Datblygu, gweithredu ac adolygu polisïau a gweithdrefnau yn ymwneud â diogelwch mewn digwyddiadau i wylwyr

URN: SKASS16
Sectorau Busnes (Suites): Diogel wch Gwylwyr
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 2018

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo'r mudiad i ddatblygu, gweithredu ac adolygu polisïau a gweithdrefnau yn effeithio ar brif feysydd gwaith. Y prif feysydd gwaith bydd y polisïau a gweithdrefnau yn berthnasol iddyn nhw ydy: iechyd a diogelwch, gofal cwsmer, materion amgylcheddol, ansawdd gwasanaeth, ymwneud â'r gymuned, ymatebion i newidiadau mewn deddfwriaeth, diogelu, gwarchod data, cwynion a chydraddoldeb ac amrywioldeb.

Prif ddeilliannau'r safon hon ydy:

  1. Datblygu polisïau a gweithdrefnau
  2. Ymgynghori ynghylch polisïau a gweithdrefnau
  3. Cwblhau a gweithredu polisïau a gweithdrefnau
  4. Adolygu polisïau a gweithdrefnau

Mae'r safon hon ar gyfer staff sy'n meddu ar gyfrifoldeb cyffredinol dros ddiogelwch y cyhoedd mewn digwyddiadau i wylwyr a mannau poblog.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


Datblygu polis*ï*au a gweithdrefnau

  1.  dewis yr amcanion ar gyfer y polis*ï*au a gweithdrefnau

  2.  datblygu meini prawf ar gyfer drafftio ac ysgrifennu polis*ï*au a gweithdrefnau lle bydd ymgynghori yn eu cylch yn hwyrach ymlaen

  3.  drafftio polis*ï*au a gweithdrefnau sy'n gyson gyda'r ddeddfwriaeth gyfredol, canllaw cyfredol, ymarfer gorau a gweithdrefnau cyfundrefnol sydd eisoes yn bodoli 

  4.  crybwyll polisïau cydraddoldeb ac amrywioldeb yn eich polisïau a gweithdrefnau

  5.  cytuno ar bolisïau drafft gyda rhanddeiliaid mewnol

Ymgynghori ynghylch polis*ï*au a gweithdrefnau

  1.  argymell rhanddeiliaid mewnol ac allanol ar gyfer ymgynghori

  2.  sefydlu dulliau ac amserlen ar gyfer ymchwilio ac ymgynghori

  3.  cynnal ymgynghoriad gyda'r holl rhanddeiliaid

  4.  gwerthuso ymatebion yr ymgynghoriad a dod i gasgliadau

Cwblhau a gweithredu polis*ï*au a gweithdrefnau

  1. cwblhau polis*ï*au a gweithdrefnau gan ddwyn i ystyriaeth y casgliadau yn deillio o'r gwerthusiad ar ymatebion yr ymgynghoriad

  2. cytuno gyda *rhanddeiliaid mewnol: * 

  3. y mesurau ar gyfer gweithredu polis*ï*au a gweithdrefnau

  4. trefniadau unrhyw hyfforddiant gofynnol
  5. sut dylid cyhoeddi'r newidiadau

  6. gwirio'r polis*ï*au a gweithdrefnau neu eu cyhoeddi gan ofalu eu bod yn gyson gyda'r gofynion cyfundrefnol

  7. rhoi gwybod i'r holl staff am unrhyw ddiwygiadau i'r polis*ï*au a gweithdrefnau ynghyd â'r rhesymau dros y diwygiadau

  8. cadarnhau bod y staff yn ymwybodol o'r polis*ï*au a gweithdrefnau

15. cytuno gyda rhanddeiliaid mewnol ynghylch pa mor aml gaiff polis*ï*au a gweithdrefnau eu hadolygu

Adolygu polis*ï*au a gweithdrefnau

  1. monitro effeithiolrwydd polis*ï*au a gweithdrefnau

17. adolygu polisïau a gweithdrefnau gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol yn unol â'r amserlen adolygu

