Cynnal a chadw a storio’r arfau, bwledi a’r tanwydd ar gyfer cynyrchiadau

URN: SKSAR6
Sectorau Busnes (Suites): Cyflenwi Arfau ar gyfer Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â storio'r arfau, y bwledi a'r tanwydd gan gydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth a'r protocolau sydd ynghlwm â chynyrchiadau.

Mae'r safon hon yn ymwneud â chreu system storio ddiogel lle mae modd cadw cofnod o'r holl arfau, bwledi a'r tanwydd bob amser.

Mae'r safon hon yn arbennig ar gyfer cydlynwyr Arfau a goruchwylwyr Arfau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​creu system storio ddiogel lle mae modd cadw cofnod o'r holl arfau, bwledi a ffrwydron bob amser
  2. cadarnhau bod y system storio ddiogel yn briodol ar gyfer y lefelau o adnoddau caiff eu cadw
  3. darparu dogfennau ar storio'r arfau, y bwledi a'r tanwydd yn ddiogel ac yn gyfreithiol a phwy sy'n gyfrifol am y rhain
  4. gwirio bod yr holl drwyddedau, tystysgrifau ac yswiriant yn gyfredol ac yn ddilys
  5. nodi beth mae gofyn i bob dalwyr trwydded ei gyflawni er mwyn cydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth a'r protocolau
  6. cynnal arferion gweithio diogel bob amser
  7. cadarnhau bod yr awdurdodau gorfodi wedi cymeradwyo'r systemau larwm a diogelwch a bod yr wybodaeth hon wedi'i rannu gyda'r cyrff perthnasol
  8. dwyn i ystyriaeth yr holl agweddau asesu a rheoli risg a darparu dogfennau i'r perwyl hwn

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​natur yr arfau, y bwledi a'r tanwydd rydych chi'n eu storio a'r ddeddfwriaeth a'r protocolau sydd ynghlwm â'u cadw nhw
  2. y ddeddfwriaeth, trwyddedau, yswiriant a'r gofynion iechyd a diogelwch ar gyfer yr arfau, y bwledi a'r tanwydd rydych chi'n eu storio
  3. sut i greu a chynnal system ddiogel ar gyfer storio'r arfau, y bwledi a'r tanwydd
  4. pwysigrwydd gwirio bod yr holl drwyddedau'n ddilys ac yn gyfredol
  5. y systemau larwm angenrheidiol er mwyn sicrhau system dra ddiogel
  6. sut i gysylltu gyda staff y cynhyrchiad ynghylch storio'r arfau, y bwledi a'r tanwydd
  7. y protocolau cysylltu gyda swyddogion gynnau lleol ac awdurdodau perthnasol eraill
  8. sut i gyflawni a chofnodi asesiad risg

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSAR6

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau

Cod SOC

3147

Geiriau Allweddol

cynnal a chadw; storio; arfau; bwledi; tanwydd; asesiad risg; cynyrchiadau;