Rheoli diogelwch pobl mewn digwyddiadau i wylwyr
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â sicrhau diogelwch cyffredinol mewn digwyddiad, gwirio'r lleoliad a'r holl ddarpariaeth er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio gyda mesurau rheoli wedi'u cynllunio a gofynion cyfreithiol a chyfundrefnol, gan reoli'r rhain yn ystod y digwyddiad. Prif ddeilliannau'r safon hon ydy: 1. Sicrhau fod y lleoliad ac adnoddau wedi'u trefnu cyn y digwyddiadau 2. Monitro a chydlynu mesurau cyfundrefnol yn ystod digwyddiadau |
Mae'r safon hon ar gyfer staff sy'n meddu ar gyfrifoldeb cyffredinol dros ddiogelwch y cyhoedd mewn digwyddiadau i wylwyr a mannau poblog.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
****
|
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
**Gofalu bod y lleoliad a'r adnoddau yn barod cyn y digwyddiadau** 1. yr holl ofynion cyfreithiol, statudol a chyfundrefnol ar gyfer rheoli diogelwch mewn digwyddiadau i wylwyr 2. gweithdrefnau ar gyfer gwirio parodrwydd lleoliadau ac adnoddau 3. y mathau o broblemau gall godi yn ymwneud â darpariaeth a sut i fynd i'r afael â nhw 4. lleoliad a chynnwys holl gynlluniau'r digwyddiadau gan gynnwys cynlluniau mewn argyfwng 5. pwysigrwydd gofalu bod yr holl ddarpariaeth yn cydymffurfio gyda gweithdrefnau cyfundrefnol a gofynion cyfreithiol a statudol 6. yr amgylchiadau lle gall **dylanwadau a phwysau** eu gweithredu er mwyn gofalu caiff y digwyddiad ei gynnal heb ddarpariaeth ddigonol a sut i fynd i'r afael â'r rhain 7. pwysigrwydd newidynnau amgylcheddol a sut gallan nhw beryglu diogelwch 8. cyfrifoldebau wedi'u dirprwyo i eraill a sut i wirio bod y rhain wedi'u deall ac mewn lle 9. y dogfennau sydd angen eu cwblhau a sut i'w cwblhau **Monitro a chydlynu mesurau cyfundrefnol yn ystod digwyddiadau** ** ** 10. adnoddau sydd ar gael ar gyfer y digwyddiad 11. dulliau o wirio'n rheolaidd bod adnoddau a gweithdrefnau cyfundrefnol yn cydymffurfio gyda chynlluniau a gofynion 12. sut i fonitro'r wybodaeth sydd ar gael ac adnabod sefyllfaoedd gwirioneddol a dichonol 13. y mathau o wybodaeth i'w monitro yn ystod y digwyddiad, pwy fydd yn cyflwyno'r wybodaeth a sut i'w fonitro 14. dulliau ar gyfer asesu gwybodaeth gaiff ei dderbyn o ran cywirdeb ac arwyddocâd 15. sut i gynnal asesiadau risg a gweithredu gweithdrefnau gan gynnwys asesiad risg dynameg 16. mesurau rheoli priodol 17. pryd a sut i weithredu cynlluniau mewn argyfwng 18. y gweithdrefnau wedi'u cytuno er mwyn hysbysu **rhanddeiliaid** perthnasol yn syth bin am sefyllfaoedd sydd wedi codi yn eu maes cyfrifoldeb nhw 19. y gweithdrefnau wedi'u cytuno yn ymwneud â chyfathrebu 20. pwysigrwydd cofnodi'r holl wybodaeth a phenderfyniadau yn gyflawn ac yn gywir 21. dulliau adrodd yn ôl i'r holl **rhanddeiliaid** perthnasol 22. pwysigrwydd gwerthuso effeithiolrwydd y gweithdrefnau cyfundrefnol a dysgu gwersi ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol |
Cwmpas/ystod
GWYBODAETH YCHWANEGOL
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae disgwyl y bydd gan fudiadau weithdrefnau a chanllawiau i'w staff stiwardio gydymffurfio gyda nhw a fydd yn bodloni'r gofynion canlynol o leiaf:
- anghenion corfforol amrywiol
- anghenion diwylliannol amrywiol
- anghenion ieithyddol
- credoau
Diogelwch, Amddiffyn a Gwasanaeth
Mae disgwyl caiff yr holl wasanaethau mewn digwyddiadau gyda gwylwyr ac mewn mannau poblog eu cyflawni yn unol â'r mesurau isod:
Mesurau diogelwch: unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o ddiogelu iechyd a lles yr holl grwpiau cleient sy'n mynychu, neu'n cymryd rhan mewn digwyddiadau.
