Rheoli ymateb cychwynnol i ddigwyddiad enfawr neu sylweddol a chynllunio tuag at fod yn wydn
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio a rheoli effeithiol wrth ymateb i ddigwyddiad enfawr neu sylweddol maleisus neu anfaleisus ar ran y mudiad. Mae hefyd yn ymdrin â chefnogi a chydweithio gyda mudiadau sy'n ymateb i ddigwyddiadau mewn argyfwng ynghyd â gofalu fod y busnes yn parhau a bod pethau'n dychwelyd i normalrwydd.
Prif ddeilliannau'r safon hon ydy:
Asesu risg a bygythiad digwyddiad
Cynllunio ar gyfer ymateb i ddigwyddiad enfawr neu sylweddol
Rheoli'r ymateb cychwynnol i ddigwyddiad enfawr neu sylweddol
Rheoli adferiad yn dilyn digwyddiad
Mae'r safon hon ar gyfer swyddogion diogelwch a staff tebyg sy'n gweithio mewn digwyddiadau chwaraeon neu ddigwyddiadau eraill lle mae gwylwyr neu gynulleidfaoedd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Asesu risg a bygythiad digwyddiad
meddiannu a dadansoddi'r wybodaeth angenrheidiol er mwyn cynnal asesiad risg a bygythiad
cynnal asesiadau risg a bygythiad
gwerthuso'r peryglon a bygythiadau ynghlwm â'r digwyddiad
cydweithio gydag ymatebwyr mewn argyfwng i wneud y canlynol:
cynnal safbwynt cytunedig ynglŷn â'r risgiau sy'n effeithio ar y digwyddiad
cynllunio a blaenoriaethu adnoddau angenrheidiol i baratoi ar gyfer y risgiau hynny
cofnodi asesiadau risg yn unol â gofynion a chanllawiau cyfundrefnol
egluro'r asesiadau risg a bygythiad i randdeiliaid
ymgyfuno'r mesurau lliniaru fel ymateb i'r asesiad risg a bygythiad
adolygu a diweddaru asesiadau risg a bygythiad fel ymateb i newidiadau yn yr amgylchedd lle mae risgiau
cynnal a diweddaru cynlluniau mewn argyfwng
cysylltu gyda rhanddeiliaid i ddiweddaru cynlluniau pan fo argyfwng
Cynllunio ar gyfer ymateb i ddigwyddiad enfawr neu sylweddol
11. gwerthuso'r trothwy ymateb ar gyfer y digwyddiad
rhannu cyfrifoldebau a thasgau rhwng pawb sydd ynghlwm â'r broses ymateb yn unol â'u dyletswyddau a chyfrifoldebau
dewis y person sy'n meddu ar y cyfrifoldeb ac awdurdod i fynd ati i ymateb i ddigwyddiad
14. cynllunio'r defnydd o adnoddau angenrheidiol ar gyfer ymateb
asesu'r angen ar gyfer cynllunio hyfforddiant ac ymarferion
datblygu cynllun hyfforddiant ac ymarferion
Rheoli'r ymateb cychwynnol i ddigwyddiad enfawr neu sylweddol
- asesu grwpiau cleient sydd mewn peryg o'u niweidio a'u hanafu
17. cysylltu gyda'r gwasanaethau argyfwng gan rannu gwybodaeth fanwl am y digwyddiad
18. mynd rhagddi i ymateb i'r digwyddiad
19. gweithredu cofnod penderfyniadau
20. parhau i asesu risgiau yn ddynamig ac addasu'r ymateb yn ôl y blaenoriaethau
21. trosglwyddo blaenoriaeth i'r gwasanaethau argyfwng a chynnig yr wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw ynghylch y digwyddiad
22. parhau i gefnogi'r gwasanaethau argyfwng drwy gydol y digwyddiad
- cyfrannu tuag at neu lunio cynlluniau ar gyfer parhad busnes
Rheoli adferiad yn dilyn digwyddiad
24. cadw a diogelu tystiolaeth i gefnogi ymchwiliad yn dilyn digwyddiad
25. adrodd yn ôl i'r holl rhanddeiliaid a chyflwyno adroddiad ynghylch y digwyddiad
26. adolygu trefniadau cynllunio mewn argyfwng
