Llunio rhaglenni chwaraeon a gweithgaredd corfforol yn y gymuned
Trosolwg
Mae'r safon yma'n disgrifio'r medrusrwydd mae ymarferwyr sy'n gweithio o fewn y gymuned ei angen ar gyfer llunio rhaglenni chwaraeon a gweithgaredd corfforol yn y gymuned. Byddwch yn cwrdd ag anghenion grwpiau cymunedol a chytuno ar y rheiny o'r rhaglen tra hefyd yn sicrhau cyfraniad gan gydweithwyr a gwirfoddolwyr. Gan ddefnyddio mewnwelediad, byddwch yn llunio rhaglen chwaraeon a gweithgaredd corfforol atyniadol ac arloesol i ddod â grwpiau cymunedol at ei gilydd ac elwa o fod yn weithgar.
Mae'r safon yma ar gyfer pob ymarferydd sy'n gweithio o fewn y gymuned.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cyfathrebu gyda'r gymuned, cydweithwyr a gwirfoddolwyr ar gyflymder, mewn ffordd ac ar lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth, hoffter ac anghenion
- datblygu hinsawdd gymhellol gadarnhaol er mwyn cefnogi anghenion seicolegol a grymuso'r gymuned o ran gwneud penderfyniadau
- defnyddio mewnwelediad i gefnogi datblygiad rhaglenni chwaraeon a gweithgaredd corfforol deniadol ac arloesol
- nodi a herio rhagdybiaethau lle bo angen
- nodi a hyrwyddo'r budd posibl gall chwaraeon a gweithgaredd corfforol eu cael ar grwpiau cymunedol ac unigolion
- sicrhau bod gan y gymuned, cydweithwyr a gwirfoddolwyr ddealltwriaeth gywir o nodau'r rhaglen a sut maent yn cysylltu â'r amcanion cyffredinol
- gweithio gyda'r cymunedau, cydweithwyr a gwirfoddolwyr i nodi anghenion, nodau ac amcanion y rhaglen
- nodi rhwystrau posibl i bobl gymryd rhan a rhoi strategaethau priodol ar waith er mwyn lleihau'r perygl o bobl yn rhoi'r gorau iddi
- llunio rhaglenni deniadol ac arloesol sy'n cymhwyso gweithgareddau a thechnegau priodol wedi eu cefnogi gan ymchwil a damcaniaethau addas sy'n benodol i anghenion, nodau ac amcanion y grŵp cymunedol
- dod o hyd i ffynonellau cyllid perthnasol er mwyn cefnogi rhaglenni cymunedol
- nodi adnoddau sydd eu hangen i gyflawni anghenion, nodau ac amcanion eu rhaglen
- hwyluso grwpiau cymunedol i feddwl yn arloesol am yr adnoddau a'r asedau sydd ar gael iddynt
- amlinellu system fonitro a gwerthuso i werthuso'r prosiect/rhaglenni
- gweithredu o fewn rhychwant eich ymarfer ac yn unol â'r canllawiau
- dilyn deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
amrediad eang o offer cyfathrebu, strategaethau a thechnegau addas sy'n briodol i ddealltwriaeth, hoffter ac anghenion cymunedau, cydweithwyr a gwirfoddolwyr
pwysigrwydd grymuso'r gymuned i gymryd lefel o ymreolaeth ac annibyniaeth yn ei hanghenion, nodau ac amcanion
- damcaniaethau perthnasol sy'n cefnogi hinsawdd gymhellol
- pwysigrwydd hinsawdd gymhellol a'r effaith gaiff hyn ar grwpiau cymunedol
- cymhwyso damcaniaethau perthnasol o ddatblygiad dynol a chymdeithasol, wrth gynllunio a llunio rhaglenni arloesol
- y mathau o fewnwelediad yn ystod y cam datblygu a'u pwysigrwydd
- sut i ddefnyddio mewnwelediad er mwyn datblygu rhaglenni addas
- damcaniaethau o newid ymddygiad
- pwysigrwydd edrych ar ragdybiaethau a'u herio er mwyn sicrhau newid effeithiol mewn ymddygiad
- pwysigrwydd a manteision chwaraeon a gweithgaredd corfforol i unigolion a chymunedau
- pwysigrwydd cydweithredu gyda'r gymuned, cydweithwyr a gwirfoddolwyr ynglŷn â gofynion y rhaglen
- rhwystrau a chymhellyddion ar gyfer amrywiaeth o grwpiau cymunedol
- egwyddorion llunio rhaglen
- sut i lunio rhaglenni deniadol ac arloesol sy'n gynhwyol ar draws pob cymuned
- amrywiaeth eang o ddulliau ar gyfer cwrdd ag anghenion, nodau ac amcanion yr unigolyn a'r gymuned
- ffynonellau cyllido sydd ar gael ar gyfer cefnogi rhaglenni cymunedol
- sut i ystyried y gofyn am adnoddau ac asedau sydd ar gael
- systemau clir ar gyfer monitro a gwerthuso
- rhychwant a chyfyngiadau eich medrusrwydd, cyfrifoldebau ac atebolrwydd chi eich hun fel ag y mae'n berthnasol i'ch swydd chi
- deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Mae’r safon yma’n cysylltu â SKAWWC2 and SKAWWC4