Dyrannu a monitro cynnydd eich gwaith yn eich maes cyfrifoldeb
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â sicrhau bod y gwaith sydd ei angen yn eich maes cyfrifoldeb chi yn cael ei gynllunio'n effeithiol a'i ddyrannu'n deg i unigolion a/neu dimau. Mae hefyd yn gofyn am fonitro cynnydd a safon gwaith unigolion a/neu dimau er mwyn sicrhau bod y lefel angenrheidiol neu safon y perfformiad yn cael ei gyrraedd ac adolygu a diweddaru cynlluniau gwaith yng ngoleuni datblygiadau.
Gall maes y cyfrifoldeb fod yn gangen neu'n adran neu'n ardal weithredol neu'n safle gweithredu oddi mewn i sefydliad, er enghraifft.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Dyrannu a monitro cynnydd eich gwaith yn eich maes cyfrifoldeb
1. archwilio ffyrdd eraill o lanw swyddi gwag
2. cadarnhau gyda'ch rheolwr y gwaith sydd ei angen yn eich maes cyfrifoldeb a cheisio eglurder, lle bydd angen, ar unrhyw bwyntiau a materion sydd heb eu penderfynu
3. cynllunio sut y bydd y gwaith yn cael ei wneud, gan geisio barn pobl yn eich maes cyfrifoldeb, adnabod unrhyw flaenoriaethau neu weithgareddau pwysig a gwneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ar gael
4. sicrhau bod gwaith yn cael ei ddyrannu'n deg i unigolion a/neu dimau gan roi ystyriaeth i sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth, profiad a llwyth gwaith a'r cyfle i ddatblygu
5. sicrhau bod unigolion a/neu dimau yn derbyn cyfarwyddyd ar waith sydd wedi ei ddyrannu, gan ddangos sut mae hynny'n cyd-fynd â'r weledigaeth a'r amcanion gogyfer â'r maes a'r sefydliad yn gyffredinol, a safon neu lefel y perfformiad disgwyliedig
6. annog unigolion a/neu dimau i ofyn cwestiynau, cynnig awgrymiadau a cheisio eglurhad mewn perthynas â gwaith sydd wedi'i ddyrannu
7. monitro cynnydd a safon gwaith unigolion a/neu dimau a hynny'n rheolaidd ac yn deg yn erbyn safon neu lefel y perfformiad disgwyliedig a rhoi adborth prydlon ac adeiladol
8. cefnogi unigolion a/neu dimau er mwyn canfod ac ymdrin â phroblemau a digwyddiadau annisgwyl
9. ysgogi unigolion a/neu dimau i gwblhau'r gwaith sydd wedi ei ddyrannu iddynt a, lle bydd cais wedi ei wneud a lle bydd hynny'n bosib, rhoi unrhyw gefnogaeth a/neu adnoddau ychwanegol er mwyn helpu i'w gwblhau
10. monitro eich maes am wrthdaro, gan ganfod yr achos(ion) pan fydd hynny'n digwydd ac ymdrin â'r mater yn brydlon ac effeithiol
11. adnabod perfformiad annerbyniol neu wael, trafod yr achos(ion) a chytuno ar ffyrdd o wella perfformiad gydag unigolion a/neu dimau
12. cydnabod pan fydd unigolion a/neu dimau wedi cwblhau darnau sylweddol o waith neu weithgareddau gwaith yn llwyddiannus
13. defnyddio gwybodaeth a gasglwyd am berfformiad unigolion a/neu dimau mewn unrhyw werthusiadau perfformiad ffurfiol
14. adolygu a diweddaru cynlluniau gwaith ar gyfer eich maes, gan adrodd yn glir am unrhyw newidiadau wrth y rhai fydd yn cael eu heffeithio
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Dyrannu a monitro cynnydd eich gwaith yn eich maes cyfrifoldeb
*
*1. sut i ddewis a chymhwyso'r gwahanol ddulliau o gyfathrebu â phobl ar draws maes cyfrifoldeb, a hynny'n llwyddiannus
2. pwysigrwydd cadarnhau/crisialu'r gwaith sydd ei angen yn eich maes cyfrifoldeb gyda'ch rheolwr a sut i wneud hyn yn llwyddiannus
3. sut i adnabod a rhoi sylw dyladwy i faterion iechyd a diogelwch yn y dasg o gynllunio, dyrannu a monitro gwaith
4. sut i lunio cynllun gwaith ar gyfer eich maes cyfrifoldeb, gan gynnwys sut i adnabod unrhyw flaenoriaethau neu weithgareddau hanfodol a'r adnoddau sydd ar gael
5. pwysigrwydd gofyn am farn pobl sy'n gweithio yn eich maes a sut i ystyried eu safbwyntiau wrth lunio cynllun gwaith
6. pam ei bod yn bwysig dyrannu gwaith i unigolion a/neu dimau a hynny mewn ffordd deg a sut i wneud hynny'n effeithiol
7. pam ei bod yn bwysig bod unigolion a/neu dimau yn derbyn cyfarwyddyd ar waith sydd wedi ei ddyrannu a safon neu lefel y perfformiad disgwyliedig a sut i wneud hynny'n effeithiol
8. pwysigrwydd dangos i unigolion a/neu dimau sut mae eu gwaith yn cyd-fynd â gweledigaeth ac amcanion y maes a gweledigaeth ac amcanion y sefydliad