27. cynnig modd o fanteisio ar adnoddau arbenigol i gefnogi'r rheiny wedi'u heffeithio gan y digwyddiad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Asesu risg a bygythiad digwyddiad
gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol, safonau a chanllawiau ymarfer da cyfredol
asesiad risg a lefel bygythiad cenedlaethol a rhanbarthol
dyletswyddau a strwythur fforymau gwydnwch lleol ar gyfer cydweithio ar yr asesiad risg
nodweddion digwyddiad all ddylanwadu ar debygolrwydd ac effaith digwyddiad enfawr neu sylweddol
cynlluniau ar gyfer parhad busnes a digwyddiadau'r mudiad
nod, maes ac amcanion cynlluniau a threfniadau digwyddiadau
yr adnoddau sydd ar gael er mwyn rheoli digwyddiadau
pwysigrwydd gofalu bod yr holl randdeiliaid perthnasol yn rhan o'r broses cynllunio
pwysigrwydd asesu risg yn barhaus yn ystod y digwyddiad
dulliau asesiad risg
11. mesurau lliniaru
Cynllunio i ymateb i ddigwyddiad enfawr neu sylweddol
12. rhanddeiliaid a'u dyletswyddau a chyfrifoldebau yn y broses ymateb
- adnoddau angenrheidiol ar gyfer ymateb
14. egwyddorion cynllunio rheoli digwyddiadau
- y gylchred cynllunio mewn argyfwng
16. dulliau codi ymwybyddiaeth o ddigwyddiadau a threfniadau digwyddiadau
Rheoli'r ymateb cychwynnol i ddigwyddiad enfawr neu sylweddol
15. effaith dichonol argyfyngau ar grwpiau cleient
- yr wybodaeth sydd angen ei rhannu gyda'r gwasanaethau argyfwng
17. dulliau cyfathrebu yn ystod digwyddiad enfawr neu sylweddol
- pwysigrwydd cyfathrebu'n eglur ac yn drahaus
19. y broses ar gyfer mynd rhagddi i ymateb i ddigwyddiad enfawr neu sylweddol
20. pwysigrwydd cofnod penderfyniadau
21. dulliau cofnodi trafodaethau. penderfyniadau, gweithrediadau a chyfathrebu
22. dulliau rheoli ymateb i ddigwyddiad
23. sut i arwain tîm ymateb i ddigwyddiadau a gwneud penderfyniadau
24. sut i addasu'r ymateb i gefnogi blaenoriaethau
25. proses trosglwyddo blaenoriaeth i'r gwasanaethau argyfwng
26. y mathau o gefnogaeth y mae'n bosib y bydd aelodau o'r tîm ymateb a'r gwasanaethau argyfwng eu hangen
27. cynlluniau ar gyfer parhad busnes
Rheoli adferiad yn dilyn digwyddiad
28. y mathau o dystiolaeth angenrheidiol ar gyfer ymchwiliad yn dilyn digwyddiad
29. sut i ddiogelu tystiolaeth
30. sut i adrodd yn ôl i'r rheiny ynghlwm
31. llunio adroddiad
32. pwysigrwydd adolygu a gwerthuso ymateb i ddigwyddiad
33. sut i ddefnyddio canfyddiadau gwerthusiad er mwyn gofalu gwelliant parhaus
- lle a sut i fanteisio ar gefnogaeth ar gyfer y rheiny sydd wedi'u heffeithio gan y digwyddiad
Cwmpas/ystod
GWYBODAETH YCHWANEGOL
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae disgwyl y bydd gan fudiadau weithdrefnau a chanllawiau i'w staff stiwardio gydymffurfio gyda nhw a fydd yn bodloni'r gofynion canlynol o leiaf:
- anghenion corfforol amrywiol
- anghenion diwylliannol amrywiol
- anghenion ieithyddol
- credoau
*
*
Diogelwch, Amddiffyn a Gwasanaeth
Mae disgwyl caiff yr holl wasanaethau mewn digwyddiadau gyda gwylwyr ac mewn mannau poblog eu cyflawni yn unol â'r mesurau isod:
Mesurau diogelwch: unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o ddiogelu iechyd a lles yr holl grwpiau cleient sy'n mynychu, neu'n cymryd rhan mewn digwyddiadau.
