Cyflawni gwasanaeth ymgynghori triciolegol
Trosolwg
Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol. Mae'r safon yma'n ymwneud ag ymarferwyr sy'n darparu gwasanaeth ymgynghori triciolegol drwy ymchwilio, archwilio, dadansoddi a synthesis er mwyn rheoli a gwella cyflyrau o groen y pen a'r gwallt o fewn rhychwant eich maes ymarfer. Bydd gofyn i ddefnyddwyr y safon yma i adnabod, nodi, penderfynu'r etioleg a chyfeirio neu gymeradwyo triniaeth ar gyfer anhwylderau a chyflyrau o groen y pen a'r gwallt. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon yma sicrhau bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, polisïau, gweithdrefnau a'r canllawiau arferion gorau diweddaraf. Caiff defnyddwyr y safon yma eu cynghori i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio â, gofynion cymorth cyntaf, yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch cyn, yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth ymgynghori triciolegol yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, cyfarwyddebau a chanllawiau, i gynnwys:
1.1 cyfrifoldebau dros blant dan oed ac oedolion bregus
2. gwneud ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr ac asesiad cychwynnol a/neu adolygiad gyda'r unigolyn er mwyn ffurfio cofnod ymchwilio triciolegol, i gynnwys:
2.1 cydsyniad gwybodus
2.2 y pryderon, arwyddion a'r symptomau a brofir gan yr unigolyn
2.3 disgwyliadau a chanlyniadau disgwyliedig yr unigolyn
2.4 hanes meddygol cyfredol, meddyginiaeth a chyflyrau sydd wedi eu datguddio
2.5 gwrtharwyddion cymharol a llwyr
2.6 hanes triniaeth o'r gwallt a chroen y pen a'r defnydd o gynnyrch
2.7 maethiad ac ymborth
2.8 ffordd o fyw
2.9 ysteried lles corfforol a seicolegol yr unigolyn
2.10 dewisiadau posibl ar gyfer triniaeth
3. egluro'r broses ymchwilio a'r gweithdrefnau ymchwilio perthnasol, i gynnwys:
3.1 sicrhau dealltwriaeth yr unigolyn a chael cydsyniad gwybodus ar gyfer gweithdrefnau ymchwilio sydd wedi eu cymeradwyo
4. cyflawni'r gweithdrefnau ymchwilio perthnasol yn unol ag amcanion gwasaanaeth yr unigolyn, polisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol a'r protocol ymgynghori triciolegol
monitro iechyd a lles yr unigolyn drwy gydol y gweithdrefnau ymchwilio
cofnofi'r canlyniadau gwasanaeth triciolegol a delweddau gweledol a'u cadw yn unol â deddfwriaeth data, gofynion yswiriant a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
dadansoddi a dehongli canlyniadau'r gweithdrefnau ymchwilio a gyflawnir er mwyn cadarnhau cyflwr croen pen a/neu wallt yr unigolyn a gwneud penderfyniad wedi ei hysbysu, i gynnwys:
7.1 sylfaen y dystiolaaeth sydd ar gael
- adolygu, arsylwi a chymharu cynnydd cyflwr croen y pen a'r gwallt yn ôl y gofyn
9. ystyried addasiadau i'r cynllun rheolaeth
10. egluro a chyfathrebu'r canfyddiadau gyda'r unigolyn
11. trafod y dewisiadau ar gyfer y cynllun rheoli ar gyfer anhwylder a chyflwr croen y pen a/neu’r gwallt, i gynnwys:
11.1 y driniaeth(au)
11.2 cyfeirio at bobl broffesiynol eraill lle bo hynny'n briodol
11.3 cyngor ar ofalu am groen y pen a'r gwallt
11.4 cyngor yn ymwneud â maethiad ac ymborth hanfodol
11.5 y strwythurau taliadau
