Cynorthwyo gyda gweithrediadau sba
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo gweithrediadau sba dan gyfarwyddyd a goruchwyliaeth aelod uwch o staff. Byddwch yn sefydlu, gwirio a chynnal cyflwr cyffredinol a gwedd ystod eang o ardaloedd sba. Bydd hyn yn cynnwys glanhau, ail-lenwi adnoddau, paratoi a chau ardaloedd gwaith i lawr, profi dŵr a chynnal cyfleusterau lletygarwch cleientiaid.
Er mwyn cynnal y safon hon bydd angen i chi gynnal iechyd, diogelwch a hylendid effeithiol trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal eich ymddangosiad personol a dangos sgiliau cyfathrebu effeithiol.
Prif ganlyniadau'r safon hon yw:
1. cynnal dulliau diogel ac effeithiol wrth gynorthwyo gyda gweithrediadau sba
2. glanhau a pharatoi ardaloedd gwaith sba
3. gwirio a chynnal ardaloedd gwaith sba
4. cau ardaloedd gwaith sba i lawr
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynnal dulliau diogel ac effeithiol wrth gynorthwyo gyda gweithrediadau sba
1. cynnal eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch trwy gydol eich gwaith
2. dilyn cyfarwyddiadau uwch aelod o staff a cheisio cymorth yn ôl yr angen
3. sicrhau bod eich hylendid, amddiffyniad ac ymddangosiad personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad
4. defnyddio dulliau gwaith sy'n isafu ar risg o groes-heintio a niwed neu anaf i chi'ch hun ac eraill
5. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a gofynion sefydliadol ar gyfer defnyddio offer, cynnyrch a deunyddiau
6. cael gwared ar ddeunydd gwastraff i fodloni gofynion cyfreithiol
Glanhau a pharatoi ardaloedd gwaith sba
7. paratoi a darparu ardaloedd gwaith i fodloni gweithdrefnau sefydliadol
8. defnyddio deunyddiau a dulliau glanhau sy'n benodol i ardaloedd gwaith
9. cyflawni gweithrediadau glanhau ar gyfer ardaloedd gwaith ar y cyfnodau gofynnol
10. sicrhau bod amodau amgylcheddol yn addas i'r cleient a'r driniaeth
11. gadael yr offer ac ardaloedd gwaith mewn cyflwr glân a hylan sy'n addas ar gyfer defnydd
Gwirio a chynnal ardaloedd gwaith sba
12. gwirio offer a chyflwr ardaloedd gwaith ar y cyfnodau gofynnol
13. cynnal cyflenwadau o adnoddau a deunyddiau trwy gydol y diwrnod gwaith
14. cynorthwyo gyda phrofion dŵr a thymheredd yn ystod y cyfnodau gofynnol
15. gwirio lles y cleient yn rheolaidd yn unol â pholisi sefydliadol
16. sicrhau bod cofnodion gweithredol y sba yr ydych yn gyfrifol amdanynt yn gyfredol, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Cau ardaloedd gwaith sba i lawr
17. sicrhau bod offer ac ardaloedd gwaith mewn cyflwr addas ar gyfer triniaethau yn y dyfodol
18. cynorthwyo gydag offer a chau ardaloedd gwaith i lawr
19. sicrhau bod ardaloedd triniaeth sba yn cael eu cau i lawr i foddhad yr aelod perthnasol o staff
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynnal dulliau diogel ac effeithiol wrth gynorthwyo gyda gweithrediadau sba
1. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffinnir gan unrhyw ddeddfwriaeth ac is-ddeddfau lleol penodol sy'n berthnasol i'ch swydd
2. pam mae hi'n bwysig dilyn cyfarwyddiadau uwch aelod o staff a chanlyniadau peidio â gwneud hynny
3. eich cyfrifoldebau a rhesymau dros gynnal eich hylendid, amddiffyniad ac ymddangosiad personol eich hun yn unol â gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad
4. y math o offer amddiffynnol personol y dylid gwisgo ar gyfer gweithrediadau sba a pham ei bod yn bwysig defnyddio offer amddiffynnol personol
5. cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a gofynion sefydliadol ar gyfer defnyddio offer, cynnyrch a deunyddiau
6. y rhesymau dros gynnal safonau hylendid ac osgoi croes-heintio
7. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cael gwared ar wastraff
Glanhau a pharatoi ardaloedd gwaith sba
8. y cyfundrefnau glanhau y mae'n rhaid eu dilyn mewn ardaloedd gwaith sba i osgoi lledaenu heintiau
9. y mathau o ddeunyddiau glanhau ac offer y mae'n rhaid eu defnyddio ar gyfer y gwahanol ardaloedd sba
10. yr amodau amgylcheddol sy'n angenrheidiol ar gyfer ardaloedd gwaith sba a pham mae'r rhain yn bwysig
11. y tymereddau gweithredu a lefelau lleithder a argymhellir ar gyfer ardaloedd gwlyb a thriniaeth
12. y mathau o gyfarwyddiadau ysgrifenedig y mae'n rhaid eu gosod mewn ardaloedd gwaith sba
13. sut i brofi a dehongli canlyniadau crynodiadau dŵr a chemegau
14. y prif fathau o heintiau a gludir yn yr aer ac mewn dŵr sy'n gallu effeithio ar amgylcheddau a chleientiaid y sba
Gwirio, cynnal a chau ardaloedd gwaith sba i lawr
15. y gwiriadau offer sy'n ofynnol ar gyfer ardaloedd gwaith sba
16. pwysigrwydd cynnal lefelau stoc yn rheolaidd ac adrodd unrhyw ofynion ail archebu
17. lefelau cynhwysedd cleientiaid ar gyfer ardaloedd gwlyb
18. pwysigrwydd gwirio lles cleientiaid yn rheolaidd
19. peryglon posibl camddefnydd o gemegau ac offer
20. pwysigrwydd yfed dŵr yn rheolaidd yn ystod triniaethau sba i staff a chleientiaid