Mesurau amddiffyn: unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o atal, lleihau'r risg a/neu ymateb i unrhyw weithgareddau troseddol neu anghyfreithlon neu aflonyddwch yn gysylltiedig â'r digwyddiadau.
Mesurau gwasanaeth: unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o ofalu bod yr holl grwpiau cleient yn teimlo'n gyfforddus, wedi'u gwerthfawrogi a bod croeso iddyn nhw pan maen nhw'n mynychu digwyddiadau.
Lefelau Bygythiadau Terfysgaeth ym Mhrydain
Mae disgwyl bod uwch stiwardiaid, swyddogion diogelwch a staff tebyg sy'n meddu ar gyfrifoldeb cyffredinol dros ddiogelwch ac amddiffyniaeth digwyddiadau yn gyfarwydd gyda'r lefelau bygythiadau terfysgaeth cyfredol ym Mhrydain.
Mae'r lefel o fygythiad yn dynodi tebygolrwydd o ymosodiad terfysgol ym Mhrydain. Mae 5 lefel o fygythiadau:
- ISEL – mae ymosodiad yn annhebygol
- CYMEDROL- mae ymosodiad yn bosib ond nid ydyw'n debygol
- SYLWEDDOL – mae ymosodiad yn bosib iawn
- DIFRIFOL – mae ymosodiad yn debygol iawn
- ARGYFYNGUS – mae disgwyl y bydd ymosodiad ar ddigwydd
Caiff y lefel ei bennu gan y Cyd-Ganolfan Dadansoddi Terfysgaeth a'r Gwasanaeth Diogelwch (MI5). Does gan lefelau bygythiol ddim dyddiad dod i ben ond fe allan nhw newid ar unrhyw adeg wrth i wahanol wybodaeth fod ar gael i asiantiaid diogelwch.
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiadau canlynol wrth wraidd cyflenwi gwasanaethau yn y sector diogelwch i wylwyr. Mae'r ymddygiadau yn sicrhau bod y mudiad a'r unigolyn yn creu argraff dda ar y cleientiaid.
Mae'n rhaid ichi ddangos eich bod yn cyflawni'r canlynol yn gyson:
1. Adnabod yr angen i fod yn hyblyg er mwyn dwyn i ystyriaeth amgylchiadau newidiol
2. Addasu cynlluniau ac ymatebion fel bo'r angen
3. Blaenoriaethu amcanion a gwaith cynllunio er mwyn manteisio ar y defnydd gorau posib o amser ac adnoddau
4. Gofalu bod amser i gefnogi eraill
5. Cymryd cyfrifoldeb personol dros weithredu rhai pethau
6. Dangos gonestrwydd, tegwch a chysondeb wrth wneud penderfyniadau
7. Cytuno'n eglur ar beth a ddisgwylir gan bobl eraill a'u hystyried nhw'n gyfrifol am herio ymddygiad cymdeithasol er enghraifft.
