Ymgeisio am gyllid ar gyfer prosiectau chwaraeon a gweithgaredd corfforol yn y gymuned
Trosolwg
Mae'r safon yma'n disgrifio'r medrusrwydd mae ymarferwyr sy'n gweithio o fewn y gymuned ei angen ar gyfer dod o hyd i ffynonellau cyllido perthnasol a rhoi ceisiadau i mewn i gefnogi cyfleoedd newydd, gwahanol, neu ragor ohonynt ar gyfer chwaraeon neu weithgaredd corfforol yn y gymuned. Mae'n golygu dealltwriaeth o'r tirwedd cyllido a manteisio ar gyfleoedd cyllido. Mae hefyd yn canolbwyntio ar y gweithredoedd a'r gweithdrefnau perthnasol sy'n rhan o ysgrifennu a chynnig ceisiadau am gyllid.
Mae'r safon yma ar gyfer pob ymarferydd sy'n gweithio o fewn y gymuned.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
nodi ffynonellau o gyllid ar gyfer galluogi mwy o gyfleoedd i chwaraeon a gweithgaredd corfforol yn y gymuned
sicrhau bod ffynonellau posibl o gyllid yn gydnaws â gwerthoedd ac amcanion y sefydliad
3. gwerthuso addasrwydd y cyllido yn erbyn meini prawf y cais a ddynodir yn y gwahoddiad i dendro a sefydlu'r tebygolrwydd o lwyddiant o ran canran
cynnig strategaeth, atebion a dulliau posibl ar gyfer y cais drwy ymgynghori ag eraill er mwyn sicrhau bod y siawns o lwyddiant mor uchel â phosibl
creu cynllun ar gyfer y cynnig, gan ddangos adnoddau, cerrig milltir allweddol, dyddiadau cau, dyddiadau adolygu a'r hyn a gyflawnir
cadarnhau gofynion gwneud y cais, cytuno ar ffurf y cyflwyniad a'i ddatblygu, ar gyfer y cais gan ddefnyddio templadau perthnasol
addasu ffyrdd clir a chyson o ysgrifennu gan ddefnyddio'r iaith sy'n briodol ar gyfer y gynulleidfa
8. diffinio cynigion gwerthu unigryw eich sefydliad, gwahaniaethydd(ion) allweddol, atebion, a manteision i ddangos sut mae'r cynnig yn ychwanegu gwerth ac yn cwrdd â gofynion y cyllidwr neu fynd y tu hwnt iddynt
llunio'r cais yn unol â meini prawf y cais
cyflwyno ceisiadau wedi eu drafftio i eraill er mwyn cael adborth
cyflwyno'r cais yn unol â chynllun y cais a chael cadarnhad ei fod wedi ei dderbyn
12. cofnodi pob agwedd o ganlyniad y cais er mwyn ymarfer yn y dyfodol
amlinellu system fonitro a gwerthuso glir er mwyn gwerthuso canlyniad y cais
gweithredu o fewn rhychwant eich ymarfer ac yn unol â'r canllawiau
dilyn deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
sut i nodi ffynonellau o gyllid ar gyfer chwaraeon a gweithgaredd corfforol yn y gymuned
pwysigrwydd gweithio gyda chyrff llywodraethu cenedlaethol, partneriaethau chwaraeon, cymuned a'r ector gwirfoddol i gefnogi cyfleoedd cyllido
gwerthoedd ac amcanion busnes
anghenion y gymuned mewn perthynas â chyllido posibl
sut i sicrhau'r wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer datblygu cynllun cais
egwyddorion perthnasol addasrwydd y cais a gwerthusiad yn erbyn y meini prawf a ddynodir
sut i ddehnongli meini prawf asesu/sgorio a gwerthuso'r tebygrwydd o lwyddiant
sut i ddatblygu cynllun strategol y sefydliad er mwyn helaethu'r potensial ar gyfer datblygu'r gwasanaeth
sut i ddewis a chymhwyso'r ffurfiad, lluniad a dull ysgrifennu mwyaf priodol ar gyfer cais a dogfennu'r ffyrdd o'i gynllunio
y gofynion ar gyfer cyflwyniad, gweithredoedd perthnasol ac atebion mewn perthynas â chyfle i wneud cais
11. sut i gymryd i ystyriaeth ymchwil ac adborth gan eraill a'i ddefnyddio fel rhan o'r broses lunio
y prosesau o gyflwyno cais
y technegau perthnasol ar gyfer asesu pwyntiau gwerthu unigryw eich sefydliad, gwahaniaethydd(ion), atebion a manteision
systemau monitro a gwerthuso eglur
rhychwant a chyfyngiadau eich medrusrwydd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd chi eich hun fel ag y mae'n berthnasol i'ch swydd chi
16. deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Mae’r safon yma’n cysylltu â SKAWWC2