Cynllunio ar gyfer diogelwch pobl mewn digwyddiadau i wylwyr
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio er mwyn gofalu am ddiogelwch gwylwyr mewn digwyddiadau ac mewn mannau poblog. Mae'n ymdrin ag adnabod peryglon a bygythiadau, asesu'r risgiau ynghlwm a rhagnodi'r gweithdrefnau ar gyfer rheoli'r rhain.
Prif ddeilliannau'r safon hon ydy:
Cynllunio ar gyfer digwyddiadau
Cynhyrchu, gweithredu, adolygu a gwerthuso cynlluniau
Mae'r safon hon ar gyfer staff sy'n meddu ar gyfrifoldeb cyffredinol dros ddiogelwch y cyhoedd mewn digwyddiadau i wylwyr a mannau poblog.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynllunio ar gyfer digwyddiadau
casglu'r holl wybodaeth am y lleoliad a'r digwyddiad
cyfrifo y mwyafswm o bobl all fod yn y lleoliad yn ddiogel
cynhyrchu gweithdrefnau yn ymwneud â'r digwyddiad yn unol â'r polisïau cyfundrefnol
trin a thrafod gyda rhanddeiliaid
asesu effaith gosodiadau dros dro ar gyfer y digwyddiad
Cynhyrchu, gweithredu, adolygu a gwerthuso cynlluniau
cytuno ar ddyletswyddau a chyfrifoldebau er mwyn cyflwyno'r cynllun gweithredol gyda'r prif randdeiliaid
dewis, blaenoriaethu a threfnu tasgau er mwyn bodloni'r amcanion hyn
asesu a phrisio'r adnoddau angenrheidiol
dilyn gweithdrefnau cyfundrefnol er mwyn asesu dylanwadau a phwysau mewnol ac allanol sy'n gysylltiedig â'ch cynllun.
asesu risgiau a goblygiadau yn ymwneud â'ch cynllun
cofnodi eich cynlluniau gweithredol
rhoi dulliau monitro a gwerthuso mewn lle
cyflwyno eich cynlluniau drafft i randdeiliaid a phrif wneuthurwyr penderfyniadau
trafod newidiadau i'ch cynlluniau gweithredol yn sgil adborth gan y rhanddeiliaid
cofnodi a gweithredu'r cynllun sydd wedi'i gytuno arno
adolygu a diwygio cynlluniau yn unol ag anghenion y digwyddiad
hysbysu'r rhanddeiliaid o unrhyw newidiadau i'r cynllun cytunedig.
gwerthuso effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd eich cynlluniau
datblygu a chofnodi casgliadau ac argymhellion er mwyn gwella eich cynlluniau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynllunio ar gyfer digwyddiadau
yr holl ofynion cyfreithiol, statudol a chyfundrefnol yn ymwneud â rheoli diogelwch ac amddiffyniaeth mewn digwyddiadau a mannau poblog
mathau a ffynhonellau gwybodaeth i'w casglu, gan gynnwys gwybodaeth am ddigwyddiadau blaenorol a data hanesyddol
pa arweiniad sydd ar gael a ffactorau i'w hystyried er mwyn cyfrifo'r mwyafswm posib o bobl mewn lleoliad sy'n ddiogel.
sut i gyfrifo'r mwyafswm posib o bobl sy'n ddiogel gan defnyddio'r holl ddata sydd ar gael yn ymwneud â phobl yn cyrraedd a gadael y digwyddiad, eu symudiadau a gwasgariad.
pwysigrwydd cyfrifo'r mwyafswm posib o bobl sy'n ddiogel ar gyfer unrhyw ddigwyddiad.
pa arweiniad sydd ar gael er mwyn cynhyrchu polisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol digwyddiadau
sut i gynhyrchu polisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol ar gyfer digwyddiadau
y rhanddeiliaid ddylech chi ymwneud â nhw wrth ddatblygu cynlluniau
pwysigrwydd sefydlu cysylltiad parhaus gyda rhanddeiliaid
pwysigrwydd ystyried goblygiadau gosodiadau'r digwyddiad
Cynhyrchu, gweithredu, adolygu a gwerthuso cynlluniau
- sut i ddewis adnoddau ar gyfer effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd
12. sut i adnabod, asesu a phrisio math yr adnoddau a'r nifer angenrheidiol ar gyfer pob digwyddiad
- y mathau o ddylanwadau a phwysau sy'n gysylltiedig â chynlluniau gweithredol a sut i asesu a rheoli'r rhain
14. y mathau o risgiau ynghlwm â chynlluniau gweithredol a sut i asesu a rheoli'r rhain
pwysigrwydd ennill cefnogaeth rhanddeiliaid ar gyfer eich cynlluniau
dulliau o gofnodi eich cynllun mewn ffurf gytunedig
17. sut i weithredu'ch cynlluniau
18. pwysigrwydd adolygu a diwygio eich cynlluniau yn ddynamig gan gynnwys adolygu eu heffeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.
- pam ei fod yn bwysig rhoi gwybod am newidiadau i'r cynllun a phwy ddylech chi eu hysbysu
20. dulliau hysbysu'r holl rhanddeiliaid am newidiadau i'r cynllun sydd wedi'i gytuno arno
21. ffyrdd o gofnodi casgliadau a datblygu argymhellion
pwysigrwydd casglu adborth y rhanddeiliaid
prosesau ar gyfer diweddaru a chynnal a chadw cynlluniau
Cwmpas/ystod
GWYBODAETH YCHWANEGOL
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae disgwyl y bydd gan fudiadau weithdrefnau a chanllawiau i'w staff stiwardio gydymffurfio gyda nhw a fydd yn bodloni'r gofynion canlynol o leiaf:
- anghenion corfforol amrywiol
- anghenion diwylliannol amrywiol
- anghenion ieithyddol
- credoau
Diogelwch, Amddiffyn a Gwasanaeth
Mae disgwyl caiff yr holl wasanaethau mewn digwyddiadau gyda gwylwyr ac mewn mannau poblog eu cyflawni yn unol â'r mesurau isod:
Mesurau diogelwch: unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o ddiogelu iechyd a lles yr holl grwpiau cleient sy'n mynychu, neu'n cymryd rhan mewn digwyddiadau.
Mesurau amddiffyn: unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o atal, lleihau'r risg a/neu ymateb i unrhyw weithgareddau troseddol neu anghyfreithlon neu aflonyddwch yn gysylltiedig â'r digwyddiadau.
Mesurau gwasanaeth: unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o ofalu bod yr holl grwpiau cleient yn teimlo'n gyfforddus, wedi'u gwerthfawrogi a bod croeso iddyn nhw pan maen nhw'n mynychu digwyddiadau.
Lefelau Bygythiadau Terfysgaeth ym Mhrydain
Mae disgwyl bod uwch stiwardiaid, swyddogion diogelwch a staff tebyg sy'n meddu ar gyfrifoldeb cyffredinol dros ddiogelwch ac amddiffyniaeth digwyddiadau yn gyfarwydd gyda'r lefelau bygythiadau terfysgaeth cyfredol ym Mhrydain.
Mae'r lefel o fygythiad yn dynodi tebygolrwydd o ymosodiad terfysgol ym Mhrydain. Mae 5 lefel o fygythiadau:
- ISEL – mae ymosodiad yn annhebygol
- CYMEDROL- mae ymosodiad yn bosib ond nid ydyw'n debygol
- SYLWEDDOL – mae ymosodiad yn bosib iawn
- DIFRIFOL – mae ymosodiad yn debygol iawn
- ARGYFYNGUS – mae disgwyl y bydd ymosodiad ar ddigwydd
Caiff y lefel ei bennu gan y Cyd-Ganolfan Dadansoddi Terfysgaeth a'r Gwasanaeth Diogelwch (MI5). Does dim dyddiad dod i ben ar gyfer lefel bygythiad, ond fe allan nhw newid ar unrhyw adeg wrth i wahanol wybodaeth fod ar gael i asiantiaid diogelwch.
Cwmpas Perfformiad
**** **Gwybodaeth** (ymdrin â phob un) 1. natur y digwyddiad a rhaglen 2. trefniadau cyrraedd a gadael ar gyfer grwpiau cleientiaid 3. cynllun a strwythur y lleoliad, y mwyafswm posib o bobl a all fod yn y lleoliad a'r asesiadau risg presennol **Gosodiadau'r digwyddiad** (ymdrin â phob un) 1. gwasanaethau yn y lleoliad 2. amgylchedd allanol a digwyddiadau eraill yn y cyffiniau 3. niferoedd a mathau o bobl sy'n mynychu 4. gwybodaeth cyn y digwyddiad – yr holl ffynonellau 5. adnoddau sydd ar gael **Rhanddeiliaid** (ymdrin â lleiafswm o 4) 1. person sy'n gyfrifol am y digwyddiad 2. gwasanaethau argyfwng 3. awdurdod lleol 4. rheolwr llinell 5. staff y digwyddiad sy'n gyfarwydd gyda'r lleoliad 6. staff y digwyddiad sydd ddim yn gyfarwydd gyda'r lleoliad 7. contractwyr 8. darparwyr cludiant 9. cymunedau lleol |
Gwybodaeth Cwmpas
**Rhanddeiliaid** 1. person sy'n gyfrifol am y digwyddiad 2. rheolwyr y lleoliad 3. gwasanaethau argyfwng 4. cyrff rheoleiddiol 5. rheolwr llinell 6. staff y digwyddiad sy'n gyfarwydd gyda'r lleoliad 7. staff y digwyddiad sydd ddim yn gyfarwydd gyda'r lleoliad 8. contractwyr 9. darparwyr cludiant **Dylanwadau a phwysau** 1. dylanwadau a phwysau cyfundrefnol (mewnol) 2. dylanwadau a phwysau rhanddeiliaid (allanol) |
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiadau canlynol wrth wraidd cyflenwi gwasanaethau yn y sector diogelwch i wylwyr. Mae'r ymddygiadau yn gofalu bod y mudiad a'r unigolyn yn creu argraff dda ar y cleientiaid.
Mae'n rhaid ichi ddangos eich bod yn cyflawni'r canlynol yn gyson:
1. Adnabod yr angen i fod yn hyblyg er mwyn dwyn i ystyriaeth amgylchiadau newidiol
2. Addasu cynlluniau ac ymatebion fel bo'r angen
3. Blaenoriaethu amcanion a gwaith cynllunio er mwyn gwneud y defnydd gorau posib o amser ac adnoddau
4. Gofalu bod amser i gefnogi eraill
5. Cymryd cyfrifoldeb personol dros weithredu rhai pethau
6. Dangos gonestrwydd, tegwch a chysondeb wrth wneud penderfyniadau
7. Cytuno'n eglur ar beth a ddisgwylir gan bobl eraill a'u hystyried nhw'n gyfrifol am herio ymddygiad cymdeithasol er enghraifft.
8. Ceisio deall disgwyliadau pobl ac unrhyw anghenion ychwanegol a medru bodloni'r rhain
9. Cymryd cyfrifoldeb dros ddiogelwch personol
10. Cymryd balchder mewn cynnig gwasanaeth o safon
11. Ymdrechu i fod yn wyliadwrus rhag bygythiadau a pheryglon posib
12. Annog a chefnogi eraill i fanteisio i'r eithaf ar eu galluoedd.
13. Defnyddio ystod o ddulliau arwain sy'n briodol i wahanol bobl a sefyllfaoedd
14. Eirioli dros ddiogelwch a lles fel blaenoriaeth wrth gynllunio a rheoli digwyddiadau
15. Cymryd balchder yn eich edrychiad a chydymffurfio gydag unrhyw godau gwisg gan y mudiad neu leoliad
16. Cydymffurfio gyda chod ymddygiad y lleoliad
17. Dangos eich gallu i gynnal cyfrinachedd
18. Dangos ymwybyddiaeth o faterion diogelu
19. Dangos dealltwriaeth o ofynion cyfreithiol sylfaenol yn ymwneud ag amrywioldeb a diogelwch
Sgiliau
Dyma restr o'r prif sgiliau a nodweddion cyffredinol sydd eu hangen er mwyn gofalu am ddiogelwch gwylwyr
- Gwrando a gweithredu
- Cyfathrebu geiriol ac aneiriol effeithiol
- Dylanwadu ar ac argyhoeddi eraill
Dirprwyo
Diplomyddiaeth
- Empathi
- Rhoi grym i eraill
- Gallu i ddilyn cyfarwyddiadau
- Arwain drwy esiampl
- Gwydnwch
- Rheoli ymddygiad heriol
- Mentora
- Ysgogi eraill
- Trafod a chyfaddawdu
- Derbyn a chynnig adborth
- Cynllunio a gwerthuso
- Gosod amcanion
- Gwerthfawrogi a chefnogi eraill
Geirfa
Cynlluniau mewn argyfwng
Dylai'r cynlluniau mewn argyfwng drafod ymateb strwythurol a graddedig gyda chanllawiau eglur ynglyn â'r mesurau i'w mabwysiadu mewn amgylchiadau penodol, gan ddwyn i ystyriaeth ffactorau mewnol ac allanol yn benodol i'r cae chwaraeon unigol (fel caiff ei ddisgrifio yn 6ed argraffiad y Canllaw Gwyrdd).
Gosodiadau'r Digwyddiad
Cynnyrch dros dro (seddi, pebyll, cabanau, pontydd, unedau arlwyo, generaduron ac ati) angenrheidiol er mwyn cynnal digwyddiad.
*
*
Gweithdrefnau cyfundrefnol
Gweithdrefnau sy'n pennu ffordd caiff lleoliad ei weithredu o ddydd i ddydd. Gall ymdrin â'r canlynol ond nid ydyw wedi'i gyfyngu i hyn: cynllun stiwardio, cynllun meddygol, amserlen weinyddol cynnal a chadw ataliol wedi'i gynllunio, asesiad risg yn ymwneud â thân, gweithdrefnau ar ddydd y digwyddiad, cynlluniau