Rheoli adnoddau ar gyfer gofalu am ddiogelwch mewn digwyddiadau i wylwyr
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli adnoddau fel cyfarpar, cyfleusterau a nwyddau traul. Mae'r safon hon hefyd yn ymdrin ag adnoddau personél a gaiff eu hystyried fel asedau yn y cyd-destun hwn. Prif ddeilliannau'r safon hon ydy: 1. Cynllunio ynghylch defnyddio'r adnoddau 2. Meddiannu adnoddau 3. Gofalu bod adnoddau ar gael 4. Monitro defnyddio'r adnoddau Mae'r safon hon ar gyfer staff sy'n meddu ar gyfrifoldeb cyffredinol dros ddiogelwch y cyhoedd mewn digwyddiadau i wylwyr a mannau poblog. |
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
**Cynllunio ynghylch defnyddio'r adnoddau** 1. gofyn i **randdeiliaid** am gyflwyno gwybodaeth am yr adnoddau angenrheidiol 2. datblygu cynlluniau sy'n gofalu caiff yr adnoddau eu defnyddio yn y ffordd gorau posib 3. manteisio ar gyngor ac arweiniad arbenigol ynghylch darpariaeth adnoddau arbenigol er mwyn lliniaru bygythiadau 4. paratoi cynlluniau sy'n gyson ag amcanion, polisïau a gofynion cyfreithiol y mudiad 5. cyflwyno, trafod a chytuno ar y cynlluniau hyn gyda **rhanddeiliaid** **Meddiannu adnoddau** 6. gofyn am adnoddau sy'n ymwneud â gweithgareddau rydych chi'n gyfrifol amdanyn nhw 7. trafod a chytuno gyda chyflenwyr adnoddau 8. cytuno ar ddiwygiadau i gynlluniau gyda **rhanddeiliaid** pan nad oes modd ichi feddiannu'r adnoddau gofynnol a / neu arfaethedig. **Gofalu bod adnoddau ar gael** 9. dewis adnoddau gan ystod o gyflenwyr er mwyn gofalu cystadleuaeth ddigonol a pharhad gyda'r cyflenwadau. 10. monitro ansawdd a nifer y cyflenwadau 11. meddiannu cyflenwadau sy'n bodloni gofynion y mudiad 12. mynd i'r afael ag unrhyw drafferthion yn ymwneud â chyflenwadau a chadwyni cyflenwi 13. cadw cofnod o gyflenwadau **Monitro defnyddio'r adnoddau** 15. monitro ansawdd yr adnoddau 16. gweithredu i fynd i'r afael ag unrhyw wyriadau oddi wrth y cynlluniau 17. cadw cofnodion yn ymwneud â defnyddio adnoddau a bod yn barod i'w rhannu gyda **rhanddeiliaid** perthnasol |
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynllunio defnyddio'r adnoddau
pwysigrwydd cydweithio gyda rhanddeiliaid wrth gynllunio adnoddau
dulliau datblygu cynlluniau sy'n dwyn i ystyriaeth profiadau, tueddiadau a datblygiadau a ffactorau yn y gorffennol sy'n debygol o effeithio ar y defnydd o adnoddau
sut a pham dylid manteisio ar gyngor ac arweiniad arbenigol yn ymwneud â darpariaeth adnoddau arbenigol er mwyn lliniaru bygythiadau fel terfysgaeth
sut i baratoi cynlluniau sy'n gyson gydag amcanion, polisïau a gofynion eich mudiad gan gynnwys cadwyni cyflenwi.
