Ymyrryd er mwyn rheoli pobl mewn digwyddiadau i wylwyr
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chydymffurfio gyda gweithdrefnau diogel a chyfreithiol i reoli gwylwyr pan nad oes modd datrys sefyllfaoedd o wrthdaro mewn unrhyw ffordd arall. Mae'r safon yn ymdrin â'r technegau a defnydd diogel ac effeithiol o ymyrraeth gorfforol pan fo'i angen. Mae'r safon hefyd yn ymdrin â throsglwyddo gwylwyr i'r corff perthnasol er mwyn gweithredu'n bellach.
Mae'r safon hon ar gyfer stiwardiaid a staff tebyg eraill sy'n cydweithio'n uniongyrchol gyda gwylwyr er mwyn gofalu am eu diogelwch a'u lles mewn digwyddiadau a mannau poblog.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
asesu'r sefyllfa a'r angen am ymyrraeth eiriol neu aneiriol gan gydymffurfio gyda gweithdrefnau cyfreithiol a chyfundrefnol
cydymffurfio gyda gweithdrefnau cyfundrefnol wrth ymyrryd
tywys pobl i fan penodedig neu eu gwahardd o'r digwyddiad
cydymffurfio gyda gweithdrefnau rheoli digwyddiadau i egluro i'r bobl ynghlwm beth sy'n digwydd, pam a'r camau nesaf posib
cadw mewn cysylltiad gyda'ch goruchwyliwr yn ystod y digwyddiad a dilyn arweiniad a chyfarwyddyd
trosglwyddo cyfrifoldeb am y digwyddiad i'r corff perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. y deddfau yn ymwneud â hunan-amddiffyn, gwarchod eraill ac atal troseddau
dulliau o gynnal eich diogelwch personol eich hun ac eraill
pwysigrwydd gofalu bod unrhyw orfodaeth gennych chi neu eraill yn rhesymol yn yr amgylchiadau ac yn gymesur â'r bygythiad
troseddau sy'n golygu ymddygiad anghyfreithlon
goblygiadau ymddygiad anghyfreithlon o ran diogelwch a lles pobl mewn digwyddiad i wylwyr
amgylchiadau lle gallwch gyfiawnhau defnyddio technegau ymyrryd geiriol neu gorfforol
7. ffactorau i'w hystyried wrth ddefnyddio technegau ymyrryd
sut i amrywio eich dull gweithredu yn unol â'r ffactorau hyn
sut i ddefnyddio ymyrraeth gorfforol a sut i'w ddefnyddio'n ddiogel
10. y gweithdrefnau wedi'u cytuno er mwyn tywys pobl yn ddiogel i fan penodedig neu eu gwahardd o'r digwyddiad
dulliau o lunio cofnodion cywir
y gweithdrefnau rheoli digwyddiadau perthnasol i'r lleoliad a / neu ddigwyddiad
pam fod yn rhaid ichi gadw mewn cysylltiad gyda'ch goruchwyliwr yn ystod digwyddiadau a dilyn eu harweiniad nhw
proses trosglwyddo'r bobl i'r corff perthnasol yn unol â'r gweithdrefnau cyfundrefnol a throsolwg y digwyddiad
15. pwysigrwydd cynnig gwybodaeth gywir a manwl i'r corff perthnasol
Cwmpas/ystod
GWYBODAETH YCHWANEGOL
Cydraddoldeb ac Amrywioldeb
Mae disgwyl y bydd gan fudiadau weithdrefnau a chanllawiau i'w staff stiwardio gydymffurfio gyda nhw ac a fydd yn bodloni'r gofynion canlynol o leiaf:
- gwahanol anghenion corfforol
- gwahanol anghenion diwylliannol
- anghenion ieithyddol
- credoau
Diogelwch, Amddiffyn a Gwasanaeth
Mae disgwyl caiff yr holl wasanaethau mewn digwyddiadau gyda gwylwyr ac mewn mannau poblog eu cyflawni yn unol â'r mesurau isod:
Mesurau diogelwch: unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o ddiogelu iechyd a lles yr holl grwpiau cleient sy'n mynychu, neu'n cymryd rhan mewn digwyddiadau.
Mesurau amddiffyn: unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o atal, lleihau'r risg a/neu ymateb i unrhyw weithgareddau troseddol neu anghyfreithlon neu aflonyddwch yn gysylltiedig â'r digwyddiadau.
Mesurau gwasanaeth: unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o ofalu bod yr holl grwpiau cleient yn teimlo'n gyfforddus, wedi'u gwerthfawrogi a bod croeso iddyn nhw pan maen nhw'n mynychu digwyddiadau.