11.6) dewis(iadau) amgen ar gyfer gwasanaeth
11.7 caniatau amser i'r unigolyn i wneud dewis gwybodus
- ffurfio a chytuno ar gynllun rheoli sydd wedi ei wneud yn bwrpasol ar gyfer yr unigolyn:
12.1 crynodeb o'r cyngor a'r argymhellion gan gynnwys triniaeth(au) sydd wedi eu hargymhell
12.2 diweddaru cofnodion gwasanaeth triciolegol yr unigolyn a'u cadw yn unol â deddfwriaeth data
12.3 cyfeiriad ffurfiol at rywun proffesiynol perthnasol er mwyn rhagor o ymchwiliad, profion a/neu driniaeth
defnyddio arfer adfyfyriol er mwyn gwerthuso'r gwasanaeth triciolegol a chymryd camau priodol
cytuno ar apwyntiadau amserol er mwyn arsylwi cynnydd cyflwr croen y pen a/neu'r gwallt yn unol â'r cynllun rheoli sydd wedi ei wneud yn bwrpasol ar gyfer yr unigolyn
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. pwysigrwydd cydweithredu gyda phobl broffesiynol gymwys er mwyn cefnogi arferion gwaith effeithiol a diogel
- pwysigrwydd ymwneud â a dogfennu datblygiad proffesiynol parhaus, polisïau gwybodaeth, gweithdrefnau a chanllawiau arfer gorau wedi eu diweddaru
3. eich swyddogaeth a’ch cyfrifoldebau o ran cyflawni gwasanaethau ymgynghori triciolegol a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu, i gynnwys:
3.1 eich lles corfforol a seicolegol a sut y gall hyn effeithio ar y ddarpariaeth o wasnaaeth ymgynghori triciolegol
4. pam ei bod yn rhaid i chi gydymffurfio gydag arfer foesegol a gweithio o fewn y gofynion deddfwriaethol
5. y cyfrifoldebau o dan reolau trwyddedu'r awdurdod lleol drosoch chi eich hunan a'ch adeiladau
- yr anatomeg a'r ffisioleg a gwyddorau cysylltiol sy'n berthnasol i'r safon yma
7. y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy’n berthnasol i wasnaethau triciolegol
7.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis a chyfeirio meddygol
7.2 sut a phryd i gyfathrebu a/neu gyfeirio at bobl broffesiynol o fewn ac oddi allan i'r maes gofal iechyd
8. y cyflyrau triciolegol cyffredin a gaiff eu cyflwyno a'u potensial ar gyfer triniaethau ffarmacolegol cysylltiedig
9. y ffactorau cynhenid ac anghynhenid sy'n dylanwadu ar gyflwr y gwallt, tŵf y gwallt a chroen y pen
10. y mathau a'r etiolegau o
10.1 afiechydon y croen
10.2 anhwylderau a chyflyrau'r croen
10.3 anhwylderau a chyflyrau o strwythur y gwallt gweladwy
10.4 anhwylderau colli gwallt
10.5 cyflyrau meddygol
11. pathogenesis o anhwylderau strwythur y gwallt gweladwy, tŵf y gwallt a chroen y pen
- pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd o'r croen a niwed i groen y pen a'u cyfeirio i rywun proffesiynol perthnasol ym maes iechyd
13. y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth ymgynghori triciolegol
14. pam ei bod yn bwysig trafod a sefydlu amcanion yr unigolyn, pryderon ynghylch y gwallt a chroen y pen, disgwyliadau a'r canlyniadau a ddymunir, er mwyn cael y wybodaeth ar gyfer y gwasanaeth ymgynghori triciolegol
y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu gwasanaethau ymgynghori triciolegol a chynlluniau rheolaeth a argymhellir ar gyfer plan o dan oed ac oedolion bregus
y damcaniaethau cymdeithasol ddiwylliannol ynglŷn â delwedd y corff a newid ymddygiad iechyd sy'n ymwnud â chroen y pen a'r gwallt, i gynnwys:
