Paratoi stiwardiaid a lleoliadau ar gyfer digwyddiadau i wylwyr

URN: SKASS7
Sectorau Busnes (Suites): Diogel wch Gwylwyr
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymdrin â phennu cyfrifoldebau i'r stiwardiaid, cyfarwyddo stiwardiaid a gwirio'r lleoliad cyn y digwyddiad.

Prif ddeilliannau'r safon hon ydy:

  1.  Pennu cyfrifoldebau i stiwardiaid

  2.  Cyfarwyddo stiwardiaid ynghylch trefniadau ar gyfer y digwyddiadau

  3.  Gwirio'r lleoliad cyn y digwyddiadau

Mae'r safon hon ar gyfer uwch stiwardiaid a goruchwylwyr mewn digwyddiadau chwaraeon neu eraill a mannau poblog lle mae gwylwyr neu gynulleidfaoedd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


Pennu cyfrifoldebau i stiwardiaid

1.  pennu'r nifer gofynnol o stiwardiaid gyda'r sgiliau priodol ar gyfer y man penodedig

  1.  pennu stiwardiaid ar gyfer dyletswyddau a chyfrifoldebau penodol gan ddilyn cynllun y digwyddiad

  2.  gofalu bod pennu stiwardiaid yn dwyn i ystyriaeth unrhyw ofynion ac arweiniad y lleoliad

Cyfarwyddo'r stiwardiaid ynghylch trefniadau ar gyfer y digwyddiadau

  1.  mynychu'r sesiwn gyfarwyddo am y digwyddiad er mwyn eich paratoi ar gyfer eich dyletswydd

  2.  derbyn yr holl wybodaeth anghenrheidiol er mwyn cyfarwyddo'r stiwardiaid yn eich man penodedig

  3.  gofalu bod adnoddau ar gael ar gyfer y sesiwn gyfarwyddo

  4.  cyflwyno'r prif bwyntiau i'r stiwardiaid ynghyd â'r rhesymau pam eu bod yn bwysig i'r man penodedig

  5.  cyflwyno manylion perthnasol i stiwardiaid yn deillio o gynlluniau wrthgefn y lleoliad gan amlygu unrhyw lefelau bygythiadau perthnasol yn ymwneud â diogelwch

  6. cyfarwyddo stiwardiaid ychwanegol a'r rheiny sy'n hwyr yn unol â'r cyfarwyddyd gwreiddiol

  7. gwirio dealltwriaeth y stiward o'r cyfarwyddyd

  8. gwirio bod y stiwardiaid yn meddu ar y cyfarpar cywir ac wedi gwisgo'n briodol ar gyfer y digwyddiad

12. cadw cofnod o'r cyfarwyddyd yn dilyn gweithdrefnau'r digwyddiad

Gwirio'r lleoliad cyn y digwyddiadau

13. gwirio'r man penodedig yn dilyn cynllun y digwyddiad a rheoliadau'r lleoliad

14. gofalu caiff unrhyw risgiau, bygythiadau a pheryglon eu hadnabod a'u cofnodi

  1. gweithredu'n briodol o ran y risgiau,* bygythiadau a pheryglon* a'r amgylchiadau

16. cydymffurfio gyda'r gweithdrefnau cyfundrefnol i gwblhau'r holl gofnodion


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Pennu cyfrifoldebau i stiwardiaid

  1.  pwysigrwydd paratoi'n drylwyr cyn y digwyddiadau a'r canlyniadau posib yn sgil peidio gwneud hynny

  2.  y nifer o stiwardiaid a'r sgiliau angenrheidiol ar gyfer y man penodedig

  3.  pryd a sut i adrodd am y diffygion mewn nifer o stiwardiaid neu eu sgiliau yn y man penodedig

  4.  y proses i'w ddilyn wrth bennu stiwardiaid i gyflawni dyletswyddau a chyfrifoldebau penodedig

  5.  eich dyletswydd chi a'ch tîm pe bai angen rhoi cynlluniau wrthgefn ar waith

  6.  gofynion cyfreithiol a chyfundrefnol yn ymwneud â diogelwch yn y lleoliad gan gynnwys gofynion y lleoliad

