Rheoli prosiectau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli'r prosiectau hynny yr ydych yn gyfrifol amdanynt.
Mae'r safon hon yn berthnasol ar gyfer y rheolwyr ac arweinwyr hynny sydd rhaid rheoli prosiectau.
Mae gan y safon hon gysylltiadau agos gyda CFAM&LFA4 Rheoli rhaglenni. Er mwyn rheoli prosiectau'n effeithiol mae angen i reolwyr prosiect fod yn gymwys mewn ystod o safonau eraill hefyd, er enghraifft, CFAM&LBA3 Arwain eich tîm, CFAM&LDB2 Dyrannu gwaith i aelodau eraill, CFAM&LDB3 Sicrhau ansawdd gwaith yn eich tîm, CFAM&LEA4 Rheoli cyllidebau, CFAM&LEB3 Rheoli adnoddau ffisegol a CFAM&LEC4 Cyfathrebu gwybodaeth a dealltwriaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Rhaid eich bod chi'n gallu:**
*
*1. trafod a chytuno gyda noddwyr y prosiect a rhanddeiliaid allweddol eraill ar amcanion allweddol a chwmpas y prosiect arfaethedig a'r adnoddau sydd ar gael
2. adnabod sut mae'r prosiect arfaethedig yn cyd-fynd â gweledigaeth, amcanion a chynlluniau cyfan y sefydliad ac unrhyw raglenni gwaith neu brosiectau eraill sydd ar y gweill
3. datblygu, drwy ymgynghori ag aelodau tîm y prosiect, cynllun realistig a thrylwyr ar gyfer cyflawni'r prosiect a'u hamcanion
4. trafod a chytuno ar gynllun y prosiect gyda noddwyr y prosiect a rhanddeiliaid allweddol eraill, gan wneud newidiadau lle bo angen
5. briffio aelodau tîm y prosiect ar gynllun y prosiect a'u rolau a chyfrifoldebau, a chynnig cefnogaeth, anogaeth a gwybodaeth barhaus
6. gosod prosesau ac adnoddau yn eu lle i reoli risgiau a allai deillio o'r prosiect a delio â digwyddiadau annisgwyl
7. gweithredu cynllun y prosiect, gan ddewis a defnyddio offer a thechnegau rheoli prosiect effeithiol i fonitro, reoli ac adolygu cynnydd
8. cyfleu cynnydd y prosiect yn rheolaidd i noddwr y prosiect, rhanddeiliaid allweddol eraill ac aelodau tîm y prosiect
9. adnabod, yn sgil y cynnydd, problemau a wynebwyd neu newidiadau i amcanion y sefydliad ac unrhyw newidiadau i gynllun y prosiect, gan sicrhau cytundeb noddwyr y prosiect a rhanddeiliaid allweddol eraill lle bo angen
10. cyflawni amcanion y prosiect ar amser ac o fewn y gyllideb
11. cadarnhau wrth noddwr y prosiect ac unrhyw rhanddeiliaid allweddol bod y prosiect wedi'i gwblhau'n foddhaol
12. gwerthuso llwyddiant y prosiect, gan nodi gwersi i'w dysgu a'u rhannu
13. dathlu cwblhad y prosiect, gan gydnabod cyfraniadau aelodau tîm y prosiect
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol**
*
*1. nodweddion prosiectau yn hytrach na swyddogaethau/gweithgareddau rheoli arferol
2. rôl a chyfrifoldebau allweddol rheolwr prosiect
3. camau allweddol yng nghylch bywyd y prosiect
4. pwysigrwydd y berthynas rhwng rheolwr y prosiect a noddwyr y prosiect ac unrhyw rhanddeiliaid allweddol
5. pam mae'n bwysig trafod a chytuno gyda noddwyr y prosiect ac unrhyw rhanddeiliaid allweddol am amcanion allweddol a chymwys y prosiect arfaethedig cyn cychwyn cynllunio manwl