9. dulliau o annog unigolion a/neu dimau i ofyn cwestiynau a/neu geisio eglurhad mewn perthynas â gwaith sydd wedi ei ddyrannu iddynt
10. dulliau effeithiol o fonitro'n rheolaidd ac yn deg gynnydd a safon gwaith unigolion a/neu dimau yn erbyn y safonau neu lefel y perfformiad disgwyliedig
11. sut i roi adborth prydlon ac adeiladol i unigolion a/neu dimau
12. pam ei bod yn bwysig monitro eich maes am wrthdaro a sut i adnabod achos(ion) gwrthdaro pan fydd yn digwydd a sut i ymdrin â'r mater yn brydlon ac effeithiol
13. pam ei bod yn bwysig adnabod perfformiad annerbyniol neu wael gan unigolion a/neu dimau a sut i drafod yr achosion a chytuno gyda nhw ar ffyrdd o wella perfformiad
14. y mathau o broblemau a digwyddiadau annisgwyl all ddigwydd a sut i gefnogi unigolion a/neu dimau wrth ymdrin â nhw
15. y gefnogaeth a/neu adnoddau ychwanegol y bydd unigolion a/neu dimau eu hangen o bosib i'w helpu i gwblhau eu gwaith a sut i gynorthwyo gyda darparu hyn
16. sut i ddewis a chymhwyso'n llwyddiannus wahanol ffyrdd o annog, ysgogi a chefnogi unigolion a/neu dimau er mwyn iddynt gwblhau'r gwaith sydd wedi ei ddyrannu iddynt, gwella eu perfformiad ac er mwyn cydnabod eu llwyddiannau
17. sut i gofnodi gwybodaeth ar berfformiad parhaus unigolion a/neu dimau a defnyddio'r wybodaeth hon at ddibenion gwerthuso perfformiad ffurfiol
18. pwysigrwydd adolygu a diweddaru cynlluniau gwaith ar gyfer eich maes yng ngoleuni datblygiadau, sut i ail-ddyrannu gwaith ac adnoddau gan adrodd yn glir am unrhyw newidiadau wrth y rhai fydd yn cael eu haffeithio
19. gofynion y diwydiant/sector ar gyfer datblygu neu gynnal a chadw gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau
20. deddfwriaeth, rheoliadau, canllawiau, codau ymarfer penodol y diwydiant/sector mewn perthynas â chyflawni gwaith
21. yr unigolion a/neu dimau yn eich maes cyfrifoldeb
22. y weledigaeth a'r amcanion ar gyfer eich maes cyfrifoldeb
23. gweledigaeth ac amcanion y sefydliad cyffredinol
24. y gwaith sydd ei angen yn eich maes cyfrifoldeb
25. yr adnoddau sydd ar gael ar gyfer gwneud y gwaith angenrheidiol
26. y cynllun gwaith ar gyfer eich maes cyfrifoldeb
27 atganiad polisi ysgrifenedig y sefydliad ar fater iechyd a diogelwch a gwybodaeth a gofynion cysylltiedig
28. polisi a gweithdrefnau eich sefydliad yn nhermau datblygiad personol
29. safonau neu lefel perfformiad disgwyliedig y sefydliad
30. polisïau a gweithdrefnau'r sefydliad gogyfer â delio â pherfformiad gwael
31. polisïau a gweithdrefnau cwyno a disgyblu'r sefydliad
32. systemau gwerthuso perfformiad y sefydliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Rhaid i chi ddangos eich bod yn gyson yn:
1. Adnabod yn brydlon unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau ac addasu cynlluniau a gweithgareddau yn unol â hynny.
2. Blaenoriaethu amcanion a chynllunio gwaith er mwyn gwneud y defnydd gorau o amser ac adnoddau.
3. Sicrhau eich bod yn neilltuo amser i gefnogi eraill.
4. Cymryd cyfrifoldeb personol dros beri i bethau'n digwydd.
5. Dangos ymwybyddiaeth o'ch gwerthoedd, cymhellion ac emosiynau personol.
6. Dangos gonestrwydd, tegwch a chysondeb wrth wneud penderfyniadau.
7 .Cytuno'n glir â'r hyn a ddisgwylir gan eraill a'u dal yn atebol.
8. Ceisio deall anghenion a chymhellion pobl.
9. Ymfalchïo yn y dasg o gyflwyno gwaith o safon uchel.
10. Bod yn effro i risgiau a pheryglon posib.
11. Annog a chefnogi eraill i wneud y defnydd gorau o'u doniau.
12. Defnyddio amrywiaeth o ddulliau arwain sy'n briodol i bobl a sefyllfaoedd gwahanol.
Sgiliau
Rhestrir isod y prif sgiliau a'r priodoleddau generig sy'n gymwys i'r dasg o gyflwyno Rhaglenni Awyr Agored.
1. Empathi
2. Gwrando'n weithredol
3. Hyfforddi
4. Cyfathrebu
5. Ymgynghori
6. Dylanwadu a pherswadio
7. Dirprwyo
8. Diplomyddiaeth
9. Galluogi
10. Hwyluso
11. Dilyn
12. Arwain drwy esiampl
13. Rheoli ymddygiad heriol
14. Mentora
15. Ysgogi
16. Trafod a chyfaddawdu
17. Sicrhau adborth
18. Cynllunio a gwerthuso
19. Darparu adborth
20. Pennu amcanion
21. Gwerthfawrogi a chefnogi eraill