Cynnal gwaith cynnal a chadw ar offer neu systemau darlledu a chyfryngau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi ar gyfer a chynnal gwaith cynnal a chadw ar offer neu systemau darlledu a chyfryngau yn unol â gofynion ansawdd.
Mae'r safon hon yn berthnasol i amrywiaeth o systemau darlledu a chyfryngau gan gynnwys gweithrediad stiwdio, darlledu allanol, ôl-gynhyrchu, dosbarthiad a darllediad. Gall gweithgareddau cynnal a chadw fod yn rhai wedi'u trefnu, rhai arferol neu rai mewn argyfwng.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n gweithio fel technegwyr a pheirianwyr systemau darlledu a chyfryngau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael manylion am yr offer a systemau sydd i'w cynnal a chadw
- egluro gwybodaeth sy'n ymwneud â chynnal a chadw offer a systemau
- diweddaru'r bobl berthnasol ar unrhyw ddatblygiad yn unol â gweithdrefnau cytunedig
- cynnal gwaith cynnal a chadw ar adegau cytunedig ac yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cydymffurfio gyda rhagofalon diogelwch penodol wrth gynnal a chadw systemau darlledu a chyfryngau
- gwirio bod gwaith cynnal a chadw yn cydymffurfio ar gyfer rheoliadau a chanllawiau
- dilyn camau yn syth i ymateb i a chanfod problemau daw i'r amlwg
- cofnodi gwaith cynnal a chadw caiff ei gyflawni, achosion problemau a'r camau a ddilynwyd yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- rhoi gwybod am a rhannu problemau nad oes modd eu datrys gydag eraill
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- diben, manteision, cyfyngiadau a risgiau'r offer a meddalwedd sydd eu hangen ar gyfer systemau darlledu a chyfryngau
- protocolau sy'n gysylltiedig ag offer, meddalwedd a systemau darlledu gan gynnwys pwy sy'n gallu eu defnyddio
- rhagofalon diogelwch penodol i'w dilyn wrth weithio gydag offer, meddalwedd a systemau darlledu
sut i weithio'r offer, meddalwedd a systemau darlledu a chyfryngau sydd eu hangen
y diben a'r protocolau sy'n gysylltiedig â chyfeirio gan ddefnyddio IP
- egwyddorion cynnal a chadw rhwydwaith
- sut i gysylltu systemau ac offer darlledu a chyfryngau ar gyfer systemau rhwydwaith
- yr offer a'r technegau i adnabod a chywiro achosion diffygion syml mewn offer a systemau darlledu a chyfryngau
- prosesau'r sefydliad ar gyfer sicrhau diogelwch data a systemau rhwydwaith
- sut i sicrhau cyflenwad trydan di-dor
- amodau'r cytundebau lefel gwasanaeth a gofynion Ansawdd Gwasanaeth yn ymwneud â chynnal a chadw a datrys problemau
- nodweddion cynnal a chadw hanfodol ar gyfer yr offer neu system ddarlledu a chyfryngau
- egwyddorion cynnal a chadw, gweithdrefnau proses fel ataliol, cywirol ac atgyweirio brys
- ffactorau sy'n cael effaith ar benderfyniadau am waith cynnal a chadw parhaus yn erbyn amnewid, gan gynnwys cost, amser segur, dibynadwyedd
- sut caiff offer a systemau cyfryngau eu defnyddio fel rhan o'r llif gwaith o fewn y sefydliad
- yr offer a'r cyfarpar profi sydd eu hangen er mwyn cyflawni gweithgareddau cynnal a chadw
- sut i gael gafael ar a dehongli manylebau, dyluniadau a goddefiannau gan wneuthurwyr
- sut i gael eglurhad am yr offer neu system ddarlledu a chyfryngau
- pwy sy'n gallu cymeradwyo unrhyw newidiadau i offer neu systemau darlledu a chyfryngau
- y rheoliadau, canllawiau, gweithdrefnau a systemau cwmni perthnasol sy'n ymwneud ag iechyd, diogelwch, yr amgylchedd a darlledu a sut i gael gwybodaeth amdanynt
- systemau ar gyfer cofnodi gwybodaeth a pham ei fod yn bwysig eu defnyddio
- sut i roi gwybod am a rhannu problemau gydag eraill
Cwmpas/ystod
nodweddion cynnal a chadw hanfodol gan gynnwys:
- trydanol
- electronig
- mecanyddol
- meddalwedd
- amgylcheddol
- cynaliadwyedd
- ergonomig