18. adolygu polisïau a gweithdrefnau diogelwch fel ymateb os caiff lefel y bygythiad ym Mhrydain ei ddiwygio 

  1. cadw cofnodion o unrhyw ddiwygiadau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


Datblygu polis*ï*au a gweithdrefnau

  1.  mathau o bolis*ïau a gweithdrefnau ac amcanion yn eu cylch y mae'n bosib y bydd angen i'r mudiad eu datblygu, gweithredu ac adolygu * **

  2.  y meini prawf i gydymffurfio gydag o ar gyfer y prif feysydd gwaith

  3.  dulliau drafftio polis*ï*au a gweithdrefnau

  4.  deddfwriaeth ac arweiniad cyfredol, ymarfer gorau a pholis*ï*au a gweithdrefnau cyfundrefnol sydd eisoes yn bodoli

Ymgynghori ynghylch polis*ï*au a gweithdrefnau

  1.  sut i adnabod y rhanddeiliaid mewnol ac allanol i ymgynghori gyda nhw ynghylch polis*ï*au a gweithdrefnau

  2.  dulliau ymchwil a pha ddulliau sydd mwyaf addas er mwyn caniatáu pobl i gyfrannu

  3.  y ffynonellau gwybodaeth gorau i'w defnyddio ar gyfer yr ymgynghoriad

  4.  y prosesau ar gyfer cynnal ymgynghoriad

  5.  dulliau gwerthuso mewnbynnau'r ymgynghoriad

* *

Cwblhau a gweithredu polis*ï*au a gweithdrefnau

  1.  sut i ddadansoddi ymatebion i'r ymgynghoriad

11. pam fod angen ichi ddwyn i ystyriaeth ymatebion yr ymgynghoriad pan fyddwch yn cynhyrchu fersiynau terfynol o'r polis*ï*au a gweithdrefnau

12. prosesau gweithredu ar gyfer polis*ï*au a gweithdrefnau newydd

13. gofynion hyfforddi a chyfarwyddo ar gyfer gweithredu polisi

14. y strategaeth cyfathrebu ar gyfer newidiadau i bolis*ï*au a gweithdrefnau

15. meini prawf ar gyfer pennu effeithiolrwydd polis*ï*au a gweithdrefnau newydd

16. pam ddylai polis*ï*au a gweithdrefnau newydd fod yn gyson gyda deddfwriaeth ac arweiniad cyfredol a gweithdrefnau cyfundrefnol sydd eisoes yn bodoli  

*
*

Adolygu polis*ï*au a gweithdrefnau

  1. pam fod angen ichi fonitro polis*ï*au a gweithdrefnau

  2. y broses ar gyfer adolygu polis*ï*au a gweithdrefnau gyda'r rhanddeiliaid mewnol ac allanol

19. pam ddylid llunio a chydymffurfio gydag amserlen adolygu ar gyfer polis*ï*au a gweithdrefnau

20. sut i wirio bod staff yn ymwybodol o'r polis*ï*au a gweithdrefnau a'u bod yn cydymffurfio gyda nhw

  1. pam ei fod yn hanfodol adolygu polisïau a gweithdrefnau diogelwch fel ymateb i'r lefel bygythiadau cyfredol ac wedi'i ddiwygio ym Mhrydain

  2. y broses ar gyfer adolygu polisïau a gweithdrefnau fel ymateb i newidiadau i'r lefel o fygythiadau terfysgaeth

