SKAST3 Darparu triniaeth lapio'r corff ac arnofio
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chyflawni triniaethau lapio'r corff ac arnofio, gan gynnwys paratoi'r ystafell driniaeth, cynnyrch ac offer. Mae paratoi'r cleient, ymgynghori a monitro'r driniaeth hefyd wedi eu cynnwys.
Er mwyn cynnal y safon hon bydd angen i chi gynnal iechyd, diogelwch a hylendid effeithiol trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal eich ymddangosiad personol a dangos sgiliau cyfathrebu ac ymgynghori effeithiol.
Prif ganlyniadau'r safon hon yw:
1. cynnal dulliau diogel ac effeithiol o weithio wrth ddarparu triniaethau lapio'r corff ac arnofio
2. ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau
3. darparu triniaethau lapio'r corff
4. darparu triniaethau arnofio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynnal dulliau diogel ac effeithiol o weithio wrth ddarparu triniaethau lapio'r corff ac arnofio
1. cynnal eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch trwy gydol y driniaeth
2. paratoi'ch cleient a'ch hun i fodloni gofynion cyfreithiol a sefydliadol
3. cynnal urddas a phreifatrwydd eich cleient
4. gosod eich cleient mewn safle i fodloni anghenion y driniaeth
5. sicrhau bod eich ystum eich hun a'ch dulliau gwaith yn isafu ar flinder a risg o anaf i chi'ch hun ac eraill
6. sicrhau bod amodau amgylcheddol yn addas i'r cleient a'r driniaeth
7. cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus trwy gydol y triniaethau
8. defnyddio dulliau gwaith sy'n isafu ar risg o groes-heintio
9. sicrhau defnydd ar gyfarpar a deunydd glân
10. hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy
11. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyflenwyr neu gynhyrchwyr ar ddefnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch
12. cael gwared ar ddeunydd gwastraff i fodloni gofynion cyfreithiol
13. cynnal y driniaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol
Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau
14. defnyddio technegau ymgynghori i bennu cynllun triniaeth y cleient
15. sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan riant neu warcheidwad ar gyfer plant cyn unrhyw driniaeth
16. sicrhau bod rhiant neu warcheidwad yn bresennol trwy gydol y driniaeth ar gyfer plant sy'n iau na 16 oed
17. adnabod unrhyw wrtharwyddion a chymryd unrhyw camau angenrheidiol
18. cytuno ar driniaeth a chanlyniadau sy'n bodloni anghenion y cleient
19. cofnodi pwysau a mesuriadau corff eich cleient, yn unol ag amcanion y driniaeth
20. rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y driniaeth a ddarparwyd
21. sicrhau bod cofnodion y cleient yn cael eu cwblhau a'u llofnodi gennych chi a'r cleient
Darparu triniaethau lapio'r corff
22. taenu'r paratoad croen yn unol ag amcanion y driniaeth
23. paratoi a taenu'r deunydd lapio a chynnyrch triniaeth i fodloni amcanion y driniaeth
24. sicrhau y taenir a defnyddir y deunyddiau lapio a chynnyrch y driniaeth i leihau gwastraff ac osgoi baeddu'r ardal gyfagos
25. tynnu'r deunydd lapio a chynnyrch y driniaeth
26. sicrhau bod y cleient yn fodlon â'r canlyniad gorffenedig a'i fod yn bodloni amcanion y driniaeth y cytunwyd
Darparu triniaethau arnofio
27. cadarnhau dealltwriaeth y cleient o'r driniaeth arnofio a'i amcanion
28. addasu offer arnofio yn unol ag anghenion y cleient a sicrhau bod y cleient yn gyfforddus
29. gwirio lles y cleient a sicrhau bod y cleient yn gyfforddus trwy gydol y driniaeth
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynnal dulliau diogel ac effeithiol o weithio wrth ddarparu triniaethau lapio'r corff ac arnofio
1. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffinnir gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n berthnasol i'ch swydd
2. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer diogelu a pharatoi cleient
3. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer eich hylendid, amddiffyniad ac ymddangosiad personol
