Rheoli a chynnal a chadw stiwardio yn y mannau penodedig
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gofalu bod y stiwardio yn effeithiol yn y man rydych yn gyfrifol amdani, mynd i'r afael ag unrhyw broblemau caiff eu cyfeirio atoch chi yn briodol a holi stiwardiaid yn dilyn y digwyddiad.
Prif ddeilliannau'r safon hon ydy:
Rheoli a chynnal a chadw stiwardio yn y man penodedig
Holi stiwardiaid a gwirio'r lleoliad a chyfarpar
Mae'r safon hon ar gyfer uwch stiwardiaid a goruchwylwyr sy'n gweithio mewn digwyddiadau chwaraeon neu ddigwyddiadau eraill a mannau poblog lle mae gwylwyr neu gynulleidfaoedd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Rheoli a chynnal a chadw stiwardio yn y man penodedig
monitro a chefnogi'r stiwardiaid yn y man penodedig
pennu'r nifer angenrheidiol o stiwardiaid i'r mannau penodedig
rheoli a chynnal anghenion diogelwch a lles yr holl grwpiau cleient yn eich man penodedig chi
rhoi gwybod am unrhyw drafferthion yn ymwneud â'ch gweithrediadau stiwardio i'r cydweithiwr cyfrifol gan gydymffurfio gyda'r gweithdrefnau wedi'u cytuno
cadw cofnod o'r holl weithrediadau gan gydymffurfio gyda'r gweithdrefnau wedi'u cytuno
cynnig cyfarwyddiadau parhaus i'r stiwardiaid yn unol â chynllun y digwyddiad
Holi stiwardiaid a gwirio'r lleoliad a'r cyfarpar
derbyn yr wybodaeth angenrheidiol ar gyfer holi'r stiwardiaid
annog y stiwardiaid i gynnig adborth cadarnhaol a negyddol ynglŷn â'r digwyddiad a threfniadau
gofalu caiff yr holl helyntion yn eich man penodedig eu cyflwyno a'u cofnodi'n drylwyr
cydymffurfio gyda'r gweithdrefnau wedi'u cytuno ynghylch derbyn cyfarpar yn ôl gan stiwardiaid
dilyn gweithdrefnau wedi'u cytuno ynghylch gwirio a diogelu'r lleoliad
cofnodi a chyflwyno problemau yn ymwneud â'r cyfarpar a'r lleoliad i'r cydweithiwr cyfrifol
cynnig gwelliannau posib i brosesau diogelwch ac amddiffyniaeth a gwasanaethau a'u cyflwyno i'r bobl berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Rheoli a chynnal a chadw stiwardio yn y man penodedig
y gweithdrefnau ynghylch monitro yn y man penodedig
nifer y stiwardiaid a'u sgiliau angenrheidiol yn y man penodedig a'u dyletswyddau penodol
pwysigrwydd deall ymddygiadau stiwardiaid ac effaith posib hyn ar eu perfformiad a'r grwpiau cleient
pwysigrwydd cynnal a chadw diogelwch a lles yr holl grwpiau cleient
dulliau cyfathrebu
dulliau cofnodi
pa awgrymiadau a thechnegau i'w defnyddio wrth gyflwyno cyfarwyddiadau i stiwardiaid
pwysigrwydd sgiliau arwain effeithiol
Holi stiwardiaid a gwirio'r lleoliad a chyfarpar
pwysigrwydd holi a sut i gynnal sesiwn holi
sut i dderbyn yr wybodaeth angenrheidiol ar gyfer sesiwn holi
pa wybodaeth sy'n angenrheidiol ar gyfer y sesiwn holi
ffyrdd o annog y stiwardiaid i gynnig adborth cadarnhaol a negyddol ynghylch y digwyddiadau a'r trefniadau
gweithdrefnhau'r mudiad ar gyfer cofnodi helyntion
y gweithdrefnau wedi'u cytuno ar gyfer y canlynol:
derbyn cyfarpar yn ôl gan y stiwardiaid
- gwirio'r lleoliad a gofalu ei fod yn ddiogel
cofnodi a chyflwyno problemau yn ymwneud â'r cyfarpar a'r lleoliad i'r cydweithiwr cyfrifol
