Goruchwylio, cyfarwyddo a hyfforddi’r cast a’r criw ynghylch defnyddio arfau ar gynyrchiadau

URN: SKSAR7
Sectorau Busnes (Suites): Cyflenwi Arfau ar gyfer Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â goruchwylio, cyfarwyddo a hyfforddi staff ynghylch defnyddio arfau ar gyfer cynyrchiadau.

Mae'n ymwneud ag adnabod Penaethiaid Adrannau allweddol y bydd angen i chi gysylltu gyda nhw ynghylch defnyddio arfau penodol a chydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth a'r protocolau.

Bydd disgwyl i chi gynghori a chyfarwyddo'r cast a'r criw ynghylch sut i ymddangos yn gymwys wrth ddefnyddio arfau gan ymdrîn â nodweddion y sgript a chydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth a'r protocolau. 

Mae'r safon hon yn arbennig ar gyfer goruchwylwyr Arfau ac arfogwyr ar y set.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​rhannu'r canllawiau diogelwch gyda'r cast a'r criw
  2. cyflwyno tystiolaeth cyfeirio prawf darluniadol a fideo i staff y cynhyrchiad yn ôl yr angen
  3. rhannu coreograffi'r golygfeydd gyda'r staff perthnasol
  4. cyfarwyddo aelodau o'r cast ynghylch sut caiff effaith yr arf ei gyflawni, gan ddangos elfennau lle'n briodol
  5. gwirio bod yr arfau, y bwledi a'r tanwydd yn addas i'w diben ac mewn cyflwr priodol a chymwys i'w defnyddio mewn cynyrchiadau
  6. ymateb i unrhyw newidiadau o ran y gyllideb neu'r amserlen a rhannu'r rhain gyda'r holl staff perthnasol
  7. cyfathrebu gyda staff y cynhyrchiad i sicrhau y caiff yr arfau eu storio'n effeithiol, yn gyfleus ac yn ddiogel
  8. cyfarwyddo artistiaid ynghylch gweithdrefnau diogelwch yr arfau
  9. gwirio a monitro caiff arfau eu trin yn gywir ac yn unol â'r sgript
  10. dwyn i ystyriaeth yr holl agweddau asesu a rheoli risg a darparu dogfennau i'r perwyl hwn

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i gyfathrebu gyda'r Penaethiaid Adrannau, y cast a'r criw, yswirwyr ac awdurdodau gorfodi priodol
  2. sut i sicrhau caiff diogelwch y cast a'r criw ei gynnal bob amser, yn y gweithdy ac ar y set
  3. sut i gynorthwyo gyda choreograffi a chysondeb yr olygfa yn unol â dadansoddiad y sgript a gofynion y cynhyrchiad
  4. sut i hwyluso cyflawni effeithiau arfau'n llwyddiannus ac yn ddiogel, gan gynnwys profi a chofnodi'r canlyniadau ar gamera
  5. sut i gyfathrebu gyda staff y cynhyrchiad er mwyn sicrhau y caiff yr arfau eu storio'n briodol ar y lleoliad
  6. sut i gaffael y caniatâd a'r gymeradwyaeth angenrheidiol gan yr awdurdodau a'r mudiadau perthnasol
  7. y broses o baratoi'r arfau, y bwledi a'r tanwydd er mwyn eu defnyddio i greu effaith yr arf  
  8. sut i gysylltu defnydd o'r arfau gyda'r weithrediad yn yr olygfa
  9. y ddeddfwriaeth a'r protocolau sy'n ymwneud â thrin yr arfau, y bwledi a'r tanwydd yn ddiogel ac yn gywir

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSAR7

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau

Cod SOC

3147

Geiriau Allweddol

goruchwylio; cyfarwyddo; hyfforddi; cast; criw; arfau; deddfwriaeth; protocolau; iechyd a diogelwch;