Rheoli symudiadau gwylwyr a mynd i’r afael gyda thrafferthion yn ymwneud â thorfeydd mewn digwyddiadau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â goruchwylio gwylwyr yn ofalus gan gynnwys pan fyddan nhw'n dod i mewn ac yn gadael y lleoliad a'u chwilio'n ofalus wrth iddyn nhw gyrraedd y lleoliad. Mae hefyd yn ymdrin â thrafferthion yn ymwneud â throfeydd fel symudiadau annisgwyl, gorlenwi, gorboblogi, eiddo coll, pobl ar goll ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol neu anghyfreithlon.
* *
Prif ddeilliannau'r safon hon ydy:
Rheoli pobl yn dod i mewn ac yn gadael digwyddiadau i wylwyr ynghyd â'u symudiadau
Adnabod a mynd i'r afael gyda thrafferthion yn ymwneud â thorfeydd
Mae'r safon hon ar gyfer stiwardiaid a staff tebyg eraill sy'n cydweithio'n uniongyrchol gyda gwylwyr a grwpiau cleient eraill er mwyn gofalu am eu diogelwch a'u lles mewn digwyddiadau a mannau poblog.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
*Rheoli pobl yn dod i mewn i ac yn gadael digwyddiadau i wylwyr ynghyd â’u symudiadau *
goruchwylio a monitro'r grwpiau cleient a'r amodau yn eich man penodedig drwy gydol eich cyfnod dyletswydd
rheoli ciwiau yn unol â gofynion y lleoliad a gofynion deddfwriaethol
cydymffurfio gyda gweithdrefnau eich mudiad wrth chwilio pobl
cyfarch a derbyn grwpiau cleient yn unol â gofynion y lleoliad a gofynion deddfwriaethol
ymateb i ymholiadau gan grwpiau cleient neu eu cyfeirio at ffynhonnell cymorth arall os yn briodol
goruchwylio bod grwpiau cleient yn gadael y digwyddiad yn ddiogel yn unol â gweithdrefnau'r lleoliad
Adnabod a mynd i'r afael gyda thrafferthion yn ymwneud â thorfeydd
- asesu a chofnodi trafferthion torfeydd gwirioneddol neu ddichonol i'ch ystafell reoli neu oruchwyliwr
8. gweithredu yn unol â'r gweithdrefnau sydd wedi'u cytuno
9. gofalu nad ydy unrhyw weithrediad yn berygl ichi neu'r grwpiau cleient ynghlwm
10. calonogi'r bobl ynghlwm a gofyn iddyn nhw am ddilyn cyfarwyddiadau
11. rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'ch ystafell reoli neu'ch goruchwyliwr
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Rheoli pobl yn dod i mewn i ac yn gadael digwyddiadau i wylwyr ynghyd â*'u symudiadau*
prosesau a thechnegau wedi'u cytuno er mwyn monitro amodau torfeydd yn eich man penodedig
dulliau rheoli ciwiau yn ddiogel
gweithdrefnau eich mudiad i chwilio pobl
y rhesymau dros gynnal y chwiliadau
pwysigrwydd egluro'r rhesymau dros gynnal y chwiliadau i'r grwpiau cleient
dulliau cyfathrebu effeithiol
eitemau heb eu hawdurdodi a gwaharddedig ynghyd â mannau dichonol i'w cuddio
sut i ymateb i unrhyw ddigwyddiad yn unol â'r gweithdrefnau cyfreithiol a chyfundrefnol
pryd i wneud penderfyniad i rannu manylion a chofnodi unrhyw ddigwyddiad rydych yn mynd i'r afael gyda nhw gan gynnwys eitemau heb eu hawdurdodi neu wedi'u gwahardd
gofynion y lleoliad a gofynion deddfwriaethol yn ymwneud â'r canlynol:
Cyfarch a derbyn grwpiau cleient
- Goruchwylio grwpiau cleient yn gadael y lleoliad yn ddiogel
- pryd i gyfeirio grwpiau cleient at ffynhonnell gwybodaeth arall
* *
Adnabod a mynd i'r afael gyda thrafferthion yn ymwneud â thorfeydd
trafferthion torfeydd posib yn eich man penodedig
dulliau asesu a chofnodi trafferthion torfeydd
15. pam ei fod yn angenrheidiol dilyn cyfarwyddiadau gan eich ystafell reoli neu oruchwyliwr
- y math o weithrediadau a allai eich peryglu chi neu grwpiau cleient eraill
17. dulliau cyfathrebu
18.* sgiliau rheoli'r torfeydd* sy'n rhan o'r gweithdrefnau cyfundrefnol
- gweithdrefnau eich mudiad ar gyfer rhoi gwybod y diweddaraf i'ch ystafell reoli neu oruchwyliwr
Cwmpas/ystod
