Cynllunio a rheoli gweithrediad systemau darlledu
Trosolwg
Mae'r Safon yma yn nodi'r cymwyseddau sydd eu hangen arnoch i fedru cynllunio a rheoli gweithrediad systemau darlledu. Mae hyn yn berthnasol i systemau darlledu o dan wahanol amodau gan gynnwys gweithrediad stiwdio, darllediadau allanol, ôl-gynhyrchu, dosbarthu a throsglwyddo.
Bydd gofyn i chi i ddatblygu a chytuno ar y llif gwaith gan fonitro a rheoli'r gwaith i sicrhau bod yr allbynnau a ddymunir o ansawdd briodol yn cael eu cyflawni, wrth gadw o fewn cyfyngiadau cyllidebol a'r adnoddau sydd ar gael. Yn ystod cyflawni'r gwaith, bydd rhaid i chi adnabod y cyfyngiadau a hefyd reoli adnoddau dynol ac eraill yn effeithiol. Fel rhan o'r broses weithredu, byddwch yn blaenoriaethu gweithgareddau, arwain eraill, nodi risg, cynllunio cefnogaeth wrth gefn a bod yn ymatebol i newid. Bydd eich cyfrifoldebau yn gofyn i chi gydymffurfio â gwahanol bolisïau a gweithdrefnau sefydliadol, ac i adrodd nôl unrhyw broblem na allwch ei datrys i'r unigolion perthnasol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Yr hyn mae'n rhaid i chi allu ei wneud
P1 derbyn gwybodaeth am ofynion systemau darlledu o ffynonellau dibynadwy
P2 datrys unrhyw amwysedd ac unrhyw fater sy'n aneglur o'r wybodaeth a'i dehongliad gyda phobl briodol
P3 nodi cerrig milltir a gweithgareddau allweddol a chynhyrchu cynlluniau ar gyfer y systemau darlledu a fydd yn cwrdd â disgwyliadau ansawdd
P4 adnabod a gwerthuso'r risgiau sy'n gysylltiedig â gweithrediad llwyddiannus systemau darlledu gan ddefnyddio gwybodaeth ddibynadwy a hefyd datblygu cynlluniau wrth gefn a all atal unrhyw risg
P5 gwneud amcangyfrifon o offer, deunyddiau a phobl fydd eu hangen, sy'n realistig ac yn cydymffurfio â'r gyllideb, yr amserlen ac unrhyw gyfyngiad o ran adnoddau
P6 rhoi gwybodaeth gywir a chryno am gynlluniau neu weithgareddau gweithredu i'r bobl berthnasol mewn digon o amser iddynt fedru dylanwadu ar gynlluniau neu ddechrau ar y gwaith
P7 awgrymu a chytuno atebion ymarferol pan nad yw'r disgwyliadau yn debygol o fod yn gyraeddadwy, neu mae gwyriadau sylweddol i'r amserlen a'r cynlluniau
P8 penodi pobl gyda'r arbenigedd, gyfarpar a deunyddiau priodol mewn pryd, fel bod gwaith yn cychwyn fel y bwriadwyd
P9 sefydlu sianeli cyfathrebu a fydd yn galluogi cyfathrebu clir ar adegau priodol rhwng pawb sy'n ymwneud â gweithredu'r systemau darlledu
P10 monitro gweithgareddau a chynnydd yn erbyn cynlluniau ac amserlenni gan ddefnyddio gwybodaeth gywir, gyfredol a dibynadwy a nodi unrhyw wyriadau
P11 monitro ansawdd gweithrediad y system ddarlledu yn erbyn y disgwyliadau ansawdd y cytunwyd arnynt
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Yr hyn mae'n rhaid i chi ei wybod a deall
K1 diben, manteision, cyfyngiadau a risgiau'r gwahanol offer a meddalwedd sydd eu hangen ar gyfer systemau darlledu a phryd y mae'n briodol eu defnyddio
K2 y gofynion a phrotocolau gweithredol mewn perthynas â'r systemau darlledu, y feddalwedd a'r offer gan gynnwys pwy all eu defnyddio
K3 sut i adnabod gofynion gan gynnwys unrhyw newidiadau i gynlluniau blaenorol
K4 gofynion technegol Ansawdd Gwasanaeth sy'n effeithio ar eich gwaith
K5 rolau a chyfrifoldebau'r bobl sy'n rhan o'r gwaith, gan gynnwys pwy sy'n gwneud y penderfyniadau
K6 sut y gall llif gwaith helpu pobl i ddeall y gyd-ddibyniaeth rhwng gwahanol weithgareddau a hefyd wella ansawdd deialog cynnar
K7 y wybodaeth sydd ei angen gan wahanol bobl ar bob cam
K8 yr offer sydd ei angen ac unrhyw ofynion penodol sy'n ymwneud ag ef
K9 y meini prawf a'r dulliau sydd eu hangen ar gyfer asesu maint a manyleb y deunyddiau sydd eu hangen, yn gywir ac yn gynhwysfawr
K10 ffyrdd i werthuso perfformiad y deunyddiau
K11 ffynonellau sgiliau, offer neu ddeunyddiau arbenigol
K12 y gofynion contractio ac yswiriant ar gyfer y gwaith a'r prosesau i'w dilyn er mwyn eu cyflawni
K13 y ffynonellau gwybodaeth am gynnydd a sut i fonitro a gwirio gweithgareddau a chynnydd
K14 ffyrdd o gytuno ar rolau a chyfrifoldebau
K15 sut i adnabod gwyriadau gwirioneddol neu wyriadau posib, o'r amserlenni a'r cynlluniau
K16 pryd i gymryd drosodd rheolaeth gan eraill
K17 sut i ddewis y ffordd orau i gyfathrebu â'r bobl sy'n ymwneud â'r gwaith
K18 pa wybodaeth sydd ei hangen gan bwy a phryd maen nhw ei angen
K19 y dulliau i ddadansoddi, disgrifio a blaenoriaethu risg
K20 y mathau o argyfyngau a allai godi a ffyrdd o ddelio â nhw
K21 sut i nodi a gwerthuso manteision ac anfanteision gwahanol ffyrdd o leihau costau neu arbed amser
K22 achosion cyffredin o oedi a sut y gellir osgoi unrhyw oediad neu weithio o'i gwmpas
K23 y prosesau a ffurfiau disgwyliedig ar gyfer cyflwyno gwybodaeth a'u perthynas gyda gofynion safonol y diwydiant
K24 canllawiau, gweithdrefnau a systemau perthnasol y sefydliad o ran iechyd, diogelwch, yr amgylchedd a rheoliadau darlledu, a sut i dderbyn gwybodaeth amdanynt
K25 maint eich cyfrifoldeb ac i bwy y dylech roi gwybod os oes gennych unrhyw broblem na allwch ei datrys
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cynhyrchu Ffilm a Theledu