4. y rhesymau dros gynnal urddas a phreifatrwydd y cleient
5. technegau gosod eich hun a'ch cleient yn ddiogel i atal anghysur
6. amodau amgylcheddol angenrheidiol ar gyfer gwasanaethau, megis gwresogi ac awyru, a pham mae'r rhain yn bwysig
7. pam ei bod hi'n bwysig cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus
8. dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio
9. pam mae hi'n bwysig osgoi croes-heintio uniongyrchol ac anuniongyrchol trwy weithio'n ddiogel ac yn lân
10. y gwahanol fathau o ddulliau gwaith sy'n hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy
11. y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gwaith diogel y mae'n rhaid i chi eu dilyn
12. cyfarwyddiadau cyflenwyr a chynhyrchwyr ar gyfer defnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch y mae'n rhaid i chi eu dilyn
13. y gofynion cyfreithiol ar gyfer cael gwared ar wastraff
14. y rhesymau dros gwblhau'r driniaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol
Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau
15. pam ei bod yn bwysig cyfathrebu gyda chleientiaid mewn modd proffesiynol
16. sut i gynnal ymgynghoriad gan ystyried anghenion amrywiol y cleient
17. y gofynion cyfreithiol ar gyfer trin plant sy'n iau na 16 oed
18. yr oed pan fydd unigolyn yn cael ei ystyried yn blentyn a sut mae hynny'n amrywio'n genedlaethol
19. pwysigrwydd cytuno ar driniaeth sy'n bodloni anghenion y cleient
20. arwyddocâd cyfreithiol dros sicrhau caniatâd gwybodus wedi'i lofnodi gan y clleient cyn derbyn triniaeth
21. y gofynion deddfwriaethol ar gyfer storio a diogelu data cleient
22. sut i adnabod gwrtharwyddion a fyddai'n atal neu'n cyfyngu ar y driniaeth
23. y gwrtharwyddion sy'n gofyn am atgyfeiriad meddygol a pham
24. y camau angenrheidiol i'w cymryd mewn perthynas â gwrtharwyddion penodol wrth gyfeirio cleientiaid
25. y rhesymau dros beidio ag enwi gwrtharwyddion penodol wrth atgyfeirio cleientiaid
26. sut i fesur a phwyso cleientiaid ar gyfer triniaethau lapio'r corff i feinhau
27. sut y gall pwysau'r corff a ffrâm y corff effeithio ar driniaethau arnofio
Darparu triniaeth lapio'r corff ac arnofio
28. y gofynion paratoi ar gyfer triniaethau arnofio
29. y gwahanol fathau o driniaethau cynhesu a'u heffeithiau
30. defnydd a manteision offer a chynnyrch sydd ar gael ar gyfer triniaethau lapio'r corff ac arnofio
31. sut i brofi a dehongli canlyniadau crynodiadau dŵr a chemegau ar gyfer arnofio gwlyb
32. pwysigrwydd gwirio lles y cleient yn rheolaidd
33. adweithiau posibl a allai ddigwydd yn ystod triniaethau lapio'r corff ac arnofio a sut i ddelio â hwy
34. effaith triniaethau lapio'r corff ac arnofio ar y croen, systemau cylchredol, lymffatig, endocrin, ysgarthol a threulio
35. y cyfyngiadau yn dilyn triniaeth sy'n berthnasol i driniaethau lapio'r corff ac arnofio
36. y cyngor i'w roi i gleientiaid yn cynnwys gorffwys ac yfed dŵr
37. y cyngor ac argymhellion ar gynnyrch a gwasanaeth
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Technegau ymgynghori
1. holi
2. gwrando
3. edrych
4. teimlo
5. ysgrifenedig
Amcanion y driniaeth
1. teneuo
2. dadwenwyno
3. maethu'r croen
Cyngor ac argymhellion
1. cynnyrch ôl-ofal addas a'u defnydd
2. osgoi gweithgareddau a allai achosi adweithiau
3. y cyfnodau a argymhellir rhwng triniaethau
4. cynnyrch a thriniaethau yn awr ac yn y dyfodol
5. cyngor ar orffwys ac ymlacio yn dilyn triniaeth
Paratoi'r croen
1. defnyddio cynnyrch digennu
2. technegau brwsio'r corff
3. triniaethau cynhesu
Cynnyrch y driniaeth
1. gwymon
2. olewau
3. mwd
4. geliau
5. hufenau
Gwybodaeth Cwmpas
Iechyd a diogelwch
1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
2. Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)
3. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)
4. Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)
5. Rheoliadau Gweithredoedd Codi a Chario
6. Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
7. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
8. Deddf Diogelu'r Amgylchedd
9. Y Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle
10. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Gyflogeion)
Arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy
1. gostwng gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)
2. gostwng defnydd ar ynni (cyfarpar sy'n arbed ynni, goleuadau ynni isel, defnyddio paneli solar)
3. gostwng defnydd ar ddŵr ac adnoddau eraill
4. atal llygredd
5. defnyddio eitemau untro
6. defnyddio dodrefn wedi'u hailgylchu, ecogyfeillgar
7. defnyddio paent â chemegau isel
8. defnyddio cynnyrch organig a rhydd o alergedd
9. defnyddio pecynnau cynnyrch ecogyfeillgar
10. dewis cynnyrch domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)
11. annog siwrneion i'r gwaith sy'n gostwng carbon
Gwrtharwyddion sy'n atal
1. cyflyrau heintus y croen
2. camweithrediad y system nerfol
3. meinwe craith diweddar
4. lympiau a chwyddiadau heb ddiagnosis
Gwrtharwyddion sy'n cyfyngu
1. pwysedd gwaed uchel/isel
2. briwiau a chrafiadau
3. llosg haul
Anghenion amrywiol
1. diwylliannol
2. crefyddol
3. oed
4. anabledd
5. rhyw
Cyngor ac argymhellion
1. gwasanaethau ychwanegol
2. cynnyrch ychwanegol
3. effeithiau newid i batrymau ffordd o fyw ar iechyd a lles
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba
1. parodrwydd i ddysgu
2. agwedd hyblyg i weithio
3. gweithiwr tîm
4. agwedd bositif
5. moeseg bersonol a phroffesiynol
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiad a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba. Mae'r ymddygiad hwn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r sefydliad a'r unigolyn
1. bodloni safonau ymddygiad y sefydliad
2. cyfarch y cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar
3. cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu
4. trin y cleient yn gwrtais ac yn wasanaethgar bob amser
5. addasu'r ymddygiad i ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiad gan y cleient
6. gwirio gyda'r cleient eich bod chi wedi deall eu disgwyliadau yn llawn
7. ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient
8. adnabod gwybodaeth y gallai'r cleient ei chael yn gymhleth a gwirio a ydynt wedi deall yn llawn
9. esbonio'n glir wrth y cleient os na ellir bodloni eu hanghenion neu'u disgwyliadau am unrhyw reswm
10. cynnal dulliau gwaith effeithiol, glân a diogel
11. cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr a'r cynhyrchwyr wrth ddefnyddio cyfarpar, deunyddiau a chynnyrch yn ddiogel
12. bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant.
Sgiliau
Mae'r sgiliau allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba
1. y gallu i hunan-reoli
2. cyfathrebu llafar a di-eiriau gwych
3. defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol o gyfathrebu gyda chleient
4. ymateb yn brydlon i gleient sy'n gofyn am gymorth
5. canfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient
6. rhoi gwybodaeth y mae ei hangen ar gleient am wasanaethau a chynnyrch a gynigir gan y sefydliad
Geirfa
Lapio'r corff
Mae'r corff yn cael ei lapio'n glud mewn blanced, blanced drydanol, rhwymau lliain, tywod, cynfasau, tyweli neu mewn gwely triniaeth Pecyn Meddal/Arnofio Sych neu beiriant cabinet stêm.
Rhoddir cynnyrch ar y corff ac mae'r cleient yn ymlacio am 20 munud i ganiatáu i'r cynnyrch amsugno.
Arnofio Sych
Triniaeth ymlacio gyflawn a bron ar unwaith, ble mae'r corff yn cael ei lapio'n glud mewn cynfas gwrth-ddŵr ac yn arnofio'n llythrennol sych, heb unrhyw bwyntiau gwasgedd ar y corff, yn arnofio mewn dŵr cynnes.
Triniaethau cynhesu
Gall y rhain gynnwys pecynnau gwres, sawna, stêm, isgoch, baddonau, baddonau cwyr paraffin a chawod bwerus, oll yn enghreifftiau o driniaethau cynhesu.
Arnofio gwlyb
Mae arnofio gwlyb yn gyfuniad o ystafell dywyll a phwll bas o halen Epsom, i alluogi'r corff i arnofio sy'n annog ymlacio dwys.