Hyrwyddo dysgu a datblygiad unigolion
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnig cyfleoedd i unigolion yn eich tîm neu'ch maes cyfrifoldeb i fodloni eu hanghenion dysgu ac i gyrraedd eu potensial yn llawn.
Mae'r safon hon yn berthnasol i reolwyr ac arweinwyr ar bob lefel sydd ag unigolion yn adrodd iddynt.
Mae gan y safon hon gysylltiadau agos gyda holl safonau maes allweddol DC Datblygu a chefnogi unigolion a hefyd gyda CFAM&LAA2 Datblygu eich dealltwriaeth, sgiliau a chymhwysedd, sydd yn ymwneud â hunanddatblygiad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Rhaid eich bod chi'n gallu:**
1. hyrwyddo manteision dysgu i bobl yn eich maes cyfrifoldeb a chydnabod eu parodrwydd ac ymdrechion i ddysgu
2. rhoi adborth gwrthrychol, penodol a dilys i unigolion ar eu perfformiad gwaith, gan drafod a chytuno ar sut allant wella
3. ymgysylltu ag unigolion wrth adnabod a chasglu gwybodaeth am ystod o weithgareddau dysgu posibl ar gyfer bodloni eu hanghenion dysgu
4. trafod gydag unigolion ynghylch rolau a chyfrifoldebau yn y dyfodol sy'n gydnaws a'u cymhwysedd a'u potensial
5. trafod a chytuno ar gynlluniau datblygu personol sy'n cynnwys gweithgareddau dysgu ac amcanion dysgu i'w cyflawni, yr adnoddau gofynnol ac amserlenni
6. cefnogi unigolion i gyflawni gweithgareddau dysgu, gan sicrhau bod yr adnoddau gofynnol ar gael ac ymdrechu i ddileu unrhyw rwystrau i ddysgu
7. cynnig cyfleoedd priodol i unigolion i ddefnyddio'r cymhwysedd maent yn ei ddatblygu, yn y gweithle
8. adnabod a manteisio ar gyfleoedd dysgu annisgwyl
9. trafod ag unigolion am eu profiad o weithgareddau dysgu ac i ba raddau y cyflawnwyd yr amcanion dysgu
10. trafod ag unigolion eu cynnydd a'u parodrwydd i daclo rolau a chyfrifoldebau newydd, a chytuno ar y gefnogaeth a'r oruchwyliaeth y byddant yn eu hangen
11. penodi unigolion i rolau a chyfrifoldebau sy'n gydnaws a'u cymhwysedd a'u potensial
12. rhoi cefnogaeth a goruchwyliaeth y mae angen ar unigolion a sicrhau eu bod yn derbyn adborth penodol i alluogi iddynt wella ar eu perfformiad
13. trafod a chytuno ar newidiadau i gynlluniau datblygu personol yn sgil eu perfformiad, gweithgareddau dysgu a chyflawnwyd ac unrhyw newidiadau ehangach
14. annog pobl i gymryd cyfrifoldeb am ddysgu a datblygiad eu hun, yn cynnwys ymarfer ac adlewyrchu ar beth a ddysgwyd
15. chwilio a manteisio ar arbenigedd lle bo angen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol**
1. manteision dysgu ar gyfer unigolion a sefydliadau a sut i hyrwyddo'r rhain
2. ffyrdd y gallech ddatblygu diwylliant lle mae dysgu yn cael ei werthfawrogi ac mae parodrwydd ac ymdrech i ddysgu yn cael eu cydnabod
3. sut i adnabod rolau a chyfrifoldebau posibl i unigolion ar gyfer y dyfodol
4. sut i roi'r gefnogaeth a goruchwyliaeth sydd angen ar unigolion
5. sut i roi adborth gwrthrychol, penodol a dilys i unigolion gyda'r bwriad o wella ar eu perfformiad
6. sut i flaenoriaethu anghenion dysgu unigolion, yn cynnwys ystyried anghenion a blaenoriaethau'r sefydliad ac anghenion personol a datblygiad gyrfa unigolion
7. gwahanol fathau o weithgareddau dysgu, eu manteision a'u hanfanteision a'r adnoddau sydd eu hangen (er enghraifft, amser, ffioedd, staff cyflenwi)
8. ble/sut i adnabod a chasglu gwybodaeth am wahanol weithgareddau dysgu
9. pam fod hi'n bwysig bod gan unigolion cynllun datblygu personol ysgrifenedig a beth y dylid eu cynnwys (er enghraifft, anghenion dysgu a nodwyd, gweithgareddau dysgu ac amcanion dysgu i'w cyflawni, amserlenni, a'r adnoddau gofynnol)
