Hwyluso a chyflwyno rhaglenni chwaraeon a gweithgaredd corfforol yn y gymuned

URN: SKAWWC4
Sectorau Busnes (Suites): Gweithio o fewn y gymuned
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

​Mae'r safon yma'n disgrifio'r medrusrwydd mae ymarferwyr sy'n gweithio o fewn y gymuned ei angen ar gyfer hwyluso a chyflwyno rhaglenni chwaraeon a gweithgaredd corfforol yn y gymuned. Byddwch yn defnyddio dulliau a strategaethau ar gyfer creu amgylchedd gadarnhaol, ymgysylltu â'r rhai sy'n cymryd rhan a'u grymuso, sicrhau bod y rhaglen yn berson-ganolog ac yn benodol i anghenion, nodau ac amcanion y gymuned. Bydd angen i chi gymhwyso amrywiaeth o ddamcaniaethau a dulliau yn ogystal â bod yn addasadwy er mwyn sicrhau priodoldeb ac effeithiolrwydd y rhaglen.

Mae'r safon yma ar gyfer pob ymarferydd sy'n gweithio o fewn y gymuned.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. adeiladu cydberthynas gyda'r rhai sy'n cymryd rhan a sefydlu eich swyddogaeth

  2. rhyngweithio gyda'r rhai sy'n cymryd rhan, cydweithwyr, a gwirfoddolwyr yn unol â gofynion y rhaglen a rheoliadau a gweithdrefnau cyfundrefnol

  3. creu awyrgylch gorfforol, gymdeithasol ac emosiynol gadarnhaol a grymusol ar gyfer y rhai sy'n cymryd rhan

  4. cymhell cydweithwyr a gwirfoddolwyr i gyflawni eu swyddogaethau gydag ymrwymiad a brwdfrydedd, gan ddefnyddio dulliau sy'n briodol ar gyfer eu hanghenion, galluoedd a hoffterau

  5. defnyddio amrywiaeth o ddulliau er mwyn sicrhau newid cadarnhaol mewn agweddau ac ymddygiadau

  6. addasu eich arfer eich hun a defnyddio dull person-ganolog er mwyn cwrdd ag anghenion y rhai sy'n cymryd rhan

  7. gwneud yn siwr bod ffiniau diogelwch effeithiol, addasadwy, a hyblyg wedi eu sefydlu gan ddilyn gofynion iechyd a diogelwch

  8. unigoleiddio a gwahaniaethu'r cyflwyniad er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth yn gynhwysol, yn cwrdd ag anghenion, nodau ac amcanion y rhai sy'n cymryd rhan a'i fod ar gael iddynt

  9. cyfarwyddo, addysgu, hyfforddi a mentora'r rhai sy'n cymryd rhan gan ddefnyddio dulliau a strategaethau perthnasol, er mwyn cyflawni'r canlyniadau a ddymunir

  10. defnyddio datblygiadau a chynnyrch technolegol er mwyn cefnogi eich cyflwyniad

  11. cyfathrebu gyda'r rhai sy'n cymryd rhan ac eraill ar gyflymder, mewn modd ac ar lefel sy'n briodol ar gyfer eu dealltwriaeth, hoffterau a'u hanghenion

  12. rheoli ymddygiad aflonyddol gan y rhai sy'n cymryd rhan

  13. defnyddio amrywiaeth o ddulliau er mwyn galluogi'r unigolyn sy'n cymryd rhan i roi adborth er mwyn cefnogi darpariaeth yn y dyfodol

  14. gweithredu o fewn rhychwant eich ymarfer ac yn unol â'r canllawiau

  15. dilyn deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i sefydlu eich swyddogaeth gyda'r rhai sy'n cymryd rhan, cydweithwyr a gwirfoddolwyr gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau a dulliau o gyfathrebu

  2. sut i greu a chynnal perthynas gadarnhaol, broffesiynol ac sy'n ennyn ymddiriedaeth gyda'r rhai sy'n cymryd rhan

  3. pwysigrwydd grymuso'r rhai sy'n cymryd rhan i gymryd lefel o ymreolaeth ac annibyniaeth pan yn cyflwyno'r rhaglen

  4. manteision defnyddio cydweithwyr a gwirfoddolwyr i gefnogi'r cyflwyniad

  5. egwyddorion, dulliau, offer a thechnegau cymhellol

  6. damcaniaethau o newid ymddygiad

  7. y gwahanol ddulliau gan gynnwys person-ganolog, addysgeg/addysg oedolion a'u cymhwyso ar gyfer mabwysiadau eu hymarfer eu hunain i gwrdd ag anghenion y rhai sy'n cymryd rhan

  8. pwysigrwydd ffiniau diogelwch effeithiol, addasadwy a hyblyg gan ddilyn gofynion iechyd a diogelwch

  9. dulliau o wahaniaethu er mwyn ymateb i hoffterau dysgu a chyfathrebu gwahanol y rhai sy'n cymryd rhan

  10. sut i wneud y ddarpariaeth yn gynhwysol ar gyfer grwpiau targed penodol ac ar gael iddynt

  11. amrywiaeth eang o offer, strategaethau a thechnegau cyfathrebu addas fydd yn cefnogi'r rhai sy'n cymryd rhan i gwrdd a'u hanghenion

  12. pwyigrwydd hinsawdd gymhellol a'r effaith gaiff hyn ar y rhai sy'n cymryd rhan

  13. damcaniaethau perthnasol o ddatblygiad dynol a chymdeithasol, llythrennedd corfforol a modelau o seicoleg a ddefnyddir ar gyfer hwyluso a chyflwyno rhaglenni

  14. amrywiaeth o ddatblygiadau a chynnyrch technolegol all gefnogi cyflwyno rhaglenni

  15. yr ystyriaethau cymdeithasol economaidd, daearyddol, amgylcheddol a chyfreithiol mewn perthynas â rhoi technolegau ar waith

  16. beth a sut i gymhwyso deallusrwydd emosiynol a diwylliannol er mwyn ymgysylltu mewn modd effeithiol â'r rhai sy'n cymryd rhan

  17. ymchwil a damcaniaethau perthnasol am grebwyll a gwneud penderfyniadau

  18. sut i reoli ymddygiad aflonyddol mewn modd effeithiol

  19. yr amrywiaeth eang o ddulliau priodol i alluogi'r rhai sy'n cymryd rhan i roi adborth i'w helpu i ddysgu o'u profiad

  20. rhychwant a chyfyngiadau eich medrusrwydd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd chi eich hun fel ag y mae'n berthnasol i'ch swydd chi

  21. deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

​Mae’r safon yma’n cysylltu â SKAWWC3


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

n/a

Galwedigaethau Perthnasol

Ysgogydd cymunedol, Swyddog gweithgaredd corfforol a iechyd, Hyfforddwr / Cyfarwyddwr

Cod SOC

3442

Geiriau Allweddol

cymuned; gweithgaredd corfforol; chwaraeaon; cyflwyno; hwyluso; rhaglenni