd; offer; prosesau;