Dosbarthu a dychwelyd arfau, bwledi a thanwydd ar gyfer cynyrchiadau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â dosbarthu a dychwelyd unrhyw arfau, bwledi a thanwydd sydd wedi'u cyflwyno ar gyfer cynyrchiadau.
Bydd angen i chi gysylltu gyda Phenaethiaid Adrannau i sicrhau caiff y gwaith hwn ei gyflawni yn ddiogel ac yn unol â'r ddeddfwriaeth a'r protocolau.
Mae'n ymwneud â chaffael yr arfau, bwledi a'r tanwydd o'u mannau storio diogel, eu defnyddio neu sicrhau modd i eraill eu defnyddio gan ofalu cân nhw eu dychwelyd yn ddiogel. Mae hefyd yn ymwneud â darparu'r dogfennau gofynnol i'r perwyl hwn a chydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth a'r protocolau bob amser.
Bydd gofyn i chi wirio nad oes unrhyw unigolyn sy'n derbyn arf wedi'i gludo oddi ar y set a bydd gofyn i chi fod yn ymwybodol o'r gweithdrefnau y dylech chi eu gweithredu os oes arf yn mynd ar goll.
Bydd gofyn i chi hefyd gynnal system weinyddol ar gyfer deunyddiau; gallai fod yn system lluniau, electronig neu system ar bapur.
Mae'r safon hon yn arbennig ar gyfer goruchwylwyr Arfau a chydlynwyr Arfau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- darparu dogfennau ar gyfer dosbarthu a dychwelyd yr arfau, y bwledi a'r tanwydd
- cysylltu gyda'r staff priodol sydd ynghlwm â dosbarthu a dychwelyd yr arfau, y bwledi a'r tanwydd
- cadarnhau bod yr arfau a'r bwledi yn ddiogel cyn eu defnyddio neu eu dosbarthu ar y cynhyrchiad
- dosbarthu arfau, bwledi a thanwydd gan gydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth a'r protocolau
- gwirio bod yr holl ddeunyddiau rheoledig sydd wedi'u dosbarthu yn cael eu hadennill ar ddiwedd y ffilmio
- gofalu am ddiogelwch y cast a'r criw bob amser wrth drin yr arfau, y bwledi a'r tanwydd
- hysbysu'r staff neu'r awdurdodau perthnasol am yr arfau, y bwledi a'r tanwydd sydd ar goll
- dwyn i ystyriaeth yr holl agweddau asesu a rheoli risg a darparu dogfennau i'r perwyl hwn
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth a'r protocolau ar gyfer dosbarthu a dychwelyd yr arfau, y bwledi a'r tanwydd rheoledig
- y broses ar gyfer dosbarthu a chasglu'r arfau, y bwledi a'r tanwydd rheoledig i'w defnyddio ar gynhyrchiad
- y Penaethiaid Adrannau a'r cyrff gorfodi y mae gofyn i chi gysylltu gyda nhw a'u hysbysu
- y systemau sydd ar waith er mwyn sicrhau bod yr holl arfau, bwledi a thanwydd rheoledig yn cael eu gwirio ac yn ddiogel
- sut i sefydlu a chynnal system weinyddu dogfennau ar gyfer cofnodi gwybodaeth sy'n ymwneud â dosbarthu a dychwelyd yr arfau, y bwledi a'r tanwydd
- defnyddio'r arfau, y bwledi a'r tanwydd yn ddiogel gan gydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth a’r protocolau
- unrhyw wahaniaethau a phryderon cenedlaethol neu ryngwladol a allai effeithio ar ddosbarthu a dychwelyd y deunyddiau a'r eitemau hyn yn ddiogel
- sut caiff hunaniaeth yr unigolion sy'n derbyn arfau ei gofnodi
- y gweithdrefnau priodol i'w dilyn ar gyfer celfi, arfau neu fwledi sydd ar goll
- sut i gyflawni a chofnodi asesiad risg