Rheoli risgiau mewn mannau poblog
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymdrin ag adnabod, asesu, lliniaru a rheoli bygythiadau a pheryglon i'r digwyddiad a'r rheiny sy'n bresennol.
Prif ddeilliannau'r safon hon ydy:
Adnabod bygythiadau a pheryglon ac asesu'r risg i'r digwyddiad
Rhagnodi a chytuno ar fesurau rheoli
Mae'r safon hon ar gyfer staff sy'n meddu ar gyfrifoldeb cyffredinol dros gynllunio a rheoli diogelwch digwyddiadau a mannau poblog.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
**** **Adnabod bygythiadau a pheryglon ac asesu'r risg i'r digwyddiad** 1. cynnal archwiliad o'r safle neu leoliad 2. defnyddio gwybodaeth o asesiad cenedlaethol a lleol ynghyd â lefelau bygythiad i ddadansoddi ac asesu lefel y risg i'r digwyddiad. 3. trafod bygythiadau, peryglon a risgiau wedi'u hadnabod gyda **rhanddeiliaid** **Rhagnodi a chytuno ar fesurau rheoli** 4. gweithredu hierarchaeth rheolaeth i bob un o'r **bygythiadau a pheryglon** neu risgiau wedi'u hadnabod 5. gweithredu mesurau rheoli sy'n lleihau risgiau wedi'u hasesu 6. ymgynghori ynghylch y mesurau rheoli hyn gyda **rhanddeiliaid** perthnasol 7. gwirio fod adnoddau ar gael ar gyfer y mesurau rheoli hyn 8. gwirio bod y mesurau rheoli yn ymgyfuno gydag ymatebion mudiadau eraill 9. cofnodi'r mesurau rheoli 10. paratoi'r holl wybodaeth berthnasol cyn cyfarwyddo eraill |
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Adnabod peryglon a bygythiadau ac asesu'r risgiau i'r digwyddiad
arweiniad a gwybodaeth ar asesiadau risg a lefelau bygythiadau lleol a chenedlaethol
sut i gynnal archwiliad lleoliad neu safle manwl
asesiad risg
asesiad risg dynameg
pwysigrwydd hysbysu rhanddeiliaid o ddeilliannau'r asesiadau risg
Rhagnodi a chytuno ar fesurau rheoli
hierarchaeth rheolaeth i fygythiadau neu risgiau
sut i adnabod a chofnodi mesurau rheoli er mwyn lleihau risgiau
pwysigrwydd ymwneud gydag a chyfarwyddo rhanddeiliaid
cynllunio adnoddau ar gyfer mesurau rheoli
pwysigrwydd hysbysu rhanddeiliaid o unrhyw ddiffygion yn yr adnoddau sydd ar gael ar gyfer mesurau rheoli
pwysigrwydd rheolaeth ymateb ymgyfunol
Cwmpas/ystod
**GWYBODAETH YCHWANEGOL** **Cydraddoldeb ac Amrywiaeth** Mae disgwyl y bydd gan fudiadau weithdrefnau a chanllawiau i'w staff stiwardio gydymffurfio gyda nhw a fydd yn bodloni'r gofynion canlynol o leiaf: * anghenion corfforol amrywiol * anghenion diwylliannol amrywiol * anghenion ieithyddol * credoau **Diogelwch, Amddiffyn a Gwasanaeth** Mae disgwyl caiff yr holl wasanaethau mewn digwyddiadau gyda gwylwyr ac mewn mannau poblog eu cyflawni yn unol â'r mesurau isod: Mesurau diogelwch: unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o ddiogelu iechyd a lles yr holl grwpiau cleient sy'n mynychu, neu'n cymryd rhan mewn digwyddiadau. Mesurau amddiffyn: unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o atal, lleihau'r risg a/neu ymateb i unrhyw weithgareddau troseddol neu anghyfreithlon neu aflonyddwch yn gysylltiedig â'r digwyddiadau. Mesurau gwasanaeth: unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o ofalu bod yr holl grwpiau cleient yn teimlo'n gyfforddus, wedi'u gwerthfawrogi a bod croeso iddyn nhw pan maen nhw'n mynychu digwyddiadau. **Lefelau Bygythiadau Terfysgaeth ym Mhrydain** Mae disgwyl bod uwch stiwardiaid, swyddogion diogelwch a staff tebyg sy'n meddu ar gyfrifoldeb cyffredinol dros ddiogelwch ac amddiffyniaeth digwyddiadau yn gyfarwydd gyda'r lefelau bygythiadau terfysgaeth cyfredol ym Mhrydain. Mae'r lefel o fygythiad yn dynodi tebygolrwydd o ymosodiad terfysgol ym Mhrydain. Mae 5 lefel o fygythiadau: * ISEL – mae ymosodiad yn annhebygol * CYMEDROL- mae ymosodiad yn bosib ond nid ydyw'n debygol * SYLWEDDOL – mae ymosodiad yn bosib iawn * DIFRIFOL – mae ymosodiad yn debygol iawn * ARGYFYNGUS – mae disgwyl y bydd ymosodiad ar ddigwydd Caiff y lefel ei bennu gan y Cyd-Ganolfan Dadansoddi Terfysgaeth a'r Gwasanaeth Diogelwch (MI5). Does gan lefelau bygythiol ddim dyddiad dod i ben ond fe allan nhw newid ar unrhyw adeg wrth i wahanol wybodaeth fod ar gael i asiantiaid diogelwch. |
Cwmpas Perfformiad