  7. gofynion sylfaenol yn ymwneud â'r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch a sut mae'r rhain yn berthnasol i stiwardiaid mewn digwyddiadau  

Cyfarwyddo stiwardiaid ynghylch y trefniadau ar gyfer digwyddiadau

  1.  pam fod angen cyfarwyddo stiwardiaid cyn y digwyddiadau

  2.  sut i dderbyn yr wybodaeth angenrheidiol  

  3.  yr wybodaeth y mae angen i stiwardiaid ei wybod, gan gynnwys unrhyw anghenion unigol penodol ar gyfer y rheiny yn y digwyddiad area

  4. pwysigrwydd cyfarwyddo eglur 

12. sut i adnabod a mynd i'r afael gyda chamddealltwriaeth

  1. y cyfarpar a gwisg anghenrheidiol ar gyfer y digwyddiad  

14. proses a phwysigrwydd cofnodi

Gwirio'r lleoliad cyn y digwyddiadau

  1. pam fod angen gwirio'r man penodedig

16. y gweithdrefnau i gydymffurfio gyda nhw wrth wirio'r man penodedig

17. prif nodweddion y man penodedig a'r math o fygythiadau gall ymddangos

18. y mathau o weithrediadau er mwyn ymateb i fygythiadau

19. sut i gwblhau'r cofnodion angenrheidiol yn ymwneud â'r canlynol:

  1. cyfarpar personol gaiff ei ddosbarthu
  2. cofnodion presenoldeb a chyfarwyddo
  3. pa gyfarpar diogelwch sydd wedi'i wirio a'i brofi

Cwmpas/ystod

**GWYBODAETH YCHWANEGOL** **Cydraddoldeb ac Amrywiaeth** Mae disgwyl y bydd gan fudiadau weithdrefnau a chanllawiau i'w staff stiwardio gydymffurfio gyda nhw a fydd yn bodloni'r gofynion canlynol o leiaf: * anghenion corfforol amrywiol * anghenion diwylliannol amrywiol * anghenion ieithyddol * credoau **Diogelwch, Amddiffyn a Gwasanaeth** Mae disgwyl caiff yr holl wasanaethau mewn digwyddiadau gyda gwylwyr ac mewn mannau poblog eu cyflawni yn unol â'r mesurau isod: Mesurau diogelwch: unrhyw fesur caiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o ddiogelu iechyd a lles yr holl grwpiau cleient sy'n mynychu, neu'n cymryd rhan mewn digwyddiadau. Mesurau amddiffyn: unrhyw fesur caiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o atal, lleihau'r risg a/neu ymateb i unrhyw weithgareddau troseddol neu anghyfreithlon neu aflonyddwch yn gysylltiedig â'r digwyddiadau. Mesurau gwasanaeth: unrhyw fesur caiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod  o ofalu bod yr holl grwpiau cleient yn teimlo'n gyfforddus, wedi'u gwerthfawrogi a bod croeso iddyn nhw pan maen nhw'n mynychu digwyddiadau. **Lefelau Bygythiadau Terfysgaeth ym Mhrydain** Mae disgwyl bod uwch stiwardiaid, swyddogion diogelwch a staff tebyg sy'n meddu ar gyfrifoldeb cyffredinol dros ddiogelwch ac amddiffyniaeth digwyddiadau yn gyfarwydd gyda'r lefelau bygythiadau terfysgaeth cyfredol ym Mhrydain. Mae'r lefel o fygythiad yn dynodi tebygolrwydd o ymosodiad terfysgol ym Mhrydain. Mae 5 lefel o fygythiadau: * ISEL – mae ymosodiad yn annhebygol   * CYMEDROL- mae ymosodiad yn bosib ond nid ydyw'n debygol * SYLWEDDOL – mae ymosodiad yn bosib iawn * DIFRIFOL – mae ymosodiad yn debygol iawn * ARGYFYNGUS – mae disgwyl y bydd ymosodiad ar ddigwydd Caiff y lefel ei bennu gan y Cyd-Ganolfan Dadansoddi Terfysgaeth a'r Gwasanaeth Diogelwch  (MI5). Does gan lefelau bygythiol ddim dyddiad dod i ben ond fe allan nhw newid ar unrhyw adeg wrth i wahanol wybodaeth fod ar gael i asiantiaid diogelwch. 