10. sut i osod amcanion dysgu SMART (penodol (specific), mesuradwy (measurable), cytunedig (agreed), realistig , a chyfnodol (time-bound)
11. y math o gefnogaeth bydd angen ar unigolion, o bosib, er mwyn cyflawni gweithgareddau dysgu, yr adnoddau sydd eu hangen a'r mathau o rwystrau y gallent eu hwynebu a sut y gellir eu datrys
12. sut i werthuso a yw gweithgareddau dysgu wedi cyflawni'r amcanion dysgu a fwriadwyd
13. pwysigrwydd adolygu a diweddaru cynlluniau datblygu personol yn rheolaidd yn sgil perfformiad, unrhyw weithgareddau dysgu a chyflawnwyd ac unrhyw newidiadau ehangach
14. sut i ystyried deddfwriaeth cydraddoldeb, unrhyw godau ymarfer perthnasol a materion amrywiaeth a chynhwysiant cyffredinol wrth gynnig cyfleoedd dysgu i gydweithwyr
15. sut i annog pobl i gymryd cyfrifoldeb am ddysgu a datblygiad eu hun, yn cynnwys adlewyrchu ar eu perfformiad eu hun
16. ffynonellau arbenigedd ar gyfer adnabod a darparu cyfleoedd dysgu i gydweithwyr
17. gofynion y diwydiant/sector ar gyfer datblygu neu gynnal dealltwriaeth, sgiliau a chymhwysedd
18. materion dysgu a chynlluniau a threfniadau sy'n gymwys yn y diwydiant/sector
19. diwylliant ac arferion gwaith y diwydiant/sector
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r cyd-destun**
20. unigolion yn eich tîm, eu rolau, cyfrifoldebau, cymhwysedd a photensial
21. ble sydd angen gwella o ran dealltwriaeth, sgiliau a chymhwysedd yr unigolion
22. anghenion dysgu a nodwyd
23. yr arddulliau dysgu neu'r cyfuniad o arddulliau sy'n well gan unigolion
24. cynlluniau datblygu personol yr unigolion
25. y gweithgareddau ac adnoddau dysgu sydd ar gael yn/ar gyfer eich sefydliad
26. cyfleoedd yn eich sefydliad i unigolion ddatblygu eu gyrfa
27. cyfleoedd i ddefnyddio'r cymhwysedd maent yn ei ddatblygu, yn y gweithle
28. y gefnogaeth a goruchwyliaeth sydd ar gael i unigolion yn eich sefydliad
29. y ffynonellau arbenigedd sydd ar gael ar gyfer adnabod a darparu cyfleoedd dysgu a datblygu i unigolion
30. polisi ac arferion eich sefydliad ynghylch dysgu a datblygiad personol a phroffesiynol
31. polisïau eich sefydliad ynghylch cydraddoldeb ac amrywiaeth
32. systemau gwerthuso perfformiad eich sefydliad.
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Wrth berfformio i'r safon hon, rydych yn debygol o ymddwyn fel y ganlyn:
1. Manteisio ar gyfleoedd a godir gan amrywiaeth pobl
2. Adnabod newidiadau i amgylchiadau yn ddi-oed ac addasu cynlluniau a gweithgareddau fel sy'n briodol
3. Dod o hyd i ddulliau ymarferol o oresgyn rhwystrau
4. Dangos empathi tuag at anghenion, teimladau a chymhellion eraill a chymryd diddordeb byw yn eu pryderon
5. Cefnogi eraill i wneud defnydd effeithiol o'u gallu
6. Cydnabod cyrhaeddiad a llwyddiannau eraill
7. Datblygu dealltwriaeth, sgiliau a pherfformiad mewn ffordd systematig
8. Ysbrydoli eraill i ddangos awydd i ddysgu
9. Dangos gonestrwydd, tegwch a chysondeb wrth wneud penderfyniadau
10. Gwrthod ceisiadau afresymol
11. Delio â materion perfformiad yn ddi-oed a'u datrys yn uniongyrchol â'r bobl berthnasol
12. Cytuno'n glir beth y disgwylir gan eraill a'u dwyn i gyfrif
Sgiliau
Wrth berfformio i'r safon hon, rydych yn debygol o ddangos y sgiliau canlynol:
1. Hyfforddi
2. Cyfathrebu
3. Gwneud penderfyniadau
4. Dirprwyo
5. Dangos empathi
6. Rhoi pŵer
7. Gwerthuso
8. Ysbrydoli
9. Cynnwys eraill
10. Arwain drwy esiampl
11. Mentro
12. Monitro
13. Ysgogi
14. Perswadio
15. Cynllunio
16. Datrys problemau
17. Rhoi adborth
18. Holi
19. Adolygu
20. Pennu amcanion
21. Meddwl yn strategol
22. Gwerthfawrogi a chefnogi eraill