dulliau cyflwyno cynlluniau i randdeiliaid mewn dull priodol ac amserol
technegau trafod
Manteisio ar adnoddau
egwyddorion sylfaenol dadansoddiad cost a budd
y weithdrefn ar gyfer holi am a manteisio ar adnoddau yn eich maes cyfrifoldeb
9. pwysigrwydd adolygu cynlluniau a chyflwyno'r diweddaraf i randdeiliaid
Gofalu bod adnoddau ar gael
dulliau adnabod y cyflenwadau angenrheidiol a gofalu eu bod yn bodloni'r safonau perthnasol sydd wedi'u cyhoeddi, gan gynnwys ymateb yn brydlon i newidiadau mewn amgylchiadau
y gweithdrefnau i'w gweithredu wrth ddewis o ystod o gyflenwyr er mwyn gofalu cystadleuaeth ddigonol a pharhad mewn cyflenwadau
yr angen i fonitro cyflenwadau o dro i dro fel sy'n briodol
y gweithdrefnau ar gyfer gofalu parhad busnes y gadwyn cyflenwi
14. gofynion eich mudiad chi yn ymwneud ag adnoddau
pwysigrwydd cydbwyso gofynion y digwyddiad a'r gofynion cyfundrefnol
dulliau mynd i'r afael gyda thrafferthion yn ymwneud â chyflenwadau a chadwyni cyflenwi
cadw cofnodion yn ymwneud â rheoli cyflenwadau a chyflenwyr
18. pwysigrwydd monitro ansawdd yr adnoddau yn barhaus
Monitro defnyddio'r adnoddau * *
19. pryd i weithredu i fynd i'r afael ag unrhyw wyriadau oddi wrth y cynlluniau
- dulliau monitro defnydd yr adnoddau o gymharu â'r cynlluniau y cytunwyd arnyn nhw
21. gweithrediadau lliniaru i'w gweithredu wrth fynd i'r afael gyda gwyriadau oddi wrth gynlluniau
22. cyfrinachedd wrth gadw cofnodion yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
Cwmpas/ystod
GWYBODAETH YCHWANEGOL
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae disgwyl y bydd gan fudiadau weithdrefnau a chanllawiau i'w staff stiwardio gydymffurfio gyda nhw a fydd yn bodloni'r gofynion canlynol o leiaf:
- anghenion corfforol amrywiol
- anghenion diwylliannol amrywiol
- anghenion ieithyddol
- credoau
Diogelwch, Amddiffyn a Gwasanaeth
Mae disgwyl caiff yr holl wasanaethau mewn digwyddiadau gyda gwylwyr ac mewn mannau poblog eu cyflawni yn unol â'r mesurau isod:
Mesurau diogelwch: unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o ddiogelu iechyd a lles yr holl grwpiau cleient sy'n mynychu, neu'n cymryd rhan mewn digwyddiadau.
Mesurau amddiffyn: unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o atal, lleihau'r risg a/neu ymateb i unrhyw weithgareddau troseddol neu anghyfreithlon neu aflonyddwch yn gysylltiedig â'r digwyddiadau.
Mesurau gwasanaeth: unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o ofalu bod yr holl grwpiau cleient yn teimlo'n gyfforddus, wedi'u gwerthfawrogi a bod croeso iddyn nhw pan maen nhw'n mynychu digwyddiadau.
Lefelau Bygythiadau Terfysgaeth ym Mhrydain
Mae disgwyl bod uwch stiwardiaid, swyddogion diogelwch a staff tebyg sy'n meddu ar gyfrifoldeb cyffredinol dros ddiogelwch ac amddiffyniaeth digwyddiadau yn gyfarwydd gyda'r lefelau bygythiadau terfysgaeth cyfredol ym Mhrydain.
Mae'r lefel o fygythiad yn dynodi tebygolrwydd o ymosodiad terfysgol ym Mhrydain. Mae 5 lefel o fygythiadau:
- ISEL – mae ymosodiad yn annhebygol
- CYMEDROL- mae ymosodiad yn bosib ond nid ydyw'n debygol
- SYLWEDDOL – mae ymosodiad yn bosib iawn
- DIFRIFOL – mae ymosodiad yn debygol iawn
- ARGYFYNGUS – mae disgwyl y bydd ymosodiad ar ddigwydd
Caiff y lefel ei bennu gan y Cyd-Ganolfan Dadansoddi Terfysgaeth a'r Gwasanaeth Diogelwch (MI5). Does gan lefelau bygythiol ddim dyddiad dod i ben ond fe allan nhw newid ar unrhyw adeg wrth i wahanol wybodaeth fod ar gael i asiantiaid diogelwch.
