Adnabod anghenion cleientiaid ar gyfer systemau darlledu a chyfryngau
URN: SKSBE1
Sectorau Busnes (Suites): Peirianneg Systemau Darlledu a Chyfryngau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag adnabod gofynion cleientiaid gyda systemau darlledu a chyfryngau.
Mae'r safon hon yn berthnasol i amrywiaeth o systemau darlledu a chyfryngau gan gynnwys gweithrediad stiwdio, darlledu allanol, ôl-gynhyrchu, dosbarthiad a darllediad. Gall cleientiaid fod yn rhai mewnol neu allanol i'r sefydliad rydych chi'n gweithio iddo.
Mae'r safon hon ar gyfer peirianwyr systemau darlledu a chyfryngau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael gafael ar wybodaeth am ofynion y cleient ar gyfer systemau darlledu a chyfryngau
- cadarnhau amcanion y cleient ar gyfer systemau darlledu a chyfryngau gyda'r bobl berthnasol
- penderfynu a ydy gofynion gweithredol, ymarferol, cynaliadwyedd, amgylcheddol ac ariannol y cleient yn ddichonol
- sefydlu nodweddion unigryw neu benodol sydd angen ystyriaeth benodol
- penderfynu ar ofynion cysylltedd, ergonomeg, ansawdd ac iechyd a diogelwch gan ddefnyddio gwybodaeth gyfredol
- gweithio o fewn rhagofalon diogelwch penodol wrth weithio gydag offer, meddalwedd a systemau darlledu
- cytuno ar ofynion a phrotocolau gweithredu sy'n gysylltiedig â systemau, meddalwedd ac offer darlledu a chyfryngau gan gynnwys pwy all eu defnyddio
- sefydlu a chytuno ar gylch gorchwyl eglur gyda chleientiaid i asesu a ydy amcanion wedi'u cyflawni
- cofnodi gofynion mewn systemau gwybodaeth i'w defnyddio yn y dyfodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- diben, manteision, cyfyngiadau a risgiau'r offer a meddalwedd sydd eu hangen ar gyfer systemau darlledu a chyfryngau
- y gwahaniaeth rhwng systemau sy'n seiliedig ar y cwmwl a systemau ar leoliad
- y diben a'r protocoliau sy'n gysylltiedig â chyfeirio gan ddefnyddio IP
- diben a manteision gwahanol brotocoliau a systemau ffrydio
- egwyddorion dyluniad, pensaernïaeth, datblygiad a chynhaliaeth rhwydweithiau
- sut i gysylltu systemau ac offer darlledu a chyfryngau gyda systemau rhwydwaith
- prosesau'r sefydliad ar gyfer sicrhau diogelwch rhwydwaith a diogelwch ymarferol data a systemau
- gofynion technegol Ansawdd Gwasanaeth sy'n cael effaith ar eich gwaith
- rhagofalon a systemau gweithio diogel ac ar eich pen eich hun ar gyfer gweithio gydag erialau, foltedd uchel, byrddau trydan, byrddau switsh a chyflenwadau trydan di-dor
- y prosesau gweithredol a thechnegol gaiff eu defnyddio gyda systemau darlledu a chyfryngau
- y gwahanol ddulliau sydd angen eu mabwysiadu wrth weithio gyda chleientiaid, gweithredwyr, staff cynhyrchu, staff technegol, trydydd barti, darparwyr gwasanaeth a phobl berthnasol eraill
- y gweithdrefnau ar gyfer cysylltu gydag adran neu sefydliad y cleient
- y mathau o nodweddion dylid eu hystyried yn unigryw neu benodol
- sut i gadarnhau gofynion cleient, gan gynnwys y rheiny sy'n gysylltiedig â gweithrediad, dichonoldeb, cyfleuster, cyllideb, manyleb dechnegol a lleoliad
- systemau'r sefydliad ar gyfer cofnodi gwybodaeth gan gynnwys gofynion y cleient, gofynion y broses, manylion technegol, nodweddion unigryw a newidiadau cytunedig
- meini prawf gwerthuso mae modd ei ddefnyddio ar gyfer gwahanol fathau o ddyluniadau systemau darlledu
- rheoliadau, canllawiau, gweithdrefnau a systemau sefydliad perthnasol sy'n ymwneud ag iechyd, diogelwch, yr amgylchedd a darlledu a sut i gael gwybodaeth amdanynt
Cwmpas/ystod
gwahanol fathau o ddyluniadau systemau darlledu gan gynnwys y rheiny sy'n gysylltiedig â:
- natur ymarferol
- perfformiad
- cost
- ansawdd
- technoleg
- ymarferoldeb
- amserlen weithredu
- rhwyddineb gweithredu
- rhwyddineb a chost cynnal a chadw
- hyd bywyd/ gallu i uwchraddio
- mynediad i weithredwyr
- gofynion diogelwch
- cydymffurfio gyda safonau sefydliad, diwydiant ac iechyd a diogelwch
- cynaliadwyedd
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSBE1
Galwedigaethau Perthnasol
Peiriannydd Darlledu , Peiriannydd Darlledu Allanol , Peiriannydd Stiwdio , Peiriannydd Prosiect, Peiriannydd Ôl-gynhyrchu, Peiriannydd Lluniau, Peiriannydd Cynnal a Chadw Darlledu, Peiriannydd Darllediad
Cod SOC
3147
Geiriau Allweddol
darlledu; peirianneg; technegol; cynhyrchiad; gofynion;