23. pam fod angen ichi gadw cofnodion o unrhyw adolygiadau


Cwmpas/ystod

**** **GWYBODAETH YCHWANEGOL** **Cydraddoldeb ac Amrywiaeth** Mae disgwyl y bydd gan fudiadau weithdrefnau a chanllawiau i'w staff stiwardio gydymffurfio gyda nhw a fydd yn bodloni'r gofynion canlynol o leiaf: * anghenion corfforol amrywiol * anghenion diwylliannol amrywiol * anghenion ieithyddol * credoau **Diogelwch, Amddiffyn a Gwasanaeth** Mae disgwyl caiff yr holl wasanaethau mewn digwyddiadau gyda gwylwyr ac mewn mannau poblog eu cyflawni yn unol â'r mesurau isod: Mesurau diogelwch: unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o ddiogelu iechyd a lles yr holl grwpiau cleient sy'n mynychu, neu'n cymryd rhan mewn digwyddiadau. Mesurau amddiffyn: unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o atal, lleihau'r risg a/neu ymateb i unrhyw weithgareddau troseddol neu anghyfreithlon neu aflonyddwch yn gysylltiedig â'r digwyddiadau. Mesurau gwasanaeth: unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod  o ofalu bod yr holl grwpiau cleient yn teimlo'n gyfforddus, wedi'u gwerthfawrogi a bod croeso iddyn nhw pan maen nhw'n mynychu digwyddiadau. **Lefelau Bygythiadau Terfysgaeth ym Mhrydain** Mae disgwyl bod uwch stiwardiaid, swyddogion diogelwch a staff tebyg sy'n meddu ar gyfrifoldeb cyffredinol dros ddiogelwch ac amddiffyniaeth digwyddiadau yn gyfarwydd gyda'r lefelau bygythiadau terfysgaeth cyfredol ym Mhrydain. Mae'r lefel o fygythiad yn dynodi tebygolrwydd o ymosodiad terfysgol ym Mhrydain. Mae 5 lefel o fygythiadau: * ISEL – mae ymosodiad yn annhebygol   * CYMEDROL- mae ymosodiad yn bosib ond nid ydyw'n debygol * SYLWEDDOL – mae ymosodiad yn bosib iawn * DIFRIFOL – mae ymosodiad yn debygol iawn * ARGYFYNGUS – mae disgwyl y bydd ymosodiad ar ddigwydd Caiff y lefel ei bennu gan y Cyd-Ganolfan Dadansoddi Terfysgaeth a'r Gwasanaeth Diogelwch  (MI5). Does gan lefelau bygythiol ddim dyddiad dod i ben ond fe allan nhw newid ar unrhyw adeg wrth i wahanol wybodaeth fod ar gael i asiantiaid diogelwch. 

Cwmpas Perfformiad

**** **Polis****ï****au a gweithdrefnau** yn ymwneud â'r canlynol (ymdrin â lleiafswm o 4) 1.  diogelwch y digwyddiad  2.  iechyd a diogelwch 3.  gofal cwsmer 4.  ansawdd gwasanaethau 5.  materion amgylcheddol 6.  ymwneud â'r gymuned 7.  ymateb i newidiadau i'r ddeddfwriaeth 8.  diogelu 9.  cwynion 10. gwarchod data 11. cydraddoldeb **Rhanddeiliaid mewnol **(ymdrin â lleiafswm o 2)  1.  person sy'n gyfrifol am y digwyddiad 2.  rheolwr llinell 3.  staff y digwyddiad sy'n gyfarwydd gyda'r lleoliad 4.  staff y digwyddiad sydd ddim yn gyfarwydd gyda'r lleoliad **Rhanddeiliaid allanol **(ymdrin â lleiafswm o 2) 1.  gwasanaethau argyfwng 2.  corff rheoleiddiol 3.  contractwyr 4.  darparwyr cludiant

Gwybodaeth Cwmpas


**Polis****ï****au a gweithdrefnau** yn ymwneud â'r canlynol 1.  diogelwch y digwyddiad  2.  iechyd a diogelwch 3.  gofal cwsmer 4.  ansawdd gwasanaethau 5.  materion amgylcheddol 6.  ymwneud â'r gymuned 7.  ymateb i newidiadau i'r ddeddfwriaeth 8.  diogelu 9.  cwynion 10. gwarchod data 11. cydraddoldeb **Rhanddeiliaid mewnol** 1.  person sy'n gyfrifol am y digwyddiad 2.  rheolwr llinell 3.  staff y digwyddiad sy'n gyfarwydd gyda'r lleoliad 4.  staff y digwyddiad sydd ddim yn gyfarwydd gyda'r lleoliad **Rhanddeiliaid allanol** 1.  gwasanaethau argyfwng 2.  corff rheoleiddiol 3.  contractwyr 4.  darparwyr cludiant **Ffynonellau gwybodaeth** 1.  adroddiadau o ddiwygiadau / diwygiadau fu bron a digwydd 2.  newidiadau mewn deddfwriaeth

