Mynd i’r afael gyda helyntion mewn digwyddiadau i wylwyr
Trosolwg
Mae yna bob amser elfen o her a risg ynghlwm â digwyddiadau i wylwyr a bydd trafferthion o bryd i'w gilydd. Mae'n bwysig iawn bod yr holl aelodau o staff yn gymwys i ymdrin â'r trafferthion. Dydy'r safon hon ddim yn ymdrin â rheoli ymateb cychwynnol i helynt sylweddol. Fodd bynnag, mae'n ymdrin â sgiliau achub bywyd sylfaenol.
Mae'r safon hon ar gyfer stiwardiaid a staff tebyg eraill sy'n cydweithio'n uniongyrchol gyda gwylwyr a grwpiau cleient eraill er mwyn gofalu am eu diogelwch a'u lles mewn digwyddiadau a mannau poblog.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. asesu'r sefyllfa am **fygythiadau** a pheryglon 2. gwarchod unrhyw glwyfedigion a phobl eraill ynghlwm rhag niwed pellach 3. galw am **gynorthwyydd cymwys** 4. defnyddio sgiliau achub bywyd sylfaenol 5. cyflwyno gwybodaeth i'r **cynorthwyydd cymwys** am yr helynt 6. rhoi cyfarwyddiadau i'r rheiny sydd ynghlwm â'r helynt yn unol â gweithdrefnau rheoli helyntion y mudiad 7. cyflawni'ch dyletswydd yn unol â gweithdrefnau rheoli helyntion y mudiad 8. cydymffurfio gyda gweithdrefnau er mwyn adrodd am y digwyddiad |
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
egwyddorion sylfaenol o asesu risg
y mathau o helyntion gall ddigwydd
gweithdrefnau rheoli helyntion y mudiad
y gweithdrefnau ynghlwm â mynd i'r afael â helyntion yn brydlon, yn bwyllog ac yn gywir
sut i fynd i'r afael â helyntion cyn i gynorthwyydd cymwys gyrraedd
sut i warchod y clwyfedig ac eraill ynghlwm rhag niwed pellach
sgiliau achub bywyd sylfaenol
sut i gynnig cysur a chalonogaeth
yr weithdrefn er mwyn gofyn am gynorthwyydd cymwys
pa wybodaeth sy'n bwysig ichi ei rannu gyda'r bobl ynghlwm
adrodd am helyntion
Cwmpas/ystod
**** **GWYBODAETH YCHWANEGOL** **Cydraddoldeb ac Amrywioldeb** Mae disgwyl y bydd gan fudiadau weithdrefnau a chanllawiau i'w staff stiwardio gydymffurfio gyda nhw ac a fydd yn bodloni'r gofynion canlynol o leiaf: * gwahanol anghenion corfforol * gwahanol anghenion diwylliannol * anghenion ieithyddol * credoau **Diogelwch, Amddiffyn a Gwasanaeth** Mae disgwyl caiff yr holl wasanaethau mewn digwyddiadau gyda gwylwyr ac mewn mannau poblog eu cyflawni yn unol â'r mesurau isod: **Mesurau diogelwch:** unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o ddiogelu iechyd a lles yr holl grwpiau cleient sy'n mynychu, neu'n cymryd rhan mewn digwyddiadau. **Mesurau amddiffyn:** unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o atal, lleihau'r risg a/neu ymateb i unrhyw weithgareddau troseddol neu anghyfreithlon neu aflonyddwch yn gysylltiedig â'r digwyddiadau. **Mesurau gwasanaeth:** unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o ofalu bod yr holl grwpiau cleient yn teimlo'n gyfforddus, wedi'u gwerthfawrogi a bod croeso iddyn nhw pan maen nhw'n mynychu digwyddiadau. |
Cwmpas Perfformiad
Bygythiadau (Mae'n rhaid ymdrin ag 1 a 2 o leiaf)
diogelwch
amddiffyniaeth
glanweithdra
amgylcheddol
offer diffygiol
strwythurol
* *
Cynorthwywyr cymwys (ymdrin â phob un)
staff wedi'u hyfforddi mewn cymorth cyntaf
staff meddygol
swyddog tân
gwasanaethau argyfwng
Gwybodaeth Cwmpas
Cynorthwywyr cymwys
1. staff wedi'u hyfforddi mewn cymorth cyntaf
2. staff meddygol
3. swyddog tân
4. gwasanaethau argyfwng
* *
Sgiliau achub bywyd sylfaenol
- CPR
- cynnal llwybrau anadlu clir
- rheoli gwaedu
Mathau o helyntion
tân
meddygol
anhrefn yn y dorf
terfysgaeth
amgylcheddol
cemegol
pobl ar goll
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiadau canlynol wrth wraidd cyflenwi gwasanaethau yn y sector diogelwch i wylwyr. Mae'r ymddygiadau yn sicrhau bod y mudiad a'r unigolyn yn creu argraff dda ar y cleientiaid.
