Monitro cleientiaid a gweithrediad y sba
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â sefydlu, monitro a diffodd gweithrediad cyfleusterau'r sba. Mae hefyd yn cynnwys ymsefydlu ac ymgynghori â'r cleient, gofal yn ystod y driniaeth, monitro'r driniaeth a chyngor.
Er mwyn cynnal y safon hon bydd angen i chi gynnal iechyd, diogelwch a hylendid effeithiol trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal eich ymddangosiad personol a dangos sgiliau cyfathrebu ac ymgynghori da.
Prif ganlyniadau'r safon hon yw:
1. cynnal dulliau diogel ac effeithiol o weithio wrth sefydlu a monitro gweithrediad y cyfleusterau sba
2. darparu ymgynghoriad gofal a chyngor i'r cleient
3. cau ardaloedd triniaeth i lawr
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynnal dulliau diogel ac effeithiol o weithio wrth sefydlu a monitro gweithrediad y cyfleusterau sba
*
*1. cynnal eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch trwy gydol y driniaeth
2. paratoi a monitro yr ardaloedd triniaeth sba i fodloni gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
3. paratoi a diogelu'r cleient i fodloni gofynion cyfreithiol a sefydliadol
4. sicrhau bod eich hylendid, amddiffyniad ac ymddangosiad personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad
5. sicrhau bod amodau amgylcheddol yn addas i'r cleient a'r driniaeth
6. cynnal urddas, preifatrwydd a chysur eich cleient ar bob amser
7. defnyddio dulliau gwaith sy'n isafu ar risg o niwed neu anaf i chi'ch hun ac eraill
8. hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy
9. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyflenwyr neu gynhyrchwyr ar ddefnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch
10. cael gwared ar ddeunydd gwastraff i fodloni gofynion cyfreithiol
Darparu ymgynghoriad gofal a chyngor i'r cleient
11. defnyddio technegau ymgynghori i bennu cynllun triniaeth y cleient
12. sicrhau caniatâd gwybodus wedi'i lofnodi gan riant neu warcheidwad ar gyfer plant cyn unrhyw driniaeth
13. sicrhau bod rhiant neu warcheidwad yn bresennol trwy gydol y driniaeth ar gyfer plant sy'n iau na 16 oed
14. adnabod unrhyw wrtharwyddion a chymryd y camau angenrheidiol
15. cytuno ar driniaeth a chanlyniadau sy'n bodloni anghenion y cleient
16. sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient cyn unrhyw driniaeth
17. cyflwyno'r cleient i'r ardaloedd triniaeth sba yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
18. sicrhau bod y cleient yn deall buddion, defnyddiau a chyfyngiadau sy'n berthnasol i'r ardaloedd triniaeth sba perthnasol
19. amlygu i'ch cleient leoliad a chynnwys cyfarwyddiadau ysgrifenedig ar gyfer yr ardaloedd triniaeth sba perthnasol a'u risgiau cysylltiedig
20. gwirio lles y cleient yn rheolaidd
21. rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y driniaeth a ddarparwyd
22. sicrhau bod cofnodion y cleient yn cael eu cwblhau a'u llofnodi gennych chi a'r cleient
Cau ardaloedd triniaeth i lawr
23. sicrhau bod yr ardaloedd triniaeth sba wedi eu cau i lawr yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
24. sicrhau bod yr ardaloedd triniaeth sba mewn cyflwr addas ar gyfer triniaethau yn y dyfodol
25. hysbysu'r unigolyn perthnasol am gwblhau gweithdrefnau cau i lawr
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynnal dulliau diogel ac effeithiol o weithio wrth sefydlu a monitro gweithrediad y cyfleusterau sba
1. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffinnir gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n berthnasol i'ch swydd
2. sut i baratoi, monitro a chau ardaloedd triniaeth sba i lawr i fodloni gweithdrefnau sefydliadol a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
3. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer diogelu a pharatoi cleient
4. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer eich hylendid, amddiffyniad ac ymddangosiad personol