Cwmpas Perfformiad
Corff perthnasol (ymdrin â phob un)
gwasanaeth heddlu
gwasanaethau meddygol
tîm diogelu penodedig
gweithwyr y lleoliad sydd wedi'u penodi i reoli unigolion bygythiol neu dreisgar
Gwybodaeth Cwmpas
Ffactorau
ymddygiad anghyfreithlon, nad ydyw'n cydymffurfio neu wrth-gymdeithasol
risgiau i ddiogelwch y cyhoedd
lleoliad y digwyddiad
amser y digwyddiad
nifer o bobl ynghlwm â'r digwyddiad
lefel o adnoddau cefnogi sydd ar gael
credoau ac anghenion corfforol yr unigolyn
Corff perthnasol
gwasanaeth heddlu
gwasanaethau meddygol
tîm diogelu penodedig
gweithwyr y lleoliad sydd wedi'u penodi i reoli unigolion bygythiol neu dreisgar
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiadau canlynol wrth wraidd cynnal gweithgareddau yn y sector diogelwch i wylwyr. Mae'r ymddygiadau yn gofalu bod y mudiad a'r unigolyn yn creu argraff dda ar y cleientiaid.
Mae'n rhaid ichi ddangos eich bod yn cyflawni'r canlynol yn gyson:
1. Adnabod yr angen i fod yn hyblyg er mwyn dwyn i ystyriaeth amgylchiadau newidiol
2. Addasu cynlluniau ac ymatebion fel bo'r angen
3. Blaenoriaethu amcanion a gwaith cynllunio er mwyn manteisio ar y defnydd gorau posib o amser ac adnoddau
4. Gofalu bod amser i gefnogi eraill
5. Cymryd cyfrifoldeb personol dros weithredu rhai pethau
6. Dangos gonestrwydd, tegwch a chysondeb wrth wneud penderfyniadau
7. Cytuno'n eglur ar beth a ddisgwylir gan bobl eraill a'u hystyried nhw'n gyfrifol am herio ymddygiad cymdeithasol er enghraifft
8. Ceisio deall disgwyliadau pobl ac unrhyw anghenion ychwanegol a medru bodloni'r rhain
9. Cymryd cyfrifoldeb dros ddiogelwch personol
10. Cymryd balchder mewn cynnig gwasanaeth o safon
11. Ymdrechu i fod yn wyliadwrus rhag bygythiadau a pheryglon posib
12. Annog a chefnogi eraill i fanteisio i'r eithaf ar eu galluoedd.
13. Defnyddio ystod o ddulliau arwain sy'n briodol i wahanol bobl a sefyllfaoedd
14. Eirioli dros ddiogelwch a lles fel blaenoriaeth wrth gynllunio a rheoli digwyddiadau
15. Cymryd balchder yn eich edrychiad a chydymffurfio gydag unrhyw godau gwisg gan y mudiad neu leoliad
16. Cydymffurfio gyda chod ymddygiad y lleoliad
17. Dangos eich gallu i gynnal cyfrinachedd
18. Dangos ymwybyddiaeth o faterion diogelu
19. Dangos dealltwriaeth o ofynion cyfreithiol sylfaenol yn ymwneud ag amrywioldeb a diogelwch
Sgiliau
Dyma restr o'r prif sgiliau a nodweddion cyffredinol sydd eu hangen er mwyn gofalu am ddiogelwch gwylwyr
- Gwrando a gweithredu
- Cyfathrebu geiriol ac aneiriol effeithiol
- Dylanwadu ar ac argyhoeddi eraill
Dirprwyo
Diplomyddiaeth
- Empathi
- Rhoi grym i eraill
- Gallu i ddilyn cyfarwyddiadau
- Arwain drwy esiampl
- Gwydnwch
- Rheoli ymddygiad heriol
- Mentora
- Ysgogi eraill
- Trafod a chyfaddawdu
- Derbyn a chynnig adborth
- Cynllunio a gwerthuso
- Gwerthfawrogi a chefnogi eraill
Geirfa
Safonau a gweithdrefnau wedi'u cytuno
Gweithdrefnau wedi'u cymeradwyo eisoes sy'n gofnod o weithrediadau'r lleoliad o ddydd i ddydd. Gall fod yn weithdrefnau gweithredu arferol, gweithdrefnau mewn argyfwng a chynlluniau wrth gefn. Mae hyn yn ymwneud â gofynion y lleoliad ynghyd â gofynion cyfundrefnol.
Gweithdrefnau rheoli digwyddiadau
Y gweithdrefnau cyfundrefnol er mwyn mynd i'r afael gyda digwyddiadau.
Technegau ymyrryd
Yr ystod o dechnegau rheoli torfeydd a all gael eu defnyddio i reoli, cyfathrebu gyda neu gadw trefn ar bobl sy'n mynychu digwyddiad. Gyda rhai technegau, mae'n bosib y bydd angen i staff wahardd neu rwystro unigolyn neu eu gwahanu rhag mynychwyr eraill.
Dolenni I NOS Eraill
SKASS1, SKASS2, SKASS3, SKASS5, SKASS7,SKASS8, SKASS9