Gweithio gyda’r gymuned er mwyn datblygu strategaeth ar gyfer darparu rhaglenni chwaraeon a gweithgaredd yn y gymuned
Trosolwg
Mae'r safon yma'n disgrifio'r medrusrwydd sydd ei angen ar ymarferwyr sy'n gweithio o fewn y gymuned er mwyn datblygu strategaeth ar gyfer darparu rhaglenni chwaraeaon a gweithgaredd corfforol yn y gymuned. Byddwch yn cydweithrdu gyda grwpiau cymunedol i ddeall eu hanghenion, nodau ac amcanion a hyrwyddo manteision chwaraeon a gweithgaredd corfforol er mwyn cefnogi'r rhain.
Mae'r safon yma ar gyfer ymarferwyr sy'n gweithio o fewn y gymuned.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
gweithio gydag unigolion a grwpiau er mwyn asesu'r amgylchedd wleidyddol, gymdeithasol ac economaidd gyfnewidiol sy'n effeithio ar eu cymuned
ymchwilio a dadansoddi agendâu a chyfleoedd cyllido cenedlaethol, lleol perthnasol
creu diwylliant o ymddiriedaeth a pharchu ei gilydd rhwng cymunedau
hyrwyddo ffyrdd o weithio sy'n gynhwysol ar draws cymunedau amrywiol ac ymylol
cefnogi cymunedau i nodi'n glir a chytuno ar nodau, amcanion, canlyniadau a gofynion strategaeth ar gyfer anghenion eu cymuned yn seiliedig ar eich ymchwil
cyfathrebu manteision gweithio cydweithredol sy'n herio rhagdybiaethau a stereoteipiau
hyrwyddo manteision chwaraeon a gweithgaredd corfforol a sut mae hyn yn cysylltu ag anghenion cymunedol
cefnogi cymunedau i asesu'r manteision a'r risgiau posibl o ymwneud â gwaith cydweithredol
hyrwyddo ffyrdd o gynnwys cymunedau anhygyrch
codi ymwybyddiaeth o rwystrau i gymryd rhan ar gyfer grwpiau cymunedol
11. cefnogi grwpiau cymunedol i oresgyn rhwystrau i gyflawni eu anghenion, nodau ac amcanion
adeiladu ar gryfderau, sgiliau ac arbenigedd unigolion o fewn y gymuned er mwyn cefnogi nodau, amcanion, canlyniadau a strategaethau
gwerthuso'r adnoddau sy'n bod ar gyfer cwrdd â blaenoriaethau cymunedol a fynegwyd
14. cyfnerthu gwybodaeth berthnasol a datblygu strategaeth ar gyfer darparu chwaraeon a gweithgaredd corfforol arloesol ac effeithiol
monitro a gwerthuso gweithio cydweithredol er mwyn gwella ymarfer yn y dyfodol
gweithredu o fewn rhychwant eich ymarfer ac yn unol â'r canllawiau
dilyn deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
polisïau llywodraeth lleol a chenedlaethol perthnasol sy'n effeithio ar y gymuned yn cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgaredd corfforol
amgylcheddau gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd a'u heffaith ar gymunedau
tirwedd cyllido a'r cyfleoedd sydd ar gael
4. sut i ymgysylltu â phob carfan o gymunedau gan gynnwys y rhai amrywiol ac anhygyrch
5. sut i greu a chynnal perthynas gadarnhaol, broffesiynol ac un sy'n ennyn ymddiriedaeth gyda'r rhai sy'n cymryd rhan
- amrywiaeth grwpiau a chymunedau
7. manteision adnabod a rhoi gwerth ar amrywiaeth
8. sut mae anghyfiawnder, camwahaniaethu, ac allgau cymdeithasol yn effeithio ar fywydau unigolion a chymunedau
pwysigrwydd grwpiau cymunedol yn penderfynu ar eu anghenion, nodau ac amcanion eu hunain
amrywiaeth eang ooffer, strategaethau a thechnegau cyfathrebu addas
risgiau a manteision gweithio ar y cyd
sut i weithio yn gynhwysol ar draws pob cymuned
rhwystrau i gynnwys pobl a dulliau a thechnegau ar gyfer goresgyn y rheiny
cryfderau, sgiliau ac arbenigedd unigolion a sut gall y rhain gefnogi nodau, canlyniadau, strategaethau'r prosiect
15. sut i fanteisio ar asedau ac adnoddau sy'n bodoli ar hyn o bryd er mwyn cwrdd ag amcanion, canlyniadau a strategaethau'r prosiect
sut i ddatblygu strategaeth wedi'i seilio ar wybodaeth a gasglwyd er mwyn sicrhau bod rhaglen chwaraeon a gweithgaredd corfforol ar gael
sut i fonitro a gwerthuso gweithio cydweithredol er mwyn gwella ymarfer yn y dyfodol
rhychwant a chyfyngiadau eich medrusrwydd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd chi eich hun fel ag y mae'n berthnasol i'ch swydd chi
deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Mae’r safon yma’n cysylltu gyda SKAWWC3 a SKAWWC4