Cynnal gweithdy arfau dros dro ar gyfer cynyrchiadau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gweithio gydag arfau mewn amgylchedd gweithdy gan gydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth a'r protocolau.
Bydd yn ymwneud â chreu neu gynnal gofod gweithdy diogel a gofalu am eich iechyd a diogelwch chi, a'r criw rydych yn gweithio gyda nhw, bob amser.
Mae hefyd yn ymwneud â sicrhau bod y gofod yn lân, yn drefnus ac wedi'i reoli'n dda er mwyn cyflawni eich gwaith. Gallai'r gwaith rheoli ymdrin â sefydlu gofod llogi sych i allu cyflawni'r gwaith gofynnol yn effeithiol, gan gynnwys glanhau a sicrhau bod yr ardal yn yr un cyflwr ag oedd hi'n flaenorol.
Fel rhan o'r gwaith hwn, bydd disgwyl i chi gysylltu gyda swyddog gynnau lleol i gymeradwyo storfa ardystiedig a diogel ar gyfer arfau a bwledi.
Mae'r safon hon yn cyfeirio at weithio mewn gofodau gweithdy parhaol a dros dro, gan sicrhau bod digon o le i gyflawni'r gwaith gofynnol yn effeithiol.
Mae'r safon hon yn arbennig ar gyfer Arfogwyr a goruchwylwyr Arfau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- trefnu'r gofod gweithdy gan sicrhau caiff y cyfarpar a'r deunyddiau eu cadw yn y mannau priodol pan na chân nhw eu defnyddio
- adnabod staff y cynhyrchiad y bydd angen i chi gysylltu gyda nhw ynghylch yr asesiad risg
- darparu dogfennau, yn ôl yr angen, gan fanylu ar unrhyw wybodaeth berthnasol am ofod y gweithdy
- gwirio a chadarnhau bod yr holl gyfleustodau a'r cyfarpar yn cael eu gosod a'u defnyddio gan gydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth a'r protocolau
- sicrhau bod y gofod gweithdy yn ddiogel bob amser
- monitro'r holl baramedrau diogelwch yn y gweithdy a darparu dogfennau i'r perwyl hwn, yn ôl yr angen
- cysylltu gyda staff y cynhyrchiad er mwyn cadarnhau bod y lefelau priodol o yswiriant ar waith a darparu dogfennau i'r perwyl hwn
- cadw cofnodion cynnal a chadw a sicrhau bod modd darparu tystysgrifau gwirio
- darparu systemau gwaredu gwastraff ac ailgylchu gan gydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth a'r protocolau
- dwyn i ystyriaeth yr holl agweddau asesu a rheoli risgiau a darparu dogfennau i'r perwyl hwn
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y cyfarpar sydd gennych chi ac rydych chi'n ei ddefnyddio yn yr ardal waith
- sut i gynnal a chadw'r gofod gweithdy gan sicrhau ei fod yn lân ac yn effeithlon
- lleoliad cyflenwadau'r cyfleustodau a'u haddasrwydd
- sut i lwytho a dadlwytho cyfarpar trwm
- sut i gysylltu gyda staff y cynhyrchiad ynghylch asesiadau risg ac effaith y rhain ar y gofod gweithdy
- y mesurau iechyd a diogelwch ar gyfer gweithio mewn amgylchedd gweithdy a'r ddeddfwriaeth y mae angen cydymffurfio gyda hi
- system drydanol yr adeilad ac effaith hynny ar y gwaith gaiff ei gyflawni yno
- y cyfarpar echdynnu aer sydd ar waith yn y gweithdy
- sut i sicrhau caiff deunyddiau ac arfau eu cadw'n ddiogel yn y gweithdy
- y system ddiogelwch a'r prosesau ar gyfer gweithredu yn y gweithdy a'r adeilad
- sut i lunio paramedrau diogelwch yn y gofod gweithdy, gan gynnwys, ond heb ei gyfyngu i, peryglon baglu a thâp rhwystrau
- sut i adnabod a storio sylweddau peryglus
- sut i reoli gwaredu gwastraff ac ailgylchu yn unol â'r ddeddfwriaeth a'r protocolau
- y gofynion yswiriant a thrwyddedu ar gyfer gofodau gweithdy dros dro a pharhaol a sut i egluro'r hyn y mae polisi'r cynhyrchiad neu'r cwmni yn ymdrin ag o
- pwysigrwydd cadw cofnodion ar gyfer cynnal a chadw cyfarpar ac asesiadau risg