Adnabod a gwerthuso cyfleoedd ar gyfer arloesi a gwella
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag adnabod cyfleoedd i ddatblygu cynnyrch/gwasanaethau, farchnadoedd neu brosesau neu i wella cynnyrch/gwasanaethau, marchnadoedd neu brosesau presennol. Mae hefyd yn ymdrin â datblygiadau arloesol a gwelliannau posibl yn erbyn meini prawf a gytunwyd arnynt.
Yn anaml cyflawnir y gweithgaredd hwn gan un person yn unig. Bydd efallai angen i ystod eang o bobl chwarae rhan mewn adnabod yn ogystal â gwerthuso cyfleoedd ar gyfer arloesi a gwella – tu mewn i'r sefydliad a rhanddeiliaid eraill – yn cynnwys, er enghraifft, cwsmeriaid a chyflenwyr.
Mae'r safon hon yn berthnasol ar gyfer rheolwyr ac arweinwyr sy'n gyfrifol am adnabod a gwerthuso cyfleoedd ar gyfer arloesi a gwella ar draws y sefydliad neu yn eu maes cyfrifoldeb penodol.
Mae gan y safon hon gysylltiadau agos gyda holl safonau maes allweddol CA Hwyluso arloesi a newid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Rhaid eich bod chi'n gallu:**
*
*1. ymgysylltu â'r bobl berthnasol tu mewn i'ch sefydliad wrth adnabod a gwerthuso cyfleoedd ar gyfer arloesi a gwella
2. adnabod a manteisio ar gyfleoedd i gydweithio ag arbenigwyr allanol a sefydliadau eraill i greu a datblygu syniadau
3. monitro tueddiadau a datblygiadau yn amgylchedd gweithredu eich sefydliad
4. monitro perfformiad cynnyrch/gwasanaethau a phrosesau eich sefydliad a'u meincnodi yn erbyn sefydliadau tebyg
5. adnabod potensial o ran cynnyrch/gwasanaethau newydd, marchnadoedd newydd, prosesau newydd a gwelliannau i gynnyrch/gwasanaethau a phrosesau presennol
6. cytuno â rhanddeiliaid allweddol ar feini prawf clir ar gyfer gwerthuso datblygiadau arloesol a gwelliannau posibl
7. casglu digon o wybodaeth ddilys i alluogi gwerthuso datblygiadau arloesol a gwelliannau posibl
8. gwerthuso datblygiadau arloesol a gwelliannau posibl yn erbyn meini prawf a gytunwyd arnynt
9. cyfathrebu canlyniadau'ch gwerthusiad i randdeiliaid allweddol mewn ffyrdd sy'n eu helpu i werthfawrogi sut all datblygiadau arloesol a gwelliannau bod o werth
10. cyfathrebu canlyniadau'ch gwerthuso i bobl berthnasol mewn modd sy'n atgyfnerthu eu hymrwymiad i wylio am gyfleoedd ar gyfer arloesi a gwella
11. cymryd camau i amddiffyn hawliau eiddo deallusol datblygiadau arloesol, lle bo angen.
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol**
*
*1. sut i ymgysylltu â gweithwyr a rhanddeiliaid wrth adnabod a gwerthuso cyfleoedd ar gyfer arloesi a gwella
2. monitro egwyddorion, dulliau, offer a thechnegau
3. meincnodi egwyddorion, dulliau, offer a thechnegau
4. newid egwyddorion, dulliau, offer a thechnegau rheoli
5. sut i ddatblygu ac ennill consensws ynglŷn â gwerthuso datblygiadau arloesol a gwelliannau posibl
6. sut i gasglu a dilysu gwybodaeth
7. sut i werthuso datblygiadau arloesol a gwelliannau posibl yn erbyn meini prawf
8. egwyddorion, dulliau, offer a thechnegau arloesi
9. egwyddorion a dulliau cyfathrebu'n effeithiol a sut i'w gweithredu
10. sut i amddiffyn yr hawliau eiddo deallusol
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r diwydiant/sector**
*
*11. sefydliadau tebyg yn eich sector
12. tueddiadau a datblygiadau yn eich sector sy'n gyfredol neu'n dod i'r amlwg
13. ffynonellau gwybodaeth yn eich sector
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r cyd-destun**
*
*14. unigolion yn eich maes gwaith, eu rolau, cyfrifoldebau, cymhwysedd a photensial
15. ffactorau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol, technegol, cyfreithiol ac amgylcheddol sy'n effeithio ar eich sefydliad
16. amgylchedd gweithredu eich sefydliad
17. arbenigwyr allanol a sefydliadau eraill, gyda phwy y byddwch, o bosib, yn cydweithio i greu a datblygu syniadau
18. prosesau busnes eich sefydliad
19. marchnadoedd eich sefydliad
20. cynnyrch a gwasanaethau eich sefydliad
21. rhanddeiliaid eich sefydliad a'u diddordebau a disgwyliadau
22. fframweithiau a dulliau rheoli newid a defnyddir yn eich sefydliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Wrth berfformio i'r safon hon, rydych yn debygol o ymddwyn fel y ganlyn:
1. manteisio ar gyfleoedd a godir gan amrywiaeth pobl
2. chwilio am gyfleoedd i wella perfformiad
3. herio'r sefyllfa bresennol mewn ffordd adeiladol a chwilio am opsiynau gwell
4. annog, creu a chydnabod atebion arloesol a llawn dychymyg
5. cyflwyno gwybodaeth mewn ffordd glir, gryno a chywir ac mewn ffyrdd sy'n hyrwyddo dealltwriaeth
6. rhoi gwybod i bobl am gynlluniau a datblygiadau yn ddi-oed
7. cefnogi eraill i wneud defnydd effeithiol o'u gallu
8. rhoi adborth i eraill i'w helpu i gynnal a gwella eu perfformiad
9. defnyddio dulliau cost effeithiol, amser effeithiol a moesegol i gasglu, storio ac adfer gwybodaeth
10. gwirio cywirdeb a dilysrwydd gwybodaeth
11. cyfathrebu gwerth a manteision dull arfaethedig o weithredu yn glir
12. rhagweld senarios tebygol yn y dyfodol sy'n seiliedig ar ddadansoddiad realistig o dueddiadau a datblygiadau
13. adnabod yr ystod o elfennau mewn sefyllfa a sut maent yn berthnasol i'w gilydd
14. nodi'r rhagdybiaethau a wnaed a'r risgiau sy'n gysylltiedig wrth ddeall sefyllfa
Sgiliau
Wrth berfformio i'r safon hon, rydych yn debygol o ddangos y sgiliau canlynol:
1. Dadansoddi
2. Asesu
3. Meincnodi
4. Ennill consensws
5. Cyfathrebu
6. Ymgynghori
7. Rhoi pŵer
8. Gwerthuso
9. Rhagweld
10. Rheoli gwybodaeth
11. Arloesi
12. Cynnwys eraill
13. Dysgu
14. Monitro
15. Rhwydweithio
16. Cyflwyno gwybodaeth
17. Rhoi adborth
18. Adeiladu senario
19. Meddwl yn greadigol
20. Gwerthfawrogi a chefnogi eraill