GWYBODAETH YCHWANEGOL

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae disgwyl y bydd gan fudiadau weithdrefnau a chanllawiau i'w staff stiwardio gydymffurfio gyda nhw a fydd yn bodloni'r gofynion canlynol o leiaf:

  • anghenion corfforol amrywiol
  • anghenion diwylliannol amrywiol
  • anghenion ieithyddol
  • credoau

Diogelwch, Amddiffyn a Gwasanaeth

Mae disgwyl caiff yr holl wasanaethau mewn digwyddiadau gyda gwylwyr ac mewn mannau poblog eu cyflawni yn unol â'r mesurau isod:

Mesurau diogelwch: unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o ddiogelu iechyd a lles yr holl grwpiau cleient sy'n mynychu, neu'n cymryd rhan mewn digwyddiadau.

Mesurau amddiffyn: unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o atal, lleihau'r risg a/neu ymateb i unrhyw weithgareddau troseddol neu anghyfreithlon neu aflonyddwch yn gysylltiedig â'r digwyddiadau.

Mesurau gwasanaeth: unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod  o ofalu bod yr holl grwpiau cleient yn teimlo'n gyfforddus, wedi'u gwerthfawrogi a bod croeso iddyn nhw pan maen nhw'n mynychu digwyddiadau.

Lefelau Bygythiadau Terfysgaeth ym Mhrydain

Mae disgwyl bod uwch stiwardiaid, swyddogion diogelwch a staff tebyg sy'n meddu ar gyfrifoldeb cyffredinol dros ddiogelwch ac amddiffyniaeth digwyddiadau yn gyfarwydd gyda'r lefelau bygythiadau terfysgaeth cyfredol ym Mhrydain.

Mae'r lefel o fygythiad yn dynodi tebygolrwydd o ymosodiad terfysgol ym Mhrydain. Mae 5 lefel o fygythiadau:

  • ISEL – mae ymosodiad yn annhebygol  
  • CYMEDROL- mae ymosodiad yn bosib ond nid ydyw'n debygol
  • SYLWEDDOL – mae ymosodiad yn bosib iawn
  • DIFRIFOL – mae ymosodiad yn debygol iawn
  • ARGYFYNGUS – mae disgwyl y bydd ymosodiad ar ddigwydd

Caiff y lefel ei bennu gan y Cyd-Ganolfan Dadansoddi Terfysgaeth a'r Gwasanaeth Diogelwch  (MI5). Does gan lefelau bygythiol ddim dyddiad dod i ben ond fe allan nhw newid ar unrhyw adeg wrth i wahanol wybodaeth fod ar gael i asiantiaid diogelwch.


Cwmpas Perfformiad

**** **Dyletswyddau a chyfrifoldebau** 1.  diogelwch 2.  amddiffyniaeth 3.  gwasanaeth **Gwybodaeth** 1. y mathau o weithgareddau a bygythiadau yn y lleoliad 2. amserlen ar gyfer y digwyddiad 3. rheoliadau'r lleoliad 4. lleoliad cyfleusterau / cyfarpar mewn argyfwng 5. gweithdrefnau cyfundrefnol a'r lleoliad 6. gweithdrefnau wrthgefn ac mewn argyfwng gan gynnwys geiriau cod a / neu negeseuon cod 7. prif dasgau stiwardio ar gyfer y man penodedig 8. gwybodaeth cyn y digwyddiad 9. proffil y dorf **Bygythiadau a pheryglon** (ymdrin ag 1 a 2 o leiaf) 1.  diogelwch  2.  amddiffyniaeth  3.  glanweithdra  4.  amgylcheddol 5.  offer diffygiol 6.  strwythurol 

