Rheoli gwybodaeth ar gyfer gweithredu a gwneud penderfyniadau ar gyfer digwyddiadau i wylwyr

URN: SKASS9
Sectorau Busnes (Suites): Diogel wch Gwylwyr
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli gwybodaeth ynghylch eich cyfrifoldebau yn effeithlon. Mae'n ymdrin â chasglu'r wybodaeth angenrheidiol a chynnig gwybodaeth a chyngor i eraill ar gyfer yr holl drefniadau yn ymwneud â digwyddiadau i wylwyr a lleoliadau lle mae'r digwyddiadau yn digwydd.

Prif ddeilliannau'r safon hon ydy:

  1. Casglu'r wybodaeth angenrheidiol

  2. Dadansoddi gwybodaeth er mwyn helpu gyda gwneud penderfyniadau

  3. Hysbysu a chynghori eraill

Mae'r safon hon ar gyfer goruchwylwyr a staff gyda dyletswyddau tebyg sy'n gweithio mewn digwyddiadau chwaraeon neu ddigwyddiadau eraill s mannau poblog lle mae gwylwyr neu gynulleidfaoedd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


Casglu'r wybodaeth angenrheidiol

  1.  casglu gwybodaeth er mwyn helpu gyda gwneud penderfyniadau

  2.  cofnodi'r wybodaeth hon yn unol â gweithdrefnau'r mudiad

  3.  gofalu bod yr wybodaeth rydych yn ei chasglu ar gael i bobl sydd wedi'u hawdurdodi'n unig

  4.  cynnig gwelliannau i weithdrefnau wedi'u cytuno a'u cyflwyno i'r rhanddeiliaid perthnasol

Dadansoddi gwybodaeth er mwyn helpu gyda gwneud penderfyniadau

  1.  dadansoddi gwybodaeth i helpu gyda gwneud penderfyniadau

  2.  gwahaniaethu rhwng ffeithiau a barn wrth gyflwyno canlyniadau'r dadansoddiad

  3.  cadw cofnodion ar gyfer y trywydd archwilio gan ddangos tystiolaeth o'r broses gwneud penderfyniadau yn ystod pob cam

Hysbysu a chynghori eraill

  1. derbyn yr holl wybodaeth angenrheidiol cyn hysbysu a chynghori eraill

  2. crynhoi'r prif bwyntiau i'r bobl berthnasol a'r rheswm pam fod y rhain yn bwysig

  3. cynnig gwybodaeth a chyngor sy'n gyson gyda'r gweithdrefnau wedi'u cytuno

  4. defnyddio dadleuon rhesymegol a thystiolaeth i ategu eich gwybodaeth a'ch cyngor

  5. gwirio dealltwriaeth yr unigolyn sy'n derbyn yr wybodaeth a'ch cyngor

  6. gofyn am adborth gan yr unigolion am yr wybodaeth a'r cyngor y gwnaethoch chi eu cynnig a defnyddio'r adborth i wella'r broses


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

**** **Casglu'r wybodaeth angenrheidiol** 1.  dulliau casglu gwybodaeth 2.  gweithdrefnau'r mudiad ar gyfer cofnodi gwybodaeth 3.  egwyddorion cyfrinachedd wrth ymdrin â gwybodaeth 4.  sut i awgrymu gwelliannau y gellid eu gwneud i weithdrefnau cytunedig   **Dadansoddi gwybodaeth er mwyn helpu gyda gwneud penderfyniadau** 5.  sut i farnu cywirdeb, perthnasedd a chyflawnder yr wybodaeth sy'n angenrheidiol i helpu gyda gwneud penderfyniadau mewn gwahanol gyd-destunau.  6.  sut i adnabod gwybodaeth all fod yn groesebol, amwys neu annigonol a sut i fynd i'r afael â'r problemau hyn. 7.  dulliau dadansoddi gwybodaeth a sut i ddewis y dull mwyaf addas 8.  sut i ddadansoddi gwybodaeth er mwyn adnabod patrymau a thueddiadau 9.  sut i ddod i gasgliad ar sail dadansoddi gwybodaeth 10. sut i adnabod y gwahaniaeth rhwng ffaith a barn a chyflwyno'r rhain  **Hysbysu a chynghori eraill** 11. math o wybodaeth i'w chael cyn hysbysu a chynghori eraill 12. dulliau cyfathrebu effeithiol 13. y gweithdrefnau cytunedig ar gyfer rhoi gwybodaeth a chyngor 14. sut i ddatblygu a chyflwyno achos rhesymedig wrth roi gwybodaeth a chyngor i eraill 15. pwysigrwydd cadarnhau dealltwriaeth y derbynwyr o'r wybodaeth a'r cyngor a 16. pwysigrwydd ceisio adborth ar y wybodaeth a'r cyngor a ddarperir 17. sut i ddefnyddio adborth i lywio dulliau o ddarparu gwybodaeth a chyngor yn y dyfodol