6. y math o wybodaeth sydd ei hangen er mwyn cynllunio prosiect yn effeithiol
7. pam mae'n bwysig bod â'r gallu i adnabod a deall sut mae prosiect yn cyd-fynd â gweledigaeth, amcanion a chynlluniau cyfan y sefydliad ac unrhyw raglenni gwaith neu brosiectau eraill sydd ar y gweill
8. pam fod hi'n bwysig ymgynghori â phobl berthnasol wrth ddatblygu cynllun prosiect a sut i wneud hynny'n effeithiol
9. beth y dylid eu cynnwys mewn cynllun prosiect, yn benodol o ran gweithgareddau, adnoddau sydd eu hangen ac amserlenni, a pham mae angen trafod a chytuno ar y cynllun gyda noddwyr y prosiect ac unrhyw rhanddeiliaid allweddol
10. pam mae'n bwysig bod unrhyw aelodau tîm y prosiect yn cael eu briffio ar gynllun y prosiect a'u rolau a chyfrifoldebau, a sut i wneud hynny'n effeithiol
11. ffyrdd o roi cefnogaeth, annogaeth a gwybodaeth barhaus i unrhyw aelodau tîm y prosiect
12. ffyrdd o adnabod a rheoli risgiau posibl yn gysylltiedig â'r prosiect
13. pwysigrwydd cynllunio ar gyfer digwyddiadau annisgwyl a sut i'w wneud mewn ffordd effeithiol
14. sut i ddewis a defnyddio ystod o offer a thechnegau rheoli prosiect effeithiol i fonitro, reoli ac adolygu cynnydd y prosiect
15. dulliau effeithiol o gyfathrebu gyda noddwyr y prosiect ac unrhyw randdeiliaid allweddol yn ystod y prosiect
16. pwysigrwydd cytuno ar newidiadau i gynllun y prosiect gyda noddwyr y prosiect ac unrhyw randdeiliaid allweddol
17. y math o newidiadau i gynllun y prosiect a allai fod yn angenrheidiol wrth iddynt gael eu gweithredu
18. pam mae'n bwysig cadarnhau wrth noddwr y prosiect ac unrhyw rhanddeiliaid allweddol bod y prosiect wedi'i gwblhau'n foddhaol a sut i wneud hynny'n effeithiol
19. sut i sefydlu systemau effeithiol ar gyfer gwerthuso llwyddiant prosiectau a nodi gwersi i'w dysgu ar gyfer y dyfodol
20. pwysigrwydd cydnabod cyfraniadau aelodau tîm y prosiectau at lwyddiant prosiectau a ffyrdd gwahanol o wneud hynny
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r diwydiant/sector**
*
*21. offer a thechnegau rheoli prosiect a ddefnyddir yn aml yn y diwydiant neu sector
22. risgiau a digwyddiadau annisgwyl sy'n gyffredin i'r diwydiant/sector
23. deddfwriaeth, rheoliadau, canllawiau a chodau ymarfer sy'n benodol i'r diwydiant/sector
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r cyd-destun**
*
*24. noddwyr y prosiect – yr unigolyn neu grŵp y mae'r prosiect yn cael ei gyflawni ar ei gyfer/eu cyfer
25. rhanddeiliaid allweddol – yr unigolion neu grwpiau sydd â diddordeb sylweddol mewn llwyddiant y prosiect a'r sefydliad
26. amcanion allweddol a chwmpas y prosiect a gytunwyd arno, a'r adnoddau sydd ar gael
27. gweledigaeth, amcanion a chynlluniau cyfan y sefydliad ac unrhyw raglenni gwaith perthnasol eraill neu brosiectau eraill sydd ar y gweill
28. methodoleg, polisi a gweithdrefnau rheoli prosiect eich sefydliad