pam ei fod yn bwysig awgrymu gwelliannau posib i ddiogelwch, amddiffyniaeth a gwasanaethau ac i bwy ddylech chi awgrymu'r gwelliannau hyn
Cwmpas/ystod
GWYBODAETH YCHWANEGOL
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae disgwyl y bydd gan fudiadau weithdrefnau a chanllawiau i'w staff stiwardio gydymffurfio gyda nhw a fydd yn bodloni'r gofynion canlynol o leiaf:
- anghenion corfforol amrywiol
- anghenion diwylliannol amrywiol
- anghenion ieithyddol
- credoau
Diogelwch, Amddiffyn a Gwasanaeth
Mae disgwyl caiff yr holl wasanaethau mewn digwyddiadau gyda gwylwyr ac mewn mannau poblog eu cyflawni yn unol â'r mesurau isod:
Mesurau diogelwch: unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o ddiogelu iechyd a lles yr holl grwpiau cleient sy'n mynychu, neu'n cymryd rhan mewn digwyddiadau.
Mesurau amddiffyn: unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o atal, lleihau'r risg a/neu ymateb i unrhyw weithgareddau troseddol neu anghyfreithlon neu aflonyddwch yn gysylltiedig â'r digwyddiadau.
Mesurau gwasanaeth: unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o ofalu bod yr holl grwpiau cleient yn teimlo'n gyfforddus, wedi'u gwerthfawrogi a bod croeso iddyn nhw pan maen nhw'n mynychu digwyddiadau.
Lefelau Bygythiadau Terfysgaeth ym Mhrydain
Mae disgwyl bod uwch stiwardiaid, swyddogion diogelwch a staff tebyg sy'n meddu ar gyfrifoldeb cyffredinol dros ddiogelwch ac amddiffyniaeth digwyddiadau yn gyfarwydd gyda'r lefelau bygythiadau terfysgaeth cyfredol ym Mhrydain.
Mae'r lefel o fygythiad yn dynodi tebygolrwydd o ymosodiad terfysgol ym Mhrydain. Mae 5 lefel o fygythiadau:
- ISEL – mae ymosodiad yn annhebygol
- CYMEDROL- mae ymosodiad yn bosib ond nid ydyw'n debygol
- SYLWEDDOL – mae ymosodiad yn bosib iawn
- DIFRIFOL – mae ymosodiad yn debygol iawn
- ARGYFYNGUS – mae disgwyl y bydd ymosodiad ar ddigwydd
Caiff y lefel ei bennu gan y Cyd-Ganolfan Dadansoddi Terfysgaeth a'r Gwasanaeth Diogelwch (MI5). Does gan lefelau bygythiol ddim dyddiad dod i ben ond fe allan nhw newid ar unrhyw adeg wrth i wahanol wybodaeth fod ar gael i asiantiaid diogelwch.
Cwmpas Perfformiad
Helyntion (ymdrin â lleiafswm o 4)
ymddygiad anghyfreithlon, afreolus neu wrth-gymdeithasol
sefyllfaoedd peryglus yn y dorf
digwyddiad diogelwch
tân
methiant strwythurol
cyfarpar diffygiol
argyfyngau meddygol
Grwpiau cleient (ymdrin â 4 o leiaf)
gwylwyr
y gweithlu
contractwyr
cyrff rheoleiddiol
y cyfryngau
gwasanaethau argyfwng
athletwyr
artistiaid
swyddogion y digwyddiad
* *
Anghenion lles (ymdrin â 2 o leiaf)
diogelwch personol
lles emosiynol
lles corfforol
anghenion diwylliannol
Gwybodaeth Cwmpas
**** **Grwpiau cleient** 1. gwylwyr 2. y gweithlu 3. contractwyr 4. cyrff rheoleiddiol 5. y cyfryngau 6. gwasanaethau argyfwng 7. athletwyr 8. artistiaid 9. swyddogion y digwyddiad |
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiadau canlynol wrth wraidd cyflenwi gwasanaethau yn y sector diogelwch i wylwyr. Mae'r ymddygiadau yn sicrhau bod y mudiad a'r unigolyn yn creu argraff dda ar y cleientiaid.