8. Ceisio deall disgwyliadau pobl ac unrhyw anghenion ychwanegol a medru bodloni'r rhain
9. Cymryd cyfrifoldeb dros ddiogelwch personol
10. Cymryd balchder mewn cynnig gwasanaeth o safon
11. Ymdrechu i fod yn wyliadwrus rhag bygythiadau a pheryglon posib
12. Annog a chefnogi eraill i fanteisio i'r eithaf ar eu galluoedd.
13. Defnyddio ystod o ddulliau arwain sy'n briodol i wahanol bobl a sefyllfaoedd
14. Eirioli dros ddiogelwch a lles fel blaenoriaeth wrth gynllunio a rheoli digwyddiadau
15. Cymryd balchder yn eich edrychiad a chydymffurfio gydag unrhyw godau gwisg gan y mudiad neu leoliad
16. Cydymffurfio gyda chod ymddygiad y lleoliad
17. Dangos eich gallu i gynnal cyfrinachedd
18. Dangos ymwybyddiaeth o faterion diogelu
19. Dangos dealltwriaeth o ofynion cyfreithiol sylfaenol yn ymwneud ag amrywioldeb a diogelwch
Sgiliau
Dyma restr o'r prif sgiliau a nodweddion cyffredinol sydd eu hangen er mwyn gofalu am ddiogelwch gwylwyr
- Gwrando a gweithredu
- Cyfathrebu geiriol ac aneiriol effeithiol
- Dylanwadu ar ac argyhoeddi eraill
Dirprwyo
Diplomyddiaeth
- Empathi
- Rhoi grym i eraill
- Gallu i ddilyn cyfarwyddiadau
- Arwain drwy esiampl
- Gwydnwch
- Rheoli ymddygiad heriol
- Mentora
- Ysgogi eraill
- Trafod a chyfaddawdu
- Derbyn a chynnig adborth
- Cynllunio a gwerthuso
- Gosod amcanion
- Gwerthfawrogi a chefnogi eraill
Geirfa
**Ymatebwyr mewn Argyfwng** Unrhyw asiantaeth a fydda i'n gallu neu y mae disgwyl iddyn nhw ymateb i ddigwyddiad mewn argyfwng mewn lleoliad. Mae'n bosib y bydd hyn yn golygu un neu fwy o ymatebwyr Categori 1 wedi'u cefnogi gan un neu fwy o'r ymatebwyr Categori 2. **Ymatebwyr Categori 1 neu Gategori 2** Fel caiff eu diffinio gan y Ddeddf Argyfyngau Sifil 2004 a'u diweddaru gan y Swyddfa Cabinet a'r Ysgrifenyddiaeth Argyfyngau Sifil, mae ymatebwyr Categori 1 ar hyn o bryd yn gyrff cyhoeddus fel gwasanaethau argyfwng, Ymddiriedolaethau'r GIG, Gwylwyr y Glannau EM ac awdurdodau lleol. Mae ymatebwyr Categori 2 yn gyrff sector preifat fel cwmnïau gwasanaethau a darparwyr cludiant. **Cynllunio ar gyfer Parhad Busnes** Paratoi a datblygu cynlluniau felly os bydd digwyddiad, gall y busnes barhau i weithredu. **Rheoli Parhad Busnes** Gweithredu'r cynlluniau ar gyfer parhad busnes sydd wedi'u paratoi eisoes. **Digwyddiad Enfawr** Mae'n bosib caiff digwyddiad enfawr neu sylweddol ei ddatgan gan un neu fwy o ymatebwyr categori un neu gategori 2 fel caiff ei ddiffinio yn y Ddeddf Argyfyngau Sifil 2004. **Mesurau lliniaru** Y mesurau hynny wedi'u hadnabod a'u gweithredu gan y mudiad i gyfyngu ar effaith problem, risg, peryg neu fygythiad. **Digwyddiad Sylweddol**** ** Mae digwyddiad sylweddol yn ddigwyddiad lle mae angen i fudiad weithredu eu cynlluniau rheoli digwyddiadau neu gynlluniau mewn argyfwng er mwyn mynd i'r afael gydag ac ymateb i ddigwyddiad all amharu ar weithrediad diogel y digwyddiad. Mae'n bosib y bydd angen adnoddau a chefnogaeth ychwanegol gan y rhanddeiliaid er mwyn ymateb i'r digwyddiad. **Cynllun hyfforddiant ac ymarferion** Cynllun dreigl o sesiynau hyfforddiant ac ymarferion i wirio, dilysu, adolygu ac arolygu'r trefniadau cynllunio pan fo digwyddiad mewn lleoliad neu ddigwyddiad. **Trosglwyddo blaenoriaeth** Yn ystod ymateb i ddigwyddiad, caiff rheolaeth ei drosglwyddo'n ffurfiol i un neu fwy o'r awdurdodau ymateb. Dylid cytuno ar faterion yn ymwneud â throsglwyddo blaenoriaeth gyda gweithdrefnau cyfundrefnol cyn digwyddiad. |
Dolenni I NOS Eraill
SKASS14, SKASS15, SKASS16, SKASS19, SKASS23