Cwmpas Perfformiad
Rhanddeiliaid (ymdrin â phob un)
aelodau tîm
cydweithwyr yn gweithio ar yr un lefel
rheolwyr neu oruchwylwyr lefel uwch
pobl y tu allan i'r mudiad
Gwybodaeth Cwmpas
Rhanddeiliaid
aelodau tîm
cydweithwyr yn gweithio ar yr un lefel
rheolwyr neu oruchwylwyr lefel uwch
pobl y tu allan i'r mudiad
*Adnoddau *
gosodiadau
adnoddau dynol (gweithwyr, gwirfoddolwyr, contractwyr)
nwyddau traul
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiadau canlynol wrth wraidd cyflenwi gwasanaethau yn y sector diogelwch i wylwyr. Mae'r ymddygiadau yn sicrhau bod y mudiad a'r unigolyn yn creu argraff dda ar y cleientiaid. Mae'n rhaid ichi ddangos eich bod yn cyflawni'r canlynol yn gyson: 1. Adnabod yr angen i fod yn hyblyg er mwyn dwyn i ystyriaeth amgylchiadau newidiol 2. Addasu cynlluniau ac ymatebion fel bo'r angen 3. Blaenoriaethu amcanion a gwaith cynllunio er mwyn manteisio ar y defnydd gorau posib o amser ac adnoddau 4. Gofalu bod amser i gefnogi eraill 5. Cymryd cyfrifoldeb personol dros weithredu rhai pethau 6. Dangos gonestrwydd, tegwch a chysondeb wrth wneud penderfyniadau 7. Cytuno'n eglur ar beth a ddisgwylir gan bobl eraill a'u hystyried nhw'n gyfrifol am herio ymddygiad cymdeithasol er enghraifft. 8. Ceisio deall disgwyliadau pobl ac unrhyw anghenion ychwanegol a medru bodloni'r rhain 9. Cymryd cyfrifoldeb dros ddiogelwch personol 10. Cymryd balchder mewn cynnig gwasanaeth o safon 11. Ymdrechu i fod yn wyliadwrus rhag bygythiadau a pheryglon posib 12. Annog a chefnogi eraill i fanteisio i'r eithaf ar eu galluoedd. 13. Defnyddio ystod o ddulliau arwain sy'n briodol i wahanol bobl a sefyllfaoedd 14. Eirioli dros ddiogelwch a lles fel blaenoriaeth wrth gynllunio a rheoli digwyddiadau 15. Cymryd balchder yn eich edrychiad a chydymffurfio gydag unrhyw godau gwisg gan y mudiad neu leoliad 16. Cydymffurfio gyda chod ymddygiad y lleoliad 17. Dangos eich gallu i gynnal cyfrinachedd 18. Dangos ymwybyddiaeth o faterion diogelu 19. Dangos dealltwriaeth o ofynion cyfreithiol sylfaenol yn ymwneud ag amrywioldeb a diogelwch |
Sgiliau
Dyma restr o'r prif sgiliau a nodweddion cyffredinol sydd eu hangen er mwyn gofalu am ddiogelwch gwylwyr
- Gwrando a gweithredu
- Cyfathrebu geiriol ac aneiriol effeithiol
- Dylanwadu ar ac argyhoeddi eraill
Dirprwyo
Diplomyddiaeth
- Empathi
- Rhoi grym i eraill
- Gallu i ddilyn cyfarwyddiadau
- Arwain drwy esiampl
- Gwydnwch
- Rheoli ymddygiad heriol
- Mentora
- Ysgogi eraill
- Trafod a chyfaddawdu
- Derbyn a chynnig adborth
- Cynllunio a gwerthuso
- Gosod amcanion
- Gwerthfawrogi a chefnogi eraill
Geirfa
Newidiadau mewn amgylchiadau:
Unrhyw ddigwyddiad neu achlysur lle bydd angen i berchennog y lleoliad neu drefnydd y digwyddiad newid, diweddaru neu addasu cynlluniau'r digwyddiad. Ymysg yr amgylchiadau posib o'r fath mae amodau tywydd, peryglon neu fygythiadau newydd neu ychwanegol neu ddiwygiad i'r lefel bygythiad ym Mhrydain.
Dolenni I NOS Eraill
SKASS14, SKASS15, SKASS16, SKASS23, SKASS24