Mae'n rhaid ichi ddangos eich bod yn cyflawni'r canlynol yn gyson:
1. Adnabod yr angen i fod yn hyblyg er mwyn dwyn i ystyriaeth amgylchiadau newidiol
2. Addasu cynlluniau ac ymatebion fel bo'r angen
3. Blaenoriaethu amcanion a gwaith cynllunio er mwyn manteisio ar y defnydd gorau posib o amser ac adnoddau
4. Gofalu bod amser i gefnogi eraill
5. Cymryd cyfrifoldeb personol dros weithredu rhai pethau
6. Dangos gonestrwydd, tegwch a chysondeb wrth wneud penderfyniadau
7. Cytuno'n eglur ar beth a ddisgwylir gan bobl eraill a'u hystyried nhw'n gyfrifol am herio ymddygiad cymdeithasol er enghraifft.
8. Ceisio deall disgwyliadau pobl ac unrhyw anghenion ychwanegol a medru bodloni'r rhain
9. Cymryd cyfrifoldeb dros ddiogelwch personol
10. Cymryd balchder mewn cynnig gwasanaeth o safon
11. Ymdrechu i fod yn wyliadwrus rhag bygythiadau a pheryglon posib
12. Annog a chefnogi eraill i fanteisio i'r eithaf ar eu galluoedd.
13. Defnyddio ystod o ddulliau arwain sy'n briodol i wahanol bobl a sefyllfaoedd
14. Eirioli dros ddiogelwch a lles fel blaenoriaeth wrth gynllunio a rheoli digwyddiadau
15. Cymryd balchder yn eich edrychiad a chydymffurfio gydag unrhyw godau gwisg gan y mudiad neu leoliad
16. Cydymffurfio gyda chod ymddygiad y lleoliad
17. Dangos eich gallu i gynnal cyfrinachedd
18. Dangos ymwybyddiaeth o faterion diogelu
19. Dangos dealltwriaeth o ofynion cyfreithiol sylfaenol yn ymwneud ag amrywioldeb a diogelwch
Sgiliau
Dyma restr o'r prif sgiliau a nodweddion cyffredinol sydd eu hangen er mwyn gofalu am ddiogelwch gwylwyr
- Gwrando a gweithredu
- Cyfathrebu geiriol ac aneiriol effeithiol
- Dylanwadu ar ac argyhoeddi eraill
Dirprwyo
Diplomyddiaeth
- Empathi
- Rhoi grym i eraill
- Gallu i ddilyn cyfarwyddiadau
- Arwain drwy esiampl
- Gwydnwch
- Rheoli ymddygiad heriol
- Mentora
- Ysgogi eraill
- Trafod a chyfaddawdu
- Derbyn a chynnig adborth
- Cynllunio a gwerthuso
- Gwerthfawrogi a chefnogi eraill
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
SKASS1, SKASS2, SKASS3, SKASS4, SKASS7, SKASS8, SKASS9