Llunio sgript a dadansoddiad cyllideb yn ymwneud â gofynion arfau ar gyfer cynyrchiadau

URN: SKSAR1
Sectorau Busnes (Suites): Cyflenwi Arfau ar gyfer Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â llunio dadansoddiad yn ymwneud â'r gofynion ynghylch arfau gan gydymffurfio gyda gofynion y sgript a'r cynhyrchiad.

Bydd angen ichi gysylltu gyda Phenaethiaid Adrannau, gwneuthurwyr, awdurdodau rheoleiddio ac unrhyw fudiadau perthnasol eraill i sicrhau bod y gofynion yn cydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth a'r protocolau.

Bydd hyn fel arfer yn ymwneud â dwyn i ystyriaeth paramedrau'r cyfnod, y lleoliad a'r dilysrwydd.

Mae'r safon hon ar gyfer cydlynwyr Arfau a goruchwylwyr Arfau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​dehongli a dadansoddi sgript er mwyn pennu pa arfau sydd eu hangen
  2. cadarnhau bod modd defnyddio'r arfau yn ddiogel, yn unol â'r ddeddfwriaeth a chan gydymffurfio gydag amodau unrhyw ofynion yswiriant a thrwyddedu bob amser
  3. darparu dogfen friffio gan gynnwys byrddau stori a delweddau
  4. cynnig syniadau am arfau amgen pan fo'n ofynnol
  5. ymgynghori gyda chleientiaid ac adrannau eraill am ofynion y ddogfen friffio
  6. creu cyllideb ar gyfer gofynion arfaethedig yr arfau, gan gydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth a'r protocolau
  7. adnabod pa arfau a deunyddiau sy'n fwyaf priodol ar gyfer pob golygfa
  8. asesu'r lleoliad i bennu pa mor briodol yw hi i ddefnyddio'r arfau a'r deunyddiau sydd wedi'u nodi
  9. ystyried effaith asesiad y lleoliad ar gyllideb ac amserlen y cynhyrchiad
  10. cynnig cadarnhad i staff y cynhyrchiad bod yr holl arfau wedi'u caffael a'u gwirio
  11. cadarnhau bod yr yswiriant cywir mewn grym i ddarparu a defnyddio'r arfau a bod yr holl dystysgrifau a'r trwyddedau'n ddilys ac yn gyfredol
  12. dwyn i ystyriaeth yr holl agweddau ynghlwm ag asesu a rheoli risgiau a darparu dogfennau i'r perwyl hwn pan fo'u hangen

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i ddehongli a dadansoddi sgript gan ddwyn i ystyriaeth diogelwch, cyfnod y sgript, lleoliad a dilysrwydd yr eitemau a'r deunyddiau gofynnol
  2. proses y cynhyrchiad a sut mae modd cyflawni'r agweddau ynghlwm â hyn
  3. gofynion y cynhyrchiad a'r gallu i awgrymu syniadau ar gyfer arfau, gan gydymffurfio gyda'r gyllideb sydd ar gael ac amserlen y cynhyrchiad
  4. rôl yr adrannau eraill, yn enwedig yr adrannau Camera, Styntiau, Effeithiau Arbennig Corfforol a Gweledol a sut i gydweithio gyda'r adrannau hyn er mwyn cyflawni'r effaith gofynnol
  5. sut i ddarparu byrddau stori, delweddau a chymhorthion darlunio i gynnig cyngor am yr arfau sydd fwyaf addas i'w defnyddio
  6. sut i gyllidebu pob agwedd o'r cynllun, gan gynnwys llafur, adnoddau, a gwneuthurion, gan sicrhau fod yswiriant priodol ar waith hefyd
  7. pryd a sut i gysylltu gyda staff perthnasol y cynhyrchiad er mwyn sicrhau bod modd bodloni gofynion yr arfau
  8. y gwahanol fathau o arfau a'r gofynion deddfwriaeth ac yswiriant sy'n berthnasol i'r rhain
  9. pwysigrwydd cyflawni a chofnodi asesiadau risg

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSAR1

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau

Cod SOC

3147

Geiriau Allweddol

arfau; arfogwyr; dadansoddiad sgript; dadansoddiad cyllideb; deddfwriaeth; gofynion yswiriant; asesiad risg;