29. dulliau ar gyfer ymgynghori ynghylch datblygiad cynllun y prosiect a'r barnau/syniadau a dderbyniwyd wrth bobl berthnasol mewn perthynas â chynigion
30. cynllun y prosiect a gytunwyd arno
31. rolau a chyfrifoldebau unrhyw aelodau tîm y prosiect
32. dulliau a ddefnyddir ar gyfer briffio, cefnogi, annog a rhoi gwybodaeth barhaus i unrhyw aelodau tîm y prosiect
33. prosesau ac adnoddau a rhoddwyd yn eu lle i reoli risgiau posibl a delio â digwyddiadau annisgwyl
34. math a natur y risgiau posibl a nodwyd a digwyddiadau annisgwyl a wynebwyd
35. offer a thechnegau rheoli prosiect penodol a defnyddir i fonitro, reoli ac adolygu cynnydd
35. prosesau a rhoddir yn eu lle ar gyfer cyfleu gwybodaeth ar gynnydd y prosiect i noddwyr y prosiect, unrhyw rhanddeiliaid allweddol ac unrhyw aelodau tîm y prosiect
37. prosesau a rhoddir yn eu lle ar gyfer adnabod a chytuno ar newidiadau i gynllun y prosiect ac unrhyw newidiadau a wnaethpwyd yn barod
38. prosesau ar gyfer cadarnhau wrth noddwyr y prosiect ac unrhyw rhanddeiliaid allweddol bod y prosiect wedi'i gwblhau'n foddhaol
39. prosesau ar gyfer gwerthuso llwyddiant y prosiect ac unrhyw wersi a ddysgwyd drwy ei gyflawni
40. dulliau a defnyddir ar gyfer cydnabod cyfraniadau unrhyw aelodau tîm y prosiect at brosiectau llwyddiannus
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Wrth berfformio i'r safon hon, rydych yn debygol o ymddwyn fel y ganlyn:
1. Adnabod newidiadau i amgylchiadau yn ddi-oed ac addasu cynlluniau a gweithgareddau fel sy'n briodol
2. Adnabod yr ystod o elfennau mewn sefyllfa a sut maent yn berthnasol i'w gilydd
3. Cyflwyno gwybodaeth mewn ffordd glir, gryno a chywir ac mewn ffyrdd sy'n hyrwyddo dealltwriaeth
4. Gweithredu o fewn terfynau'ch awdurdod
5. Cadwch lygad am risgiau a pheryglon posibl
6. Blaenoriaethu amcanion a chynllunio gwaith i wneud defnydd effeithiol o amser ac adnoddau
7. Cymryd cyfrifoldeb personol dros wneud i bethau ddigwydd
8. Cytuno'n glir beth y disgwylir gan eraill a'u dwyn i gyfrif
9. Monitro ansawdd gwaith a chynnydd yn erbyn cynlluniau a chymryd camau cywiro priodol, lle bo angen
10. Ymfalchïo mewn cyflawni gwaith o ansawdd
11. Creu ymdeimlad o ddiben cyffredin
12. Gwneud defnydd effeithiol o'r adnoddau sydd ar gael
13. Chwilio am adnoddau cymorth newydd yn ôl yr angen
14. Adnabod oblygiadau neu ganlyniadau sefyllfa
15. Gwneud penderfyniadau yn ddi-oed sy'n realistig ar gyfer y sefyllfa
Sgiliau
Wrth berfformio i'r safon hon, rydych yn debygol o ddangos y sgiliau canlynol:
1. Gweithredu mewn ffordd bendant
2. Cyfathrebu
3. Ymgynghori
4. Cynllunio ar gyfer digwyddiadau annisgwyl
5. Gwneud penderfyniadau
6. Dirprwyo
7. Gwerthuso
8. Rheoli gwybodaeth
9. Cynnwys eraill
10. Arweiniad
11. Rheoli gwrthdaro
12. Monitro
13. Ysgogi
14. Cyd-drafod
15. Cynllunio
16. Cyflwyno gwybodaeth
17. Blaenoriaethu
18. Datrys problemau
19. Rhoi adborth
20. Adrodd
21. Adolygu
22. Asesu risg
23. Pennu amcanion
24. Rheoli straen
25. Meddwl yn systematig
26. Rheoli amser