Helpu rheoli a datrys gwrthdaro
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â mynd i'r afael â sefyllfaoedd lle mae gwrthdaro rhwng pobl. Mae'r safon yn ymdrin â defnyddio cyfathrebu geiriol ac aneiriol effeithiol er mwyn datrys y sefyllfa, cynnig cyngor a rhybuddion a galw am gymorth pan fo'i angen. Dydy'r safon hon ddim yn ymdrin â cheisio rheoli pobl yn gorfforol neu eu rhwystro. Prif ddeilliannau'r safon hon ydy: 1. Ymwneud gyda grwpiau cleient mewn sefyllfaoedd o wrthdaro 2. Cydymffurfio gyda gweithdrefnau er mwyn datrys sefyllfaoedd o wrthdaro Mae'r safon hon ar gyfer stiwardiaid a staff tebyg eraill sy'n cydweithio'n uniongyrchol gyda gwylwyr a grwpiau cleient eraill er mwyn gofalu am eu diogelwch a'u lles mewn digwyddiadau a mannau poblog. |
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
**** **Ymwneud gyda grwpiau cleient mewn sefyllfaoedd o wrthdaro** 1. egluro eich dyletswyddau chi i'r **grwpiau cleient** ynghyd â beth rydych yn ei ddisgwyl ganddyn nhw 2. parhau i fod yn wyliadwrus o gyfathrebu geiriol ac aneiriol yn ymwneud ag arwyddion o beryglon **Dilyn gweithdrefnau i ddatrys sefyllfaoedd o wrthdaro** 3. asesu'r peryg neu fygythiad i chi'ch hun ac eraill yn y sefyllfa 4. asesu difrifoldeb y sefyllfa ac ymddygiad yr unigolion ynghlwm 5. cynnal eich diogelwch personol eich hun 6. cydymffurfio gyda gweithdrefnau rheoli digwyddiadau er mwyn datrys y sefyllfa 7. casglu, cofnodi ac adrodd gwybodaeth am y sefyllfa |
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
**** **Ymwneud gyda grwpiau cleient mewn sefyllfaoedd o wrthdaro** 1. y mathau o sefyllfaoedd o wrthdaro sy'n debygol i ddigwydd 2. yr ymatebion priodol ar gyfer pob un o'r sefyllfaoedd hynny 3. diben cyfathrebu effeithiol er mwyn tawelu'r gwrthdaro 4. pwysigrwydd dangos parch tuag at **grwpiau cleient**, eu heiddo a'u hawliau 5. sut i ddefnyddio ymddygiad a / neu iaith anwahaniaethol ac anfygythiol i reoli sefyllfaoedd o wrthdaro 6. sut i ddefnyddio cyfathrebu aneiriol i reoli sefyllfaoedd o wrthdaro **Cydymffurfio gyda gweithdrefnau i ddatrys sefyllfaoedd o wrthdaro** 7. dulliau o asesu risg mewn sefyllfaoedd o wrthdaro 8. pwysigrwydd deall anghenion a rhagdybiaethau unigolion neu grwpiau 9. ffyrdd o gynnal eich diogelwch eich hun 10. gweithdrefnau rheoli digwyddiadau 11. dulliau casglu gwybodaeth 12. pwysigrwydd cofnodi ac adrodd gwybodaeth |
Cwmpas/ystod
****
|
Cwmpas Perfformiad
Grwpiau cleient (ymdrîn â 4 o leiaf)
gwylwyr
y gweithlu
contractwyr
cyrff rheoleiddiol
y cyfryngau
gwasanaethau argyfwng
athletwyr
artistiaid
swyddogion y digwyddiad
Gwybodaeth Cwmpas
Grwpiau cleient
gwylwyr
y gweithlu
contractwyr
cyrff rheoleiddiol
y cyfryngau
gwasanaethau argyfwng
athletwyr
artistiaid
swyddogion y digwyddiad
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiadau canlynol wrth wraidd cyflenwi gwasanaethau yn y sector diogelwch i wylwyr. Mae'r ymddygiadau yn gofalu bod y mudiad a'r unigolyn yn creu argraff dda ar y cleientiaid.
Mae'n rhaid ichi ddangos eich bod yn cyflawni'r canlynol yn gyson:
1. Adnabod yr angen i fod yn hyblyg er mwyn dwyn i ystyriaeth amgylchiadau newidiol
2. Addasu cynlluniau ac ymatebion fel bo'r angen
3. Blaenoriaethu amcanion a gwaith cynllunio er mwyn manteisio ar y defnydd gorau posib o amser ac adnoddau
4. Gofalu bod amser i gefnogi eraill
5. Cymryd cyfrifoldeb personol dros weithredu rhai pethau
6. Dangos gonestrwydd, tegwch a chysondeb wrth wneud penderfyniadau
7. Cytuno'n eglur ar beth a ddisgwylir gan bobl eraill a'u hystyried nhw'n gyfrifol am herio ymddygiad cymdeithasol er enghraifft.
8. Ceisio deall disgwyliadau pobl ac unrhyw anghenion ychwanegol a medru bodloni'r rhain
9. Cymryd cyfrifoldeb dros ddiogelwch personol
10. Cymryd balchder mewn cynnig gwasanaeth o safon
11. Ymdrechu i fod yn wyliadwrus rhag bygythiadau a pheryglon posib
12. Annog a chefnogi eraill i fanteisio i'r eithaf ar eu galluoedd.
13. Defnyddio ystod o ddulliau arwain sy'n briodol i wahanol bobl a sefyllfaoedd
14. Eirioli dros ddiogelwch a lles fel blaenoriaeth wrth gynllunio a rheoli digwyddiadau
15. Cymryd balchder yn eich edrychiad a chydymffurfio gydag unrhyw godau gwisg gan y mudiad neu leoliad
16. Cydymffurfio gyda chod ymddygiad y lleoliad
17. Dangos eich gallu i gynnal cyfrinachedd
18. Dangos ymwybyddiaeth o faterion diogelu
19. Dangos dealltwriaeth o ofynion cyfreithiol sylfaenol yn ymwneud ag amrywioldeb a diogelwch
Sgiliau
Dyma restr o'r prif sgiliau a nodweddion cyffredinol sydd eu hangen er mwyn gofalu am ddiogelwch gwylwyr
- Gwrando a gweithredu
- Cyfathrebu geiriol ac aneiriol effeithiol
- Dylanwadu ar ac argyhoeddi eraill
Dirprwyo
Diplomyddiaeth
- Empathi
- Rhoi grym i eraill
- Gallu i ddilyn cyfarwyddiadau
- Arwain drwy esiampl
- Gwydnwch
- Rheoli ymddygiad heriol
- Mentora
- Ysgogi eraill
- Trafod a chyfaddawdu
- Derbyn a chynnig adborth
- Cynllunio a gwerthuso
- Gwerthfawrogi a chefnogi eraill
Geirfa
Sefyllfaoedd o wrthdaro
Sefyllfaoedd lle mae pobl yn anghytuno'n chwyrn a all arwain at drais neu ffurfiau eraill o ymddygiad anghyfreithlon, gwrth-gymdeithasol neu wahaniaethol.
Dolenni I NOS Eraill
SKASS1, SKASS2, SKASS4, SKASS5, SKASS7, SKASS8, SKASS9