Cynllunio, ymchwilio a chaffael arfau ar gyfer cynyrchiadau

URN: SKSAR2
Sectorau Busnes (Suites): Cyflenwi Arfau ar gyfer Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i gynllunio ac asesu gofynion arfau ar gyfer cynhyrchiad.

Mae'n ymwneud â gwybod pa arfau sydd fwyaf priodol a rhannu'r wybodaeth angenrheidiol gyda staff y cynhyrchiad.

Bydd angen i chi gydweithio gydag ystod o adrannau cynhyrchu megis yr adrannau camera, Effeithiau Arbennig, Effeithiau Gweledol, celfi a gwisgoedd er mwyn darparu a bodloni'r gofynion priodol.

Bydd angen i chi hefyd gydweithio gyda'ch tîm er mwyn sicrhau ymchwil manwl gywir a throsi a phrofi'r arfau'n ddiogel. 

Bydd gofyn i chi gynllunio'n ofalus o'r camau cychwynnol hyd at gwblhau'r cynhyrchiad.

Mae'r safon hon yn arbennig ar gyfer cydlynwyr Arfau a goruchwylwyr Arfau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​asesu ac ymchwilio'r gofynion sydd ynghlwm ag arfau
  2. paratoi manyleb arfau, ar y cyd â phenaethiaid adrannau a staff allweddol
  3. sicrhau bod yr holl agweddau ac unrhyw ddefnydd o arfau'n cydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth, protocolau a'r safonau diogelwch
  4. cynnig dogfennau tystiolaethol ar ragofalon diogelwch sydd ar waith i'r mudiadau perthnasol
  5. rhannu holl agweddau'r fanyleb gyda'ch tîm a staff y cynhyrchiad
  6. darparu dogfennau a chyfarwyddiadau eglur i aelodau'r tîm ynghylch defnyddio'r arfau
  7. cydweithio gydag adrannau a staff perthnasol
  8. cynnig cyngor ac arweiniad i staff y cynhyrchiad ynghylch yr holl agweddau iechyd a diogelwch sydd ynghlwm â defnyddio arfau
  9. cysylltu gyda chyflenwyr celfi a gwneuthurwyr deunyddiau i sicrhau bod yr holl rannau'n briodol ar gyfer y defnydd arfaethedig
  10. trosi arfau fel sy'n briodol
  11. awgrymu a chynnig cynlluniau a syniadau amgen gan gadw at y gyllideb a'r amserlen, os yn briodol
  12. asesu'r risgiau sydd ynghlwm â defnyddio arfau gan bennu'r rhagofalon priodol fel sy'n briodol
  13. recriwtio criw cymwys ar gyfer y cynhyrchiad
  14. sicrhau bod y lleoliad yn ddiogel unwaith eto wedi i'r cynhyrchiad ddod i ben
  15. dwyn i ystyriaeth yr holl agweddau ynghlwm ag asesu a rheoli risg a darparu dogfennau i'r perwyl hwn

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i ymchwilio'r wybodaeth ofynnol ar gyfer gofynion yr arfau
  2. pryd i awgrymu defnyddio ôl-gynhyrchu ac Effeithiau Gweledol ar gyfer effeithiau arfau
  3. beth fydd ei angen o ran arfau er mwyn creu'r effaith arfau dymunol ar gyfer y cyfnod, y stori a'r sgript
  4. mecaneg yr arfau a sut i drosi neu greu rhywbeth sy'n ymddangos yn argyhoeddiadol
  5. y ffurfiau camera a'r manylebau technegol sydd ar gael gan gynnwys gwahanol lensys, ffurfiau, egwyddorion a chymarebau fframio, mowntiau, onglau saethiadau, dyfnder y maes, egwyddorion golygfeydd a chyfyngiadau graddfa  
  6. sut mae perfformwyr styntiau'n gweithio a'r paramedrau diogelwch mae gofyn iddyn nhw gydymffurfio gyda nhw
  7. cyfyngiadau a pholisïau'r cynhyrchiad, gan gynnwys iechyd a diogelwch, yswiriant, cyllidebau ac amserlenni
  8. sut i greu a defnyddio celfi a deunyddiau gweithredu ar gyfer arfau
  9. y ddeddfwriaeth a'r paramedrau gweithio'n ddiogel cyfredol ar gyfer defnyddio arfau ar y set
  10. yr heriau ynghlwm â throsi a defnyddio arfau o dan amodau gweithdai a sicrhau bod modd rhoi diogelwch ac effeithlonrwydd ar waith yn y stiwdio ac ar leoliad 
  11. hierarchaeth y cynhyrchiad ac i bwy dylid cyflwyno gwybodaeth iddyn nhw yn ystod gwahanol gamau'r broses gynllunio ac ar y set
  12. amserlen, cyllideb, rhaglen a chynllun eich adran chi ac anghenion adrannau eraill

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSAR2

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau

Cod SOC

3147

Geiriau Allweddol

ymchwil; gofynion arfau; cynyrchiadau; cynlluniau;