Rhanddeiliaid (ymdrin â lleiafswm o 4)
person sy'n gyfrifol am y digwyddiad
rheolwyr y lleoliad
gwasanaethau argyfwng
cyrff rheoleiddiol
rheolwr llinell
staff y digwyddiad sy'n gyfarwydd gyda'r lleoliad
staff y digwyddiad sydd ddim yn gyfarwydd gyda'r lleoliad
contractwyr
darparwyr cludiant
*Bygythiadau a pheryglon *(Ymdrin ag 1 a 2 o leiaf)
diogelwch
amddiffyniaeth
glanweithdra
amgylcheddol
cyfarpar diffygiol
strwythurol
Gwybodaeth Cwmpas
**** **Rhanddeiliaid** 1. person sy'n gyfrifol am y digwyddiad 2. rheolwyr y lleoliad 3. gwasanaethau argyfwng 4. cyrff rheoleiddiol 5. rheolwr llinell 6. staff y digwyddiad sy'n gyfarwydd gyda'r lleoliad 7. staff y digwyddiad sydd ddim yn gyfarwydd gyda'r lleoliad 8. contractwyr 9. darparwyr cludiant |
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiadau canlynol wrth wraidd cyflenwi gwasanaethau yn y sector diogelwch i wylwyr. Mae'r ymddygiadau yn gofalu bod y mudiad a'r unigolyn yn creu argraff dda ar y cleientiaid.
Mae'n rhaid ichi ddangos eich bod yn cyflawni'r canlynol yn gyson:
1. Adnabod yr angen i fod yn hyblyg er mwyn dwyn i ystyriaeth amgylchiadau newidiol
2. Addasu cynlluniau ac ymatebion fel bo'r angen
3. Blaenoriaethu amcanion a gwaith cynllunio er mwyn gwneud y defnydd gorau posib o amser ac adnoddau
4. Gofalu bod amser i gefnogi eraill
5. Cymryd cyfrifoldeb personol dros weithredu rhai pethau
6. Dangos gonestrwydd, tegwch a chysondeb wrth wneud penderfyniadau
7. Cytuno'n eglur ar beth a ddisgwylir gan bobl eraill a'u hystyried nhw'n gyfrifol am heri ymddygiad cymdeithasol fel enghraifft.
8. Ceisio deall disgwyliadau pobl ac unrhyw anghenion ychwanegol a medru bodloni'r rhain
9. Cymryd cyfrifoldeb dros ddiogelwch personol
10. Cymryd balchder mewn cynnig gwasanaeth o safon
11. Ymdrechu i fod yn wyliadwrus rhag bygythiadau a pheryglon posib
12. Annog a chefnogi eraill i fanteisio i'r eithaf ar eu galluoedd
13. Defnyddio ystod o ddulliau arwain sy'n briodol i wahanol bobl a sefyllfaoedd
14. Eirioli dros ddiogelwch a lles fel blaenoriaeth wrth gynllunio a rheoli digwyddiadau
15. Cymryd balchder yn eich edrychiad a chydymffurfio gydag unrhyw godau gwisg gan y mudiad neu leoliad
16. Cydymffurfio gyda chod ymddygiad y lleoliad
17. Dangos eich gallu i gynnal cyfrinachedd
18. Dangos ymwybyddiaeth o faterion diogelu
19. Dangos dealltwriaeth o ofynion cyfreithiol sylfaenol yn ymwneud ag amrywioldeb a diogelwch
Sgiliau
Dyma restr o'r prif sgiliau a nodweddion cyffredinol sydd eu hangen er mwyn gofalu am ddiogelwch gwylwyr
- Gwrando a gweithredu
- Cyfathrebu geiriol ac aneiriol effeithiol
- Dylanwadu ar ac argyhoeddi eraill
Dirprwyo
Diplomyddiaeth
- Empathi
- Rhoi grym i eraill
- Gallu i ddilyn cyfarwyddiadau
- Arwain drwy esiampl
- Gwydnwch
- Rheoli ymddygiad heriol
- Mentora
- Ysgogi eraill
- Trafod a chyfaddawdu
- Derbyn a chynnig adborth
- Cynllunio a gwerthuso
- Gosod amcanion
- Gwerthfawrogi a chefnogi eraill
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
SKASS7. SKASS8, SKASS9, SKASS14, SKASS15, SKASS16, SKASS19, SKASS24