Mesurau amddiffyn: unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o atal, lleihau'r risg a/neu ymateb i unrhyw weithgareddau troseddol neu anghyfreithlon neu aflonyddwch yn gysylltiedig â'r digwyddiadau.
Mesurau gwasanaeth: unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o ofalu bod yr holl grwpiau cleient yn teimlo'n gyfforddus, wedi'u gwerthfawrogi a bod croeso iddyn nhw pan maen nhw'n mynychu digwyddiadau.
Lefelau Bygythiadau Terfysgaeth ym Mhrydain
Mae disgwyl bod uwch stiwardiaid, swyddogion diogelwch a staff tebyg sy'n meddu ar gyfrifoldeb cyffredinol dros ddiogelwch ac amddiffyniaeth digwyddiadau yn gyfarwydd gyda'r lefelau bygythiadau terfysgaeth cyfredol ym Mhrydain.
Mae'r lefel o fygythiad yn dynodi tebygolrwydd o ymosodiad terfysgol ym Mhrydain. Mae 5 lefel o fygythiadau:
- ISEL – mae ymosodiad yn annhebygol
- CYMEDROL- mae ymosodiad yn bosib ond nid ydyw'n debygol
- SYLWEDDOL – mae ymosodiad yn bosib iawn
- DIFRIFOL – mae ymosodiad yn debygol iawn
- ARGYFYNGUS – mae disgwyl y bydd ymosodiad ar ddigwydd
Caiff y lefel ei bennu gan y Cyd-Ganolfan Dadansoddi Terfysgaeth a'r Gwasanaeth Diogelwch (MI5). Does gan lefelau bygythiol ddim dyddiad dod i ben ond fe allan nhw newid ar unrhyw adeg wrth i wahanol wybodaeth fod ar gael i asiantiaid diogelwch.
Cwmpas Perfformiad
**Rhanddeiliaid **(ymdrin â lleiafswm o 4) 1. person sy'n gyfrifol am y digwyddiad (hyrwyddwr) 2. gwasanaethau argyfwng 3. awdurdod lleol 4. rheolwr llinell 5. staff y digwyddiad sy'n gyfarwydd gyda'r lleoliad 6. staff y digwyddiad sydd ddim yn gyfarwydd gyda'r lleoliad 7. contractwyr 8. darparwyr cludiant **Cofnodion** (ymdrin â lleiafswm o 4) 1. recordiadau CCTV 2. cofnodion penderfyniadau 3. datganiadau gan dystion 4. nodiadau cyfarwyddo ac adrodd yn ôl 5. archwiliadau cyn y digwyddiad 6. cofnodion presenoldeb y staff |
Gwybodaeth Cwmpas
**Dylanwadau a phwysau** 1. dylanwadau a phwysau cyfundrefnol (mewnol) 2. dylanwadau a phwysau rhanddeiliaid (allanol) **Rhanddeiliaid** 1. person sy'n gyfrifol am y digwyddiad (hyrwyddwr) 2. gwasanaethau argyfwng 3. awdurdod lleol 4. rheolwr llinell 5. staff y digwyddiad sy'n gyfarwydd gyda'r lleoliad 6. staff y digwyddiad sydd ddim yn gyfarwydd gyda'r digwyddiad 7. contractwyr |
- darparwyr cludiant
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiadau canlynol wrth wraidd cyflenwi gwasanaethau yn y sector diogelwch i wylwyr. Mae'r ymddygiadau yn sicrhau bod y mudiad a'r unigolyn yn creu argraff dda ar y cleientiaid.