Gwybodaeth Cwmpas

**** **Dyletswyddau a chyfrifoldebau** 1.  diogelwch 2.  gwasanaeth 3.  amddiffyniaeth ** ** **Gwybodaeth** 1.  mathau o weithgareddau a bygythiadau yn y lleoliad 2.  amserlen y digwyddiad 3.  rheoliadau'r lleoliad 4.  lleoliad cyfleusterau / cyfarpar mewn argyfwng 5.  gweithdrefnau cyfundrefnol a'r lleoliad 6.  gweithdrefnau wrthgefn ac mewn argyfwng gan gynnwys geiriau cod 7.  prif dasgau stiwardio ar gyfer y man penodedig 8.  gwybodaeth cyn y digwyddiad 9.  proffil y dorf ** ** **Bygythiadau a pheryglon** 1.  diogelwch 2.  amddiffyniaeth  3.  glanweithdra 4.  amgylcheddol 5.  offer diffygiol 6.  strwythurol

Gwerthoedd


Ymddygiadau

Mae'r ymddygiadau canlynol wrth wraidd cyflenwi gwasanaethau yn y sector diogelwch i wylwyr. Mae'r ymddygiadau yn sicrhau bod y mudiad a'r unigolyn yn creu argraff dda ar y cleientiaid.

Mae'n rhaid ichi ddangos eich bod yn cyflawni'r canlynol yn gyson:

1.     Adnabod yr angen i fod yn hyblyg er mwyn dwyn i ystyriaeth amgylchiadau newidiol

2.     Addasu cynlluniau ac ymatebion fel bo'r angen

3.     Blaenoriaethu amcanion a gwaith cynllunio er mwyn manteisio ar y defnydd gorau posib o amser ac adnoddau 

4.     Gofalu bod amser i gefnogi eraill

5.     Cymryd cyfrifoldeb personol dros weithredu rhai pethau

6.     Dangos gonestrwydd, tegwch a chysondeb wrth wneud penderfyniadau

7.     Cytuno'n eglur ar beth a ddisgwylir gan bobl eraill a'u hystyried nhw'n gyfrifol am herio ymddygiad cymdeithasol er enghraifft.

8.     Ceisio deall disgwyliadau pobl ac unrhyw anghenion ychwanegol a medru bodloni'r rhain 

9.     Cymryd cyfrifoldeb dros ddiogelwch personol

10.   Cymryd balchder mewn cynnig gwasanaeth o safon

11.   Ymdrechu i fod yn wyliadwrus rhag bygythiadau a pheryglon posib

12.   Annog a chefnogi eraill i fanteisio i'r eithaf ar eu galluoedd.

13.   Defnyddio ystod o ddulliau arwain sy'n briodol i wahanol bobl a sefyllfaoedd

14.   Eirioli dros ddiogelwch a lles fel blaenoriaeth wrth gynllunio a rheoli digwyddiadau

15.   Cymryd balchder yn eich edrychiad a chydymffurfio gydag unrhyw godau gwisg gan y mudiad neu leoliad

16.   Cydymffurfio gyda chod ymddygiad y lleoliad

17.   Dangos eich gallu i gynnal cyfrinachedd

18.   Dangos ymwybyddiaeth o faterion diogelu

19.   Dangos dealltwriaeth o ofynion cyfreithiol sylfaenol yn ymwneud ag amrywioldeb a diogelwch


Sgiliau

Dyma restr o'r prif sgiliau a nodweddion cyffredinol sydd eu hangen er mwyn gofalu am ddiogelwch gwylwyr

  1. Gwrando a gweithredu 

  2. Cyfathrebu geiriol ac aneiriol effeithiol
  3. Dylanwadu ar ac argyhoeddi eraill
  4. Dirprwyo

  5. Diplomyddiaeth

  6. Empathi
  7. Rhoi grym i eraill
  8. Gallu i ddilyn cyfarwyddiadau
  9. Arwain drwy esiampl
  10. Gwydnwch
  11. Rheoli ymddygiad heriol
  12. Mentora
  13. Ysgogi eraill
  14. Trafod a chyfaddawdu
  15. Derbyn a chynnig adborth
  16. Cynllunio a gwerthuso

  17. Gwerthfawrogi a chefnogi eraill

Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

SKASS3, SKASS4, SKASS5, SKASS8, SKASS9


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKASS7

Galwedigaethau Perthnasol

Uwch Stiward

Cod SOC

9275

Geiriau Allweddol

stiwardiaid, digwyddiadau, gwylwyr, lleoliadau, torf, cynulleidfa