Ymdrîn â chamdaniadau a saethu esgeulus ar gynyrchiadau

URN: SKSAR8
Sectorau Busnes (Suites): Cyflenwi Arfau ar gyfer Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud ag ymdrin â chamdaniadau neu saethu esgeulus – lle caiff cysondeb ei dorri, neu pan fo dyfais yn methu â ffrwydro pan wneir ymgais i'w danio.

Mae hefyd yn ymwneud â bod yn ymwybodol o'r camau gweithredu pan fo camdaniadau neu saethu esgeulus a sut i ofalu am ddiogelwch y cast a'r criw bob amser.

Bydd angen i chi weithredu'r rhagofalon priodol pan fyddwch yn llwytho a dadlwytho arf ar / oddi ar y set. Bydd gofyn i chi gydweithio'n agos gyda staff allweddol y cynhyrchiad, yn enwedig y Cyfarwyddwr Cynorthwyol 1af.

Mae'r safon hon yn arbennig ar gyfer goruchwylwyr Arfau ac arfogwyr ar y set.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​ymdrin â chamdaniadau neu saethu esgeulus yn unol â'r ddeddfwriaeth a'r protocolau iechyd a diogelwch
  2. rhoi gwybod am gamdaniadau neu saethu esgeulus gan gydymffurfio gyda'r gofynion cynhyrchu a deddfwriaethol
  3. adfer unrhyw fwledi sydd wedi neu heb eu defnyddio a chael gwared ar y rhain mewn modd diogel ac sy'n unol â'r protocolau
  4. egluro sut a pham gwnaeth yr arf gamdanio neu pam bu saethu esgeulus i'r bobl berthnasol 
  5. cywiro a pharatoi ar gyfer ailosod arfau ar gyfer ail-saethu'r olygfa
  6. cyfarwyddo'r cast a'r criw ynghylch sut caiff arfau eu hail-osod ar gyfer ail-saethu'r olygfa
  7. adnabod a chofnodi'r rhesymau dros y camdaniad er mwyn lleihau'r posibilrwydd o unrhyw gamdaniadau yn y dyfodol
  8. cyfathrebu gyda'r Penaethiaid Adrannau priodol er mwyn sicrhau bod y cast a'r criw yn ddiogel
  9. rhoi sicrwydd i unigolion, lle bo angen, nad ydyn nhw mewn unrhyw berygl
  10. cydymffurfio gyda'r holl baramedrau, protocolau a'r ddeddfwriaeth diogelwch
  11. adnabod unrhyw broblemau arfaethedig a gweithredu'n unol â hynny
  12. dwyn i ystyriaeth yr holl agweddau ynghlwm ag asesu a rheoli risgiau a darparu dogfennau i'r perwyl hwn

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​yr wybodaeth a'r canllawiau yn y ddogfen Arfau ar y Set yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
  2. y camau gweithredu pan fo camdaniadau a/neu saethu esgeulus yn unol ag arferion gweithio diogel
  3. effaith taflegrau, eitemau wedi'u llosgi, wadin, powdwr heb ei losgi, ffrwydradau aer a sŵn ar y cast a'r criw sy'n bresennol 
  4. sut i ddiogelu parth gwahardd nes bod y cast a'r criw yn ddiogel
  5. achosion ac effeithiau saethu esgeulus
  6. y risgiau a’r peryglon sy’n gysylltiedig â chamdaniadau
  7. sut i roi gwybod am y digwyddiad yn y modd priodol
  8. y dulliau cymeradwy o wirio arfau
  9. sut i adfer unrhyw ddyfeisiau mewn modd diogel a chyfleus
  10. trin neu gael gwared ar arfau diffygiol yn ddiogel a chael gwared ar fwledi'n briodol
  11. sut i lunio a chynnal asesiadau risg a chofnodion defnydd ar gyfer camdaniadau a saethu esgeulus

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSAR8

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau

Cod SOC

3147

Geiriau Allweddol

camdaniadau; saethu esgeulus; deddfwriaeth; iechyd a diogelwch; protocolau;