Mae'n rhaid ichi ddangos eich bod yn cyflawni'r canlynol yn gyson:
1. Adnabod yr angen i fod yn hyblyg er mwyn dwyn i ystyriaeth amgylchiadau newidiol
2. Addasu cynlluniau ac ymatebion fel bo'r angen
3. Blaenoriaethu amcanion a gwaith cynllunio er mwyn manteisio ar y defnydd gorau posib o amser ac adnoddau
4. Gofalu bod amser i gefnogi eraill
5. Cymryd cyfrifoldeb personol dros weithredu rhai pethau
6. Dangos gonestrwydd, tegwch a chysondeb wrth wneud penderfyniadau
7. Cytuno'n eglur ar beth a ddisgwylir gan bobl eraill a'u hystyried nhw'n gyfrifol am herio ymddygiad cymdeithasol er enghraifft.
8. Ceisio deall disgwyliadau pobl ac unrhyw anghenion ychwanegol a medru bodloni'r rhain
9. Cymryd cyfrifoldeb dros ddiogelwch personol
10. Cymryd balchder mewn cynnig gwasanaeth o safon
11. Ymdrechu i fod yn wyliadwrus rhag bygythiadau a pheryglon posib
12. Annog a chefnogi eraill i fanteisio i'r eithaf ar eu galluoedd.
13. Defnyddio ystod o ddulliau arwain sy'n briodol i wahanol bobl a sefyllfaoedd
14. Eirioli dros ddiogelwch a lles fel blaenoriaeth wrth gynllunio a rheoli digwyddiadau
15. Cymryd balchder yn eich edrychiad a chydymffurfio gydag unrhyw godau gwisg gan y mudiad neu leoliad
16. Cydymffurfio gyda chod ymddygiad y lleoliad
17. Dangos eich gallu i gynnal cyfrinachedd
18. Dangos ymwybyddiaeth o faterion diogelu
19. Dangos dealltwriaeth o ofynion cyfreithiol sylfaenol yn ymwneud ag amrywioldeb a diogelwch
Sgiliau
Dyma restr o'r prif sgiliau a nodweddion cyffredinol sydd eu hangen er mwyn gofalu am ddiogelwch gwylwyr
- Gwrando a gweithredu
- Cyfathrebu geiriol ac aneiriol effeithiol
- Dylanwadu ar ac argyhoeddi eraill
Dirprwyo
Diplomyddiaeth
- Empathi
- Rhoi grym i eraill
- Gallu i ddilyn cyfarwyddiadau
- Arwain drwy esiampl
- Gwydnwch
- Rheoli ymddygiad heriol
- Mentora
- Ysgogi eraill
- Trafod a chyfaddawdu
- Derbyn a chynnig adborth
- Cynllunio a gwerthuso
- Gosod amcanion
- Gwerthfawrogi a chefnogi eraill
Geirfa
Gweithdrefnau cyfundrefnol
Gweithdrefnau sy'n pennu ffordd caiff lleoliad ei weithredu o ddydd i ddydd. Gall ymdrin â'r canlynol ond nid ydyw wedi'i gyfyngu i hyn: cynllun stiwardio, cynllun meddygol, amserlen weinyddol cynnal a chadw ataliol wedi'i gynllunio, asesiad risg yn ymwneud â thân, gweithdrefnau ar ddydd y digwyddiad, cynlluniau mewn argyfwng, cyfrifiadau mwyafswm posib o bobl, cynlluniau safle a manylion cyfarpar diogelwch.
Safonau a gweithdrefnau y cytunwyd arnyn nhw
Gweithdrefnau wedi'u cymeradwyo eisoes sy'n gofnod o weithrediadau'r lleoliad o ddydd i ddydd. Gall fod yn weithdrefnau gweithredu arferol, gweithdrefnau mewn argyfwng a chynlluniau wrth gefn. Mae hyn yn ymwneud â gofynion y lleoliad ynghyd â gofynion cyfundrefnol.
Dolenni I NOS Eraill
SKASS14, SKASS16, SKASS19, SKASS23, SKASS24