Gwerthoedd


Ymddygiadau

Mae'r ymddygiadau canlynol wrth wraidd cyflenwi gwasanaethau yn y sector diogelwch i wylwyr. Mae'r ymddygiadau yn sicrhau bod y mudiad a'r unigolyn yn creu argraff dda ar y cleientiaid.

Mae'n rhaid ichi ddangos eich bod yn cyflawni'r canlynol yn gyson:

1.     Adnabod yr angen i fod yn hyblyg er mwyn dwyn i ystyriaeth amgylchiadau newidiol

2.     Addasu cynlluniau ac ymatebion fel bo'r angen

3.    Blaenoriaethu amcanion a gwaith cynllunio er mwyn manteisio ar y defnydd gorau posib o amser ac adnoddau 

4.     Gofalu bod amser i gefnogi eraill

5.     Cymryd cyfrifoldeb personol dros weithredu rhai pethau

6.     Dangos gonestrwydd, tegwch a chysondeb wrth wneud penderfyniadau

7.     Cytuno'n eglur ar beth a ddisgwylir gan bobl eraill a'u hystyried nhw'n gyfrifol am herio ymddygiad cymdeithasol er enghraifft.

8.     Ceisio deall disgwyliadau pobl ac unrhyw anghenion ychwanegol a medru bodloni'r rhain 

9.     Cymryd cyfrifoldeb dros ddiogelwch personol

10.   Cymryd balchder mewn cynnig gwasanaeth o safon

11.   Ymdrechu i fod yn wyliadwrus rhag bygythiadau a pheryglon posib

12.   Annog a chefnogi eraill i fanteisio i'r eithaf ar eu galluoedd.

13.   Defnyddio ystod o ddulliau arwain sy'n briodol i wahanol bobl a sefyllfaoedd

14.   Eirioli dros ddiogelwch a lles fel blaenoriaeth wrth gynllunio a rheoli digwyddiadau

15.   Cymryd balchder yn eich edrychiad a chydymffurfio gydag unrhyw godau gwisg gan y mudiad neu leoliad

16.   Cydymffurfio gyda chod ymddygiad y lleoliad

17.   Dangos eich gallu i gynnal cyfrinachedd

18.   Dangos ymwybyddiaeth o faterion diogelu

19.   Dangos dealltwriaeth o ofynion cyfreithiol sylfaenol yn ymwneud ag amrywioldeb a diogelwch


Sgiliau

Dyma restr o'r prif sgiliau a nodweddion cyffredinol sydd eu hangen er mwyn gofalu am ddiogelwch gwylwyr

  1. Gwrando a gweithredu 

  2. Cyfathrebu geiriol ac aneiriol effeithiol
  3. Dylanwadu ar ac argyhoeddi eraill
  4. Dirprwyo

  5. Diplomyddiaeth

  6. Empathi
  7. Rhoi grym i eraill
  8. Gallu i ddilyn cyfarwyddiadau
  9. Arwain drwy esiampl
  10. Gwydnwch
  11. Rheoli ymddygiad heriol
  12. Mentora
  13. Ysgogi eraill
  14. Trafod a chyfaddawdu
  15. Derbyn a chynnig adborth
  16. Cynllunio a gwerthuso

  17. Gosod amcanion

  18. Gwerthfawrogi a chefnogi eraill

Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

SKASS14, SKASS15, SKASS19, SKASS23, SKASS24


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2023

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKASS516

Galwedigaethau Perthnasol

Swyddogion Iechyd a Diogelwch

Cod SOC

9275

Geiriau Allweddol

gwylwyr, torfeydd, polisïau, iechyd, diogelwch, ansawdd, deddfwriaeth, strategaeth, gweithredu