Cludo arfau, bwledi a thanwydd ar gyfer cynyrchiadau
URN: SKSAR4
Sectorau Busnes (Suites): Cyflenwi Arfau ar gyfer Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i gludo arfau, bwledi a thanwydd i'w defnyddio ar gynyrchiadau gan gydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth a'r protocolau.
Mae'n ymwneud â chynllunio llwybr, cysylltu gyda'r awdurdodau priodol, llwytho a dadlwytho arfau, bwledi a thanwydd gan gydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth a'r protocolau a sicrhau eu bod nhw wedi'u cadw'n ddiogel ac yn briodol ar y safle.
Mae'r safon hon yr arbennig ar gyfer goruchwylwyr Arfau a chydlynwyr Arfau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwirio bod yr holl ddogfennau'n gyflawn ac yn gywir
- cysylltu gyda'r awdurdodau a'r mudiadau priodol sy'n ymwneud â chludo arfau, bwledi a thanwydd
- cynllunio llwybr cludo sy'n sicrhau bod yr eitemau'n cyrraedd yn ddiogel ac yn brydlon gan gydymffurfio gyda'r protocoliau y cytunwyd arnyn nhw
- gwirio bod yr arfau, y bwledi a'r tanwydd wedi'u gosod, eu storio a'u dadlwytho gan gydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth a'r protocolau
- gofalu am ddiogelwch y cast a'r criw bob amser wrth gludo'r arfau, y bwledi a'r tanwydd
- gwirio bod y gyrwyr a'r unigolion sy'n cludo'r arfau, y bwledi a'r tanwydd yn meddu ar y dogfennau a'r tystysgrifau priodol sy'n profi eu bod yn gymwys
- gwirio bod y lefelau priodol o yswiriant ar waith a bod modd cyflwyno dogfennau i'r perwyl hwn pan fo gofyn amdanyn nhw
- dwyn i ystyriaeth yr holl agweddau asesu a rheoli risgiau a darparu dogfennau i'r perwyl hwn
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth a'r protocoliau ar gyfer cludo'r arfau, y bwledi a'r tanwydd
- sut i gynllunio llwybr priodol, gan fod yn ymwybodol o'r dulliau cludo gofynnol ar gyfer gwahanol arfau, bwledi a thanwydd
- yr awdurdodau priodol y dylech chi gysylltu gyda nhw
- sut i baratoi dogfennau ar gyfer cludo'r arfau, y bwledi a'r tanwydd
- sut i bacio a llwytho cerbydau cludo'n ddiogel
- y protocolau ar gyfer sicrhau caiff yr arfau, y bwledi a'r tanwydd eu cludo gan gydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth a'r protocolau
- sut i ymchwilio unrhyw ofynion cenedlaethol neu ryngwladol allai effeithio ar gludo'r arfau, y bwledi a'r tanwydd yn ddiogel
- sut i adnabod y bobl gymwys sy'n gallu cyflawni'r dasg hon a darparu dogfennau i'r perwyl hwn
- yr yswiriant a'r trwyddedau priodol sydd angen eu rhoi ar waith i gludo'r arfau, y bwledi a'r tanwydd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSAR4
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfryngau a chyfathrebu, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt y Cyfryngau
Cod SOC
3147
Geiriau Allweddol
cludo; arfau; bwledi; tanwydd; diogelwch;