Mae'n rhaid ichi ddangos eich bod yn cyflawni'r canlynol yn gyson:
1. Adnabod yr angen i fod yn hyblyg er mwyn dwyn i ystyriaeth amgylchiadau newidiol
2. Addasu cynlluniau ac ymatebion fel bo'r angen
3. Blaenoriaethu amcanion a gwaith cynllunio er mwyn manteisio ar y defnydd gorau posib o amser ac adnoddau
4. Gofalu bod amser i gefnogi eraill
5. Cymryd cyfrifoldeb personol dros weithredu rhai pethau
6. Dangos gonestrwydd, tegwch a chysondeb wrth wneud penderfyniadau
7. Cytuno'n eglur ar beth a ddisgwylir gan bobl eraill a'u hystyried nhw'n gyfrifol am herio ymddygiad cymdeithasol er enghraifft.
8. Ceisio deall disgwyliadau pobl ac unrhyw anghenion ychwanegol a medru bodloni'r rhain
9. Cymryd cyfrifoldeb dros ddiogelwch personol
10. Cymryd balchder mewn cynnig gwasanaeth o safon
11. Ymdrechu i fod yn wyliadwrus rhag bygythiadau a pheryglon posib
12. Annog a chefnogi eraill i fanteisio i'r eithaf ar eu galluoedd.
13. Defnyddio ystod o ddulliau arwain sy'n briodol i wahanol bobl a sefyllfaoedd
14. Eirioli dros ddiogelwch a lles fel blaenoriaeth wrth gynllunio a rheoli digwyddiadau
15. Cymryd balchder yn eich edrychiad a chydymffurfio gydag unrhyw godau gwisg gan y mudiad neu leoliad
16. Cydymffurfio gyda chod ymddygiad y lleoliad
17. Dangos eich gallu i gynnal cyfrinachedd
18. Dangos ymwybyddiaeth o faterion diogelu
19. Dangos dealltwriaeth o ofynion cyfreithiol sylfaenol yn ymwneud ag amrywioldeb a diogelwch
Sgiliau
Dyma restr o'r prif sgiliau a nodweddion cyffredinol sydd eu hangen er mwyn gofalu am ddiogelwch gwylwyr
- Gwrando a gweithredu
- Cyfathrebu geiriol ac aneiriol effeithiol
- Dylanwadu ar ac argyhoeddi eraill
Dirprwyo
Diplomyddiaeth
- Empathi
- Rhoi grym i eraill
- Gallu i ddilyn cyfarwyddiadau
- Arwain drwy esiampl
- Gwydnwch
- Rheoli ymddygiad heriol
- Mentora
- Ysgogi eraill
- Trafod a chyfaddawdu
- Derbyn a chynnig adborth
- Cynllunio a gwerthuso
- Gwerthfawrogi a chefnogi eraill
Geirfa
Safonau a gweithdrefnau y cytunwyd arnyn nhw
Gweithdrefnau wedi'u cymeradwyo eisoes sy'n gofnod o weithrediadau'r lleoliad o ddydd i ddydd. Gall fod yn weithdrefnau gweithredu arferol, gweithdrefnau mewn argyfwng a chynlluniau wrth gefn. Mae hyn yn ymwneud â gofynion y lleoliad ynghyd â gofynion cyfundrefnol.
*
*
Cynorthwywyr cymwys
Rhywun gaiff ei ystyried yn alwedigaethol gymwys yn eu dyletswydd benodol. Er enghraifft: y swyddog cymorth cyntaf ar y safle neu aelod o'r gwasanaethau argyfwng.
Dolenni I NOS Eraill
SKASS3, SKASS4, SKASS5, SKASS7, SKASS9 |