16.1 y gefnogaeth sydd ar gael
16.2 sut i gyfathrebu mewn modd sensitif gyda'r unigolyn drwy gydol y gwasanaeth ymgynghori triciolegol
pwysigrwydd cadw at y protocol gwasanaeth triciolegol
y gweithdrefnau ymchwilio a ddefnyddir mewn gwasanaethau ymgynghori triciolegol a sut i'w cyflawni
sut i ddehongli canlyniadau o weithdrefnau ymchwilio
20. sut i adolygu a monitro datblygiad anhwylderau a chyflyrau o groen y pen a/neu'r gwallt
- rhan ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth
22. sut mae’r asesiad cychwynnol, y sail tystiolaeth sydd ar gael a chanlyniadau’r weithdrefn ymchwio, gyda’i gilydd yn darparu gwybodaeth ar gyfer cynllun rheolaeth sydd wedi ei wneud yn bwrpasol
23. y defnydd o raddfeydd priodol er mwyn asesu a dosbarthu o fewn gweithdrefnau ymchwlio triciolegol
y dewisiadau ar gyfer y cynllun rheoli a thriniaeth*(au) ***
y ffyrdd y gellir gwella a rheoli anhwylderau a chyflyrau o groen y pen a'r gwallt
yr amrediad o ddewisiadau cuddliwio sydd ar gael ar hyn o bryd
y dosbarthiadau mwyaf o faetholion a sut maent yn effeithio ar iechyd croen y pen, y gwallt a thŵf y gwallt
y triniaethau, gweithdrefnau a'r cyngor sy'n gysylltiedig â gwasanaethau triciolegol
29. cyfansoddiad cemegol ac effeithiau cynnyrch a gaiff eu defnyddio o fewn gwasanaethau triciolegol sydd yn cael eu hargymhell
diben, defnydd a chynnal a chadw offer a chyfarpar a ddefnyddir o fewn gwasanaeth ymgynghori triciolegol
yr effeithiau niweidiol y gall cemegolion a chynnyrch prosesu’r gwallt eu cael ar y gwallt a chroen y pen i gynnwys:
31.1 alergeddau a sensitifeddau
31.2 diraddiad o strwythur y gwallt gweladwy
32. pwysigrwydd trafod a chael cytundeb ynglŷn â’r cynllun rheolaeth sydd wedi ei gymeradwyo, i gynnwys:
32.1 y strwythurau taliadau
32.2 gallu'r unigolyn i ddeall y wybodaeth
32.3 caniatau digon o amser i'r unigolyn wneud penderfyniad wedi ei hysbysu
32.4 rheoli disgwyliadau'r unigolyn
32.5 y sylfaen dystiolaeth sydd ar gael
33. pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth ymgynghori triciolegol
34. y gofynion deddfwriaethol, rheoleiddiol a digollediad ar gyfer darparu gwasanaeth ymgynghori triciolegol i gynnwys:
34.1 cwblhau a chadw cofnodion gwasanaeth yr unigolyn
34.2 cymryd a chadw cofnodion gweledol o fan triniaeth yr unigolyn
34.3 archwilio ac atebolrwydd
34.4 hawliau'r unigolyn
34.5 cydsyniad wedi ei hysbysu ar gyfer y gwasanaeth ymgynghori triciolegol a gweithdrefnau ymchwilio
- diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a'r modd y mae'n darparu gwybodaeth er mwyn gwella darpariaeth y gwasanaeth yn y dyfodol
Cwmpas/ystod
Gweithdrefnau Ymchwilio
1. archwilio'r gwallt a chroen y pen drwy edrych arnynt ac â llaw
2. y defnydd o dricoscopeg
3. meicroscopeg gyda golau o strwythur y gwallt gweladwy
4. diflewiad
5. delweddau gweledol
6. prawf tynnu
7. asesu mandylledd
8. asesu hydwythedd
9. dwysder a mesuriadau'r gwallt
10. y defnydd o raddfeydd/sgorisu cydnabyddiedig
*
*
Protocol gwasanaeth ymgynghori triciolegol
- amgylchedd waith
- iechyd a diogelwch
- rhwystro a rheoli haint
- cynllun gweithdrefn
cydsyniad gwybodus
canlyniadau prawf
- cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
- rheoli data
- archwilio ac atebolrwydd
- cyfarwyddiaadau a chyngor
- cynaliadwyedd
- rheoli gwastraff
- ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth
- ymarfer adfyfyriol
Cyfryngau Gweledol
- ffotograffig
- fideo, gan gynnwys recordiadau o gyfathrebu arlein
*
*Anatomeg a ffisioleg a gwyddorau cysylltiol
- strwythur a swyddogaeth systemau'r corff a'u cyd-ddibyniaeth ar ei gilydd
- strwythur a swyddogaeth y gwallt
- bioleg tŵf y gwalt
- strwythur a swyddogaeth y croen
- Strwythur ysgerbydol y greuan
- Anhwlyderau a chyflyrau croen y pen a'r gwallt
- Diffyg maeth a/neu anghydbwysedd ymborth
- Cemeg sylfaenol sy'n ymwneud â gofal croen y pen a'r gwallt
Ffactorau anghynhenid a chynhenid
- ymborth
ategion ymborth
ffordd o fyw
- iechyd corfforol ac emosiynol
- genetaidd
- alergreddau a sensitifeddau
- trefn gofal am groen y pen a'r gwallt
- meddyginiaeth
- oedran
Etiolegol
- allereddau/atopig
- ymwnud ag awtoimiwnedd
- genetig
- maethlon
- afiechyd ac anhwylder systemig
- seicolegol
- prosesu cemego a niwed mecanyddol
- idiopathig
- meddyginiaethau
- corfforol
- amgylcheddol
*
*Cefnogaeth
- hunan gymorth
- elusennau
- grwpiau cefnogi
- llwybrau cyfeirio
- sefydliadau professiynol
Cynlluniau rheolaeth a thriniaeth(au)
1.tylino croen y pen
dewisiadau cuddliwio
glanhau a chyflyru croen y oen a chynnal y gwallt
cyngor am faethiad hanfodol ac ymborth
ymyriadau cosmetig heb fod yn llawfeddygol
therapïau gwres
cynnyrch heb gael rhagnodiad
cyfeirio at rywun proffesiynol ym maes iechyd
cyfeirio at lawfeddyg adfer gwallt
Dewisiadau Cuddliwio
- ffibrau gwallt dros dro neu ffurfiant croen y pen
- meicroliwiad croen y pen
- systemau wedi eu hintigreiddio
- darnau gwallt a gwalltiau gosod
*
*
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwrtharwydd llwyr
* *Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio.
Adwaith niweidiol
Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. llewygu
Etioleg
Gellir hefyd alw etioleg y nachos neu reswm a gyflwr o'r gwallt neu groen y pen
Gwrth weithred
Gwrth weithred yw adwaith neu ganlyniad 'disgwyliedig' yn dilyn gwasanaeth, e.e. erythema
Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth
Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth orau cyfredol, dilys a pherthnasol sydd ar gael.
Cymorth Cyntaf
Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.
Colli gwallt ac anhwlylderau’r gwallt gweladwy
Protocol
Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer gorau a chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau h.y. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.
Graddfeydd
Caiff graddfeydd eu defnyddio i fesur datblygiad colli gwallt. Gall y raddfa Hamilton Norwood fod yn enghraifft o hyn
Anhwylderau croen y pen
Mae anhwylderau croen y pen yn deillio o ffynhonell gynradd neu eilaidd Cant eu categoreiddio fel llidiol, anllidiol, presenoldeb anafiadau ar y croen, haint a/neu bla.
Gwrtharwydd cymharol
Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau.
*
*
Dolenni I NOS Eraill
SKAHDBRBNST1 SKATCS1 SKAHDBRBNST2 SKAHDBRBNST3 SKAHDBRBNT1 SKANSC7 SKABA4 SKABA8