Cwmpas/ystod

**GWYBODAETH YCHWANEGOL** **Cydraddoldeb ac Amrywiaeth** Mae disgwyl y bydd gan fudiadau weithdrefnau a chanllawiau i'w staff stiwardio gydymffurfio gyda nhw a fydd yn bodloni'r gofynion canlynol o leiaf: * anghenion corfforol amrywiol * anghenion diwylliannol amrywiol * anghenion ieithyddol * credoau **Diogelwch, Amddiffyn a Gwasanaeth** Mae disgwyl caiff yr holl wasanaethau mewn digwyddiadau gyda gwylwyr ac mewn mannau poblog eu cyflawni yn unol â'r mesurau isod: Mesurau diogelwch: unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o ddiogelu iechyd a lles yr holl grwpiau cleient sy'n mynychu, neu'n cymryd rhan mewn digwyddiadau. Mesurau amddiffyn: unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o atal, lleihau'r risg a/neu ymateb i unrhyw weithgareddau troseddol neu anghyfreithlon neu aflonyddwch yn gysylltiedig â'r digwyddiadau. Mesurau gwasanaeth: unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod  o ofalu bod yr holl grwpiau cleient yn teimlo'n gyfforddus, wedi'u gwerthfawrogi a bod croeso iddyn nhw pan maen nhw'n mynychu digwyddiadau. **Lefelau Bygythiadau Terfysgaeth ym Mhrydain** Mae disgwyl bod uwch stiwardiaid, swyddog diogelwch a staff tebyg sy'n meddu ar gyfrifoldeb cyffredinol dros ddiogelwch ac amddiffyniaeth digwyddiadau yn gyfarwydd gyda'r lefelau bygythiadau terfysgaeth cyfredol ym Mhrydain. Mae'r lefel o fygythiad yn dynodi tebygolrwydd o ymosodiad terfysgol ym Mhrydain. Mae 5 lefel o fygythiadau: * ISEL – mae ymosodiad yn annhebygol   * CYMEDROL- mae ymosodiad yn bosib ond nid ydyw'n debygol * SYLWEDDOL – mae ymosodiad yn bosib iawn * DIFRIFOL – mae ymosodiad yn debygol iawn * ARGYFYNGUS – mae disgwyl y bydd ymosodiad ar ddigwydd Caiff y lefel ei bennu gan y Cyd-Ganolfan Dadansoddi Terfysgaeth a'r Gwasanaeth Diogelwch  (MI5). Does gan lefelau bygythiol ddim dyddiad dod i ben ond fe allan nhw newid ar unrhyw adeg wrth i wahanol wybodaeth fod ar gael i asiantiaid diogelwch.

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

Mae'r ymddygiadau canlynol wrth wraidd cyflenwi gwasanaethau yn y sector diogelwch i wylwyr. Mae'r ymddygiadau yn gofalu bod y mudiad a'r unigolyn yn creu argraff dda ar y cleientiaid. Mae'n rhaid ichi ddangos eich bod yn cyflawni'r canlynol yn gyson: 1.     Adnabod yr angen i fod yn hyblyg er mwyn dwyn i ystyriaeth amgylchiadau newidiol 2.     Addasu cynlluniau ac ymatebion fel bo'r angen 3.     Blaenoriaethu amcanion a gwaith cynllunio er mwyn manteisio ar y defnydd gorau posib o amser ac adnoddau  4.     Gofalu bod amser i gefnogi eraill 5.     Cymryd cyfrifoldeb personol dros weithredu rhai pethau 6.     Dangos gonestrwydd, tegwch a chysondeb wrth wneud penderfyniadau 7.     Cytuno'n eglur ar beth a ddisgwylir gan bobl eraill a'u hystyried nhw'n gyfrifol am herio ymddygiad cymdeithasol er enghraifft. 8.     Ceisio deall disgwyliadau pobl ac unrhyw anghenion ychwanegol a medru bodloni'r rhain  9.     Cymryd cyfrifoldeb dros ddiogelwch personol 10.   Cymryd balchder mewn cynnig gwasanaeth o safon 11.   Ymdrechu i fod yn wyliadwrus rhag bygythiadau a pheryglon posib 12.   Annog a chefnogi eraill i fanteisio i'r eithaf ar eu galluoedd. 13.   Defnyddio ystod o ddulliau arwain sy'n briodol i wahanol bobl a sefyllfaoedd 14.   Eirioli dros ddiogelwch a lles fel blaenoriaeth wrth gynllunio a rheoli digwyddiadau 15.   Cymryd balchder yn eich edrychiad a chydymffurfio gydag unrhyw godau gwisg gan y mudiad neu leoliad 16.   Cydymffurfio gyda chod ymddygiad y lleoliad 17.   Dangos eich gallu i gynnal cyfrinachedd 18.   Dangos ymwybyddiaeth o faterion diogelu 19.   Dangos dealltwriaeth o ofynion cyfreithiol sylfaenol yn ymwneud ag amrywioldeb a diogelwch

Sgiliau

Dyma restr o'r prif sgiliau a nodweddion cyffredinol sydd eu hangen er mwyn gofalu am ddiogelwch gwylwyr

  1. Gwrando a gweithredu 

  2. Cyfathrebu geiriol ac aneiriol effeithiol
  3. Dylanwadu ar ac argyhoeddi eraill
  4. Dirprwyo

  5. Diplomyddiaeth

  6. Empathi
  7. Rhoi grym i eraill
  8. Gallu i ddilyn cyfarwyddiadau
  9. Arwain drwy esiampl
  10. Gwydnwch
  11. Rheoli ymddygiad heriol
  12. Mentora
  13. Ysgogi eraill
  14. Trafod a chyfaddawdu
  15. Derbyn a chynnig adborth
  16. Cynllunio a gwerthuso

  17. Gosod amcanion

  18. Gwerthfawrogi a chefnogi eraill

Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

SKASS3, SKASS4, SKASS5, SKASS7, SKASS8


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKASS9

Galwedigaethau Perthnasol

Uwch Stiward, Swyddogion Iechyd a Diogelwch

Cod SOC

9275

Geiriau Allweddol

effeithlon, rheoli, gwybodaeth, casglu, cynghori, derbynwyr