Cynnal a chadw cyfarpar chwaraeon ac adloniant
Trosolwg
Mae’r uned hon yn ymwneud â chynnal a chadw cyfarpar chwaraeon ac adloniant, dilyn cynllun cynnal a chadw eich sefydliad a chyfarwyddiadau gwneuthurwyr. Y mae’n ymwneud â nodi’r gwaith cynnal a chadw sydd angen ei wneud ac yna cyflawni’r cynnal a chadw hwnnw. Gall diben gweithgareddau cynnal a chadw fod yn:
- cynnal arferol
- delio â thorri i lawr
Gall fod angen gwirio ar y canlynol: - cyfarpar argyfwng
- cyfarpar sy’n cael ei weithio â llaw
- cyfarpar pŵeredig.
Rhennir yr uned i dair rhan. Mae’r rhan gyntaf (tudalen 2) yn rhoi rhai enghreifftiau ac esboniadau o rai geiriau yr ydym yn eu defnyddio yn yr uned hon. Mae’r ail ran (tudalennau 3-4) yn disgrifio’r ddau beth y mae’n rhaid i chi eu gwneud. Y rhain yw:
- Gwirio’r cyfarpar a nodi pa gynnal a chadw sydd ei angen
- Cynnal a thrwsio cyfarpar
Mae’r drydedd ran (tudalennau 5-6) yn disgrifio’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth y mae’n rhaid i chi eu cael.
Grŵp Targed
Mae’r uned yma ar gyfer pobl all gynnal a chadw cyfarpar chwaraeon ac adloniant gydag ychydig o oruchwyliaeth. Rhaid i ymgeiswyr fod yn ymwybodol o’u cyfyngiadau eu hunain ac adrodd am gyfarpar a chyfleusterau sydd angen sylw arbenigol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Gwirio cyfarpar a nodi pa gynnal a chadw sydd ei angen
P1 gwirio’r cyfarpar, gan ddilyn y rhaglen cynnal a chadw a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
P2 achosi cyn lleied â phosibl o darfu ar weithgareddau normal
P3 nodi’r cyfarpar sydd angen cynnal a chadw
P4 symud unrhyw gyfarpar anniogel rhag cael ei ddefnyddio
P5 gwirio bod gennych chi’r gallu a’r awdurdod i wneud y gwaith cynnal a chadw eich hun
P6 adrodd am unrhyw waith cynnal a chadw y mae’n rhaid i arbenigwr technegol ei wneud
P7 cofnodi’r gwiriadau yr ydych wedi eu gwneud, y gwaith sydd angen ei wneud ac unrhyw gamau yr ydych wedi eu cymryd
Cynnal a thrwsio cyfarpar
P8 gwirio bod gennych chi’r gallu a’r awdurdod i wneud y gwaith cynnal a thrwsio
P9 gwneud yn siwr bod y cyfarpar mewn cyflwr diogel ar gyfer ei gynnal a’i gadw
P10 achosi cyn lleied â phosibl o darfu ar weithgareddau normal
P11 trefnu eich parth gwaith fel gall y gwaith gael ei wneud mewn modd diogel ac effeithlon
P12 dewis yr offer a’r deunyddiau cywir ar gyfer y gwaith
P13 gwneud y gwaith cynnal a thrwsio gan ddilyn gweithdrefnau eich sefydliad a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
P14 adrodd i’r cydweithiwr cyfrifol am unrhyw broblemau yn ystod y gwaith cynnal a thrwsio
P15 gwneud gwiriadau terfynol i’r cyfarpar er mwyn gwneud yn siwr ei fod yn ddiogel ac y gellir ei gynnal
P16 cofnodi’r gwaith yr ydych wedi ei wneud
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1
K1.1 pwysigrwydd cofnodi’r hyn sydd wedi’i wneud ac unrhyw gamau pellach mae angen eu cymryd a sut i gwblhau’r cofnodion hyn
K1.2 y gofynion o ran iechyd a diogelwch ar gyfer y cyfarpar yr ydych yn gyfrifol am ei gynnal a’i gadw
Ar gyfer C16.1 Gwirio cyfarpar a nodi pa waith cynnal a chadw sydd ei angen
K2 pwysigrwydd iechyd a diogelwch pan yn gwirio cyfarpar a pheryglon peidio â gwirio cyfarpar yn drylwyr
K3 y rhannau perthnasol o gynllun cynnal a chadw’r sefydliad a chanllawiau’r gwneuthurwr ar gyfer y mathau o gyfarpar ym maes gwaith yr ymgeisydd