21. yr amserau triniaeth sba a argymhellir ar gyfer ardaloedd gwlyb a'r risgiau posibl wrth ragori arnynt
22. adweithiau posibl a allai ddigwydd yn ystod sesiynau triniaethau sba a sut i ddelio â hwy
23. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cau ardaloedd triniaeth sba i lawr a chwblhau cofnodion gweithredol yr ydych yn gyfrifol amdanynt
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Ardaloedd gwaith
1. ardaloedd gwlyb
2. ardaloedd triniaeth
3. ystafelloedd newid
4. ardaloedd ymlacio
5. ardaloedd gwasanaethau
Gwybodaeth Cwmpas
Iechyd a diogelwch
1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
2. Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)
3. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)
4. Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)
5. Rheoliadau Gweithredoedd Codi a Chario
6. Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
7. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
8. Deddf Diogelu'r Amgylchedd
9. Y Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle
10. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Gyflogeion)
Amodau amgylcheddol
1. golau
2. gwres
3. awyru
4. cysur cyffredinol
Adweithiau**
1. teimlo'n wan
2. pwys
3. llid y croen
4. cur pen
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba
1. parodrwydd i ddysgu
2. agwedd hyblyg i weithio
3. gweithiwr tîm
4. agwedd bositif
5. moeseg bersonol a phroffesiynol
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiad a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba. Mae'r ymddygiad hwn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r sefydliad a'r unigolyn
1. bodloni safonau ymddygiad y sefydliad
2. cyfarch y cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar
3. cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu
4. trin y cleient yn gwrtais ac yn wasanaethgar bob amser
5. addasu'r ymddygiad i ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiad gan y cleient
6. gwirio gyda'r cleient eich bod chi wedi deall eu disgwyliadau yn llawn
7. ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient
8. adnabod gwybodaeth y gallai'r cleient ei chael yn gymhleth a gwirio a ydynt wedi deall yn llawn
9. esbonio'n glir wrth y cleient os na ellir bodloni eu hanghenion neu'u disgwyliadau am unrhyw reswm
10. cynnal dulliau gwaith effeithiol, glân a diogel
11. cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr a'r cynhyrchwyr wrth ddefnyddio cyfarpar, deunyddiau a chynnyrch yn ddiogel
12. bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant
Sgiliau
Mae'r sgiliau allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba
1. y gallu i hunan-reoli
2. cyfathrebu llafar a di-eiriau gwych
3. defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol o gyfathrebu gyda chleient
4. ymateb yn brydlon i gleient sy'n gofyn am gymorth
5. canfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient
6. rhoi gwybodaeth y mae ei hangen ar gleient am wasanaethau a chynnyrch a gynigir gan y sefydliad
Geirfa
Adweithiau
Adweithiau negyddol i'r driniaeth neu gynnyrch megis cochni gormodol, adweithiau alergaidd.
Gwrtharwyddion
Amodau neu gyfyngiadau sy'n nodi na ddylid cynnal gwasanaeth penodol.
Croes-heintio
Trosglwyddo micro-organebau trwy arferion hylendid gwael trwy gyswllt uniongyrchol gydag unigolyn arall neu gyswllt anuniongyrchol trwy offer a chyfarpar wedi'u heintio.
Diheintio
Atal twf micro-organebau (ac eithrio sborau) sy'n achosi salwch gan ddefnyddio cyfryngau cemegol.
Glanhau dwylo
Glanhau neu olchi dwylo i lefel antiseptig er mwyn atal twf bacteria.
Gofynion cyfreithiol
Mae hyn yn cyfeirio at y cyfreithiau sy'n effeithio ar y ffordd y mae busnesau yn gweithredu, sut mae'r salon neu'r gweithle yn cael ei sefydlu a'i gynnal, pobl sy'n cael eu cyflogi a'r systemau gwaith y mae'n rhaid eu cynnal. Ymhlith yr enghreifftiau y mae rheoliadau COSHH, Rheoliadau Trydan yn y Gweithle a'r Rheoliadau Cynnyrch Cosmetig (Diogelwch).
Cyfarwyddiadau'r cynhyrchwyr
Arweiniad a gyhoeddir gan gynhyrchwyr neu gyflenwyr cynnyrch neu gyfarpar yn ymwneud â'u defnydd diogel ac effeithiol.
Cyfarpar diogelu personol (PPE)
Mae'n ofynnol i chi ddefnyddio a gwisgo cyfarpar neu ddillad diogelu personol wrth ddefnyddio neu weithio gyda chemegau megis ar gyfer glanhau neu ddelio â gwastraff peryglus. Mae menig a ffedog diogelu yn ofyniad cyffredin ar gyfer y mathau hyn o weithgareddau.
Cyflwyniad personol
Mae hyn yn cynnwys hylendid personol; defnyddio cyfarpar amddiffyn personol; dillad ac ategolion sy'n addas i'r gweithle penodol.
Ardal ymlacio
Ystafell neu ardal yn y sba sy'n caniatáu amser i'r cleient ymlacio, gorffwys ac oeri rhwng triniaethau mewn amgylchedd diogel. Mae'r ardal hon yn gadael i'r cleientiaid yfed dŵr/hylifau i ail hydradu'r corff a darllen yn dawel.
Sterileiddio
Dulliau glanhau a ddefnyddir er mwyn dinistrio micro-organebau yn llwyr.