**** **GWYBODAETH YCHWANEGOL** **Cydraddoldeb ac Amrywioldeb** Mae disgwyl y bydd gan fudiadau weithdrefnau a chanllawiau i'w staff stiwardio gydymffurfio gyda nhw ac a fydd yn bodloni'r gofynion canlynol o leiaf: * gwahanol anghenion corfforol * gwahanol anghenion diwylliannol * anghenion ieithyddol * credoau **Diogelwch, Amddiffyn a Gwasanaeth** Mae disgwyl caiff yr holl wasanaethau mewn digwyddiadau gyda gwylwyr ac mewn mannau poblog eu cyflawni yn unol â'r mesurau isod: **Mesurau diogelwch:** unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o ddiogelu iechyd a lles yr holl grwpiau cleient sy'n mynychu, neu'n cymryd rhan mewn digwyddiadau. **Mesurau amddiffyn:** unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o atal, lleihau'r risg a/neu ymateb i unrhyw weithgareddau troseddol neu anghyfreithlon neu aflonyddwch yn gysylltiedig â'r digwyddiadau. **Mesurau gwasanaeth:** unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o ofalu bod yr holl grwpiau cleient yn teimlo'n gyfforddus, wedi'u gwerthfawrogi a bod croeso iddyn nhw pan maen nhw'n mynychu digwyddiadau. |
Cwmpas Perfformiad
**** **Grwpiau cleient** (yn ymwneud â lleiafswm o 4) 1. gwylwyr 2. y gweithlu 3. contractwyr 4. cyrff rheoleiddiol 5. y cyfryngau 6. gwasanaethau argyfwng 7. athletwyr 8. artistiaid 9. swyddogion y digwyddiad **Trafferthion torfeydd** (Mae'n rhaid ymdrin ag 1, 2, 3 a 4 o leiaf) 1. symudiadau a dynameg y dorf 2. dwysedd y dorf 3. gorboblogi 4. trafferth yn y dorf 5. unigolion a grwpiau yn gwahanu 6. ymddygiad gwrth-gymdeithasol 7. ymddygiad anghyfreithlon 8. mynediad i fannau cyfyngedig 9. symudiad cerbydau |
** ** |
Gwybodaeth Cwmpas
**Grwpiau cleient** 1. gwylwyr 2. gweithlu 3. contractwyr 4. cyrff rheoleiddiol 5. cyfryngau 6. gwasanaethau argyfwng 7. athletwyr 8. artistiaid 9. swyddogion y digwyddiad **Trafferthion torfeydd** 1. symudiadau a dynameg y dorf 2. dwysedd y dorf 3. gorboblogi 4. trafferth yn y dorf 5. unigolion a grwpiau yn gwahanu 6. ymddygiad gwrth-gymdeithasol 7. ymddygiad anghyfreithlon 8. mynediad i fannau cyfyngedig 9. symudiad cerbydau ** ** **Dulliau cyfathrebu** 1. cyfathrebu geiriol 2. cyfathrebu aneiriol 3. cyfathrebu radio 4. cyfathrebu ysgrifenedig 5. arwyddion **Sgiliau rheoli'r dorf** 1. bod yn wyliadwrus o ffactorau all newid ymddygiad neu ddwysedd torfeydd 2. cynnig cysur 3. annog tawelwch 4. mynnu lefel dymunol o awdurdod 5. gofalu eich bod yn amlwg i'r dorf 6. parhau i fod yn wyliadwrus 7. diffiwsio sefyllfaoedd |
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiadau canlynol wrth wraidd cynnal gweithgareddau yn y sector diogelwch i wylwyr. Mae'r ymddygiadau yn gofalu bod y mudiad a'r unigolyn yn creu argraff dda ar y cleientiaid.
Mae'n rhaid ichi ddangos eich bod yn cyflawni'r canlynol yn gyson:
- Adnabod yr angen i fod yn hyblyg er mwyn dwyn i ystyriaeth amgylchiadau newidiol
- Cymryd cyfrifoldeb personol dros weithredu rhai pethau
- Dangos gonestrwydd, tegwch a chysondeb wrth wneud penderfyniadau
- Cytuno'n eglur ar beth a ddisgwylir gan bobl eraill a'u hystyried nhw'n gyfrifol am herio ymddygiad cymdeithasol fel enghraifft
- Ceisio deall disgwyliadau pobl ac unrhyw anghenion ychwanegol a medru bodloni'r rhain
- Cymryd cyfrifoldeb dros ddiogelwch personol
- Cymryd balchder mewn cynnig gwasanaeth o safon
- Ymdrechu i fod yn wyliadwrus rhag bygythiadau a pheryglon posib
- Annog a chefnogi eraill i fanteisio i'r eithaf ar eu galluoedd.
- Eirioli dros ddiogelwch a lles fel blaenoriaeth
- Cymryd balchder yn eich edrychiad a chydymffurfio gydag unrhyw godau gwisg gan y mudiad neu leoliad
- Cydymffurfio gyda chod ymddygiad y lleoliad
- Dangos eich gallu i gynnal cyfrinachedd
- Dangos ymwybyddiaeth o faterion diogelu
- Dangos dealltwriaeth o ofynion cyfreithiol sylfaenol yn ymwneud ag amrywioldeb a diogelwch
Sgiliau
Dyma restr o'r prif sgiliau a nodweddion cyffredinol sydd eu hangen er mwyn gofalu am ddiogelwch gwylwyr
- Gwrando a gweithredu
- Cyfathrebu geiriol ac aneiriol effeithiol
- Dylanwadu ar ac argyhoeddi eraill
- Diplomyddiaeth
- Empathi
- Gallu i ddilyn cyfarwyddiadau
- Arwain drwy esiampl
- Gwydnwch
- Rheoli ymddygiad heriol
- Mentora cydweithwyr
- Ysgogi eraill
- Trafod a chyfaddawdu
- Derbyn a chynnig adborth
- Gwerthfawrogi a chefnogi eraill
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
SKASS1, SKASS3, SKASS4, SKASS5