K4 pwysigrwydd achosi cyn lleied â phosibl o darfu ar weithgareddau normal a sut i wneud hynny
K5 sut i nodi pryd mae cyfarpar angen cynnal a chadw
K6 symud unrhyw gyfarpar anniogel rhag cael ei ddefnyddio a sut i wneud hynny
K7 cyfyngiadau eich galluoedd eich hun pan ddaw i wneud gwaith cynnal a chadw – y mathau o waith cynnal a chadw y caniateir i chi ei wneud mewn modd diogel
K8 sut i adrodd am waith cynnal a chadw mae angen arbenigwr technegol i’w wneud
K9 pwysigrwydd cofnodi gwiriadau a’r gwaith sydd angen ei wneud a sut i wneud hynny
For C16.2 Cynnal a thrwsio cyfarpar
K9.1 1 pwysigrwydd gwneud yn siwr bod cyfarpar mewn cyflwr diogel ar gyfer ei gynnal a’i drwsio
K9.2 2 gwybod sut i wneud yn siwr bod cyfarpar ym maes eich gwaith yn ddiogel ar gyfer cynnal a chadw
K9.3 3 yr offer a’r deunyddiau cywir ar gyfer y cynnal a’r trwsio yr ydych yn gyfrifol amdano a phwysigrwydd defnyddio’r rhai cywir
K9.4 pwysigrwydd dilyn gweithdrefnau’r gwneuthurwr a’r sefydliad ar gyfer cynnal a chadw a thrwsio a gweithredu mewn modd diogel drwy’r amser – beth all ddigwydd oni wneir hyn
K9.5 5 gweithdrefnau’r gwneuthurwr a’r sefydliad ar gyfer cynnal a thrwsio’r cyfarpar ym maes eich cyfrifoldeb
K9.6 6 pwysigrwydd adrodd am unrhyw broblemau i’r cydweithiwr cyfrifol a sut i wneud hynny
K9.7 pwysigrwydd gwneud gwiriadau terfynol cyn i’r cyfarpar gael ei ddefnyddio drachefn
K9.8 8 y safonau ar gyfer diogelwch a defnyddioldeb y cyfarpar ym maes eich cyfrifoldeb a’r gwiriadau i’w gwneud er mwyn gwneud yn siwr eich bod yn cwrdd â hwy
K9.9 9 pwysigrwydd cofnodi’r hyn sydd wedi’i wneud, a sut i gwblau’r cofnodion hyn
Cwmpas/ystod
Rhaid i chi ddangos o’ch gwaith eich bod wedi gwirio pob un o’r mathau canlynol o:
- gyfarpar
- cyfarpar argyfwng
- cyfarpar sy’n cael ei weithio â llaw
- cyfarpar wedi’i bŵeru
- cyfarpar ar gyfer cynnal a thrwsio
Rhaid i chi ddangos o’ch gwaith eich bod wedi gwirio pob un o’r mathau canlynol o sefyllfaoedd:
0. cynnal a thrwsio
- arferol
- delio â thorri i lawr
wedi cynnal a thrwsio’r mathau canlynol o
3. gyfarpar
4. cyfarpar argyfwng
5. cyfarpar sy’n cael ei weithio â llaw
6. cyfarpar wedi’i bŵeru
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Bydd yr uned hon yn darparu rhywfaint o dystiolaeth ar gyfer y canlynol ACC Sgiliau Allweddol Cyfathrebu 2.1a, 2.2, 2.3 Cymhwyso Rhif 1.1, 1.2, 1.3 Gweithio gydag Eraill 2.1, 2.2, 2.3 Datrys Problemau 2.1, 2.2, 2.3
a’r Sgiliau Craidd ACA canlynol Cyfathrebu Canolradd 1 Mynediad i Rifedd 3 Gweithio gydag Eraill Canolradd 1 Datrys Problemau Canolradd 1
1.1. 7 pwysigrwydd gwneud gwiriadau terfynol cyn i’r cyfarpar gael ei ddefnyddio drachefn
1.2. 8 y safonau ar ddiogelwch a defnyddioldeb ar gyfer cyfarpar ym maes eich cyfrifoldeb a’r gwiriadau i’w gwneud er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cwrdd â’r rhain
1.3. 9 pwysigrwydd cofnodi’r hyn sydd wedi’i wneud, a sut i gwblhau’r cofnodion hyn.
Geirfa
Cyfarpar argyfwng
Deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch
Cynllun cynnal a chadw
Cyfarpar sy’n cael ei weithio â llaw
Deunyddiau
Cyfarpar wedi’i bŵeru
Dolenni I NOS Eraill
- Mae’r uned yma’n cysylltu’n agos ag Uned C12.
- Ei lle yn y Fframwaith CGC/CGA
- Mae’r uned yma’n un dewisol yn y CGC/CGA lefel 2 Gwasanaethau Gweithredol a CGC/CGA lefel 2 Arwain Gweithgared