5. y rhesymau dros gynnal urddas a phreifatrwydd y cleient
6. technegau gosod eich hun a'ch cleient mewn safle diogel i atal anghysur
7. amodau amgylcheddol sy'n angenrheidiol ar gyfer triniaethau, megis gwresogi ac awyru, a pham mae'r rhain yn bwysig
8. pam ei bod hi'n bwysig cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus
9. dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio
10. y cyfundrefnau glanhau a phrofi dŵr y mae'n rhaid eu defnyddio mewn ardaloedd triniaethau sba i osgoi lledaenu heintiau
11. y prif fathau o heintiau a gludir yn yr aer ac mewn dŵr sy'n gallu effeithio ar amgylcheddau a chleientiaid y sba
12. y gwahanol fathau o ddulliau gwaith sy'n hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy
13. y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gwaith diogel y mae'n rhaid i chi eu dilyn
14. cyfarwyddiadau cyflenwyr a chynhyrchwyr ar gyfer defnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch y mae'n rhaid i chi eu dilyn
15. y gofynion cyfreithiol ar gyfer cael gwared ar wastraff
Darparu ymgynghoriad gofal a chyngor i'r cleient
16. pwysigrwydd cyfathrebu gyda chleientiaid mewn modd proffesiynol
17. sut i gynnal ymgynghoriad gan ystyried anghenion amrywiol y cleient
18. y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu triniaeth i blant sy'n iau na 16 oed
19. yr oed pan fydd unigolyn yn cael ei ystyried yn blentyn a sut mae hynny'n amrywio yn genedlaethol
20. pwysigrwydd cytuno ar wasanaeth sy'n bodloni anghenion y cleient
21. arwyddocâd cyfreithiol dros sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient i dderbyn y triniaethau
22. y gofynion deddfwriaethol ar gyfer storio a diogelu data cleient
23. y gwrtharwyddion sy'n gofyn am atgyfeiriad meddygol a pham
24. sut i adnabod gwrtharwyddion a fyddai'n atal neu'n cyfyngu ar driniaeth
25. y camau angenrheidiol i'w cymryd mewn perthynas â gwrtharwyddion penodol wrth gyfeirio cleientiaid
26. y rhesymau dros beidio ag enwi gwrtharwyddion penodol wrth atgyfeirio cleientiaid
27. pwysigrwydd gwirio lles y cleient yn rheolaidd
28. y rhesymau pam ei bod yn bwysig yfed dŵr yn rheolaidd yn ystod triniaethau sba i staff a chleientiaid
29. y gwrtharwyddion a allai ddigwydd, sut i ddelio â hwy a'r cyngor i'w roi i gleientiaid
30. pwysigrwydd a'r rhesymau dros roi cyflwyniad llawn i'r cleient cyn iddo ddefnyddio'r cyfleusterau sba
31. gwahanol fathau a defnyddiau o offer, triniaethau a chyfleusterau sydd ar gael i'r cleient
32. pwysigrwydd dilyn y tymereddau gweithredu a lefelau lleithder a argymhellir ar gyfer offer sba ac ardaloedd triniaeth
33. manteision ac effeithiau triniaethau sba poeth ac oer
34. sut mae cefndir diwylliannol a hanes yn effeithio ar gyflawniad triniaethau sba
35. yr amserau triniaeth a argymhellir a'r risgiau posibl wrth fynd dros yr amserau hynny
36. y cyngor i'w roi i gleientiaid ar ôl triniaeth yn cynnwys gorffwys ac yfed dŵr
37. y cyngor a'r argymhellion ar gynnyrch a gwasanaethau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Monitro
1. tymheredd
2. lleithder
3. lefelau dŵr
4. crynodiad cemegau
5. amser triniaeth
6. awyru
7. awyrgylch yr amgylchedd
8. golau
9. offer a gallu'r cleient
10. cysur a phrofiad y cleient
11. lefelau adnoddau
12. peryglon a risgiau
Ardaloedd triniaeth sba
1. sawna
2. stêm
3. gwely arnofio
4. hydrotherapi
5. cawodydd
6. ardal ymlacio
Camau angenrheidiol
1. annog y cleient i geisio cyngor meddygol
2. hysbysu'r aelodau staff perthnasol
3. addasu'r driniaeth
Cyngor ac argymhellion
1. cynnyrch ôl-ofal addas a'u defnydd
2. osgoi gweithgareddau a allai achosi adweithiau
3. cynnyrch a thriniaethau yn awr ac yn y dyfodol
4. cyngor ar orffwys ac ymlacio yn dilyn triniaeth
Gwybodaeth Cwmpas
Iechyd a diogelwch
1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
2. Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)
3. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)
4. Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)
5. Rheoliadau Gweithredoedd Codi a Chario
6. Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
7. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
8. Deddf Diogelu'r Amgylchedd
9. Y Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle
10. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Gyflogeion)
Arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy
1. gostwng gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)
2. gostwng defnydd ar ynni (cyfarpar sy'n arbed ynni, goleuadau ynni isel, defnyddio paneli solar)
3. gostwng defnydd ar ddŵr ac adnoddau eraill
4. atal llygredd
5. defnyddio eitemau untro
6. defnyddio dodrefn wedi'u hailgylchu, ecogyfeillgar
7. defnyddio paent â chemegau isel
8. defnyddio pecynnau cynnyrch ecogyfeillgar
9. dewis cynnyrch domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)
10. annog siwrneion i'r gwaith sy'n gostwng carbon
Gwrtharwyddion sy'n atal
1. cyflyrau heintus y croen
2. camweithrediad y system nerfol
3. meinwe craith diweddar
4. lympiau a chwyddiadau heb ddiagnosis
Gwrtharwyddion sy'n cyfyngu
1. pwysedd gwaed uchel/isel
2. briwiau a chrafiadau
3. llosg haul
Anghenion amrywiol
1. diwylliannol
2. crefyddol
3. oed
4. anabledd
5. rhyw
Cyngor ac argymhellion
1. gwasanaethau ychwanegol
2. cynnyrch ychwanegol
3. y cyfyngiadau ôl-driniaeth sy'n berthnasol i driniaethau sba
4. mathau addas o driniaethau dilynol, eu manteision a chostau
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba
1. parodrwydd i ddysgu
2. agwedd hyblyg i weithio
3. gweithiwr tîm
4. agwedd bositif
5. moeseg bersonol a phroffesiynol
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiad a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba. Mae'r ymddygiad hwn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r sefydliad a'r unigolyn
1. bodloni safonau ymddygiad y sefydliad
2. cyfarch y cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar
3. cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu
4. trin y cleient yn gwrtais ac yn wasanaethgar bob amser
5. addasu'r ymddygiad i ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiad gan y cleient
6. gwirio gyda'r cleient eich bod chi wedi deall eu disgwyliadau yn llawn
7. ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient
8. adnabod gwybodaeth y gallai'r cleient ei chael yn gymhleth a gwirio a ydynt wedi deall yn llawn
9. esbonio'n glir wrth y cleient os na ellir bodloni eu hanghenion neu'u disgwyliadau am unrhyw reswm
10. cynnal dulliau gwaith effeithiol, glân a diogel
11. cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr a'r cynhyrchwyr wrth ddefnyddio cyfarpar, deunyddiau a chynnyrch yn ddiogel
12. bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant.
Sgiliau
Mae'r sgiliau allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba
1. y gallu i hunan-reoli
2. cyfathrebu llafar a di-eiriau gwych
3. defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol o gyfathrebu gyda chleient
4. ymateb yn brydlon i gleient sy'n gofyn am gymorth
5. canfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient
6. rhoi gwybodaeth y mae ei hangen ar gleient am wasanaethau a chynnyrch a gynigir gan y sefydliad
Geirfa
Hydrotherapi
O'r Groegaidd 'Hydor' – dŵr a Therapia – therapi. Hydrotherapi yw defnydd therapiwtig o ddŵr.
Ardal ymlacio
Ystafell neu ardal yn y sba sy'n caniatáu amser i'r cleient ymlacio, gorffwys ac oeri rhwng triniaethau mewn amgylchedd diogel. Mae'r ardal hon yn gadael i'r cleientiaid yfed dŵr/hylifau i ail hydradu'r corff a darllen yn dawel.
Sba
Sbaon yw'r gofodau sanctaidd ar gyfer deall a maethu'r ysbryd dynol cyfoes. Mae dŵr yn elfen allweddol o Sba.
Ystafell Stêm (ardal)
Ardal, ystafell neu gwpwrdd o stêm poeth gwlyb sy'n meddalu a phuro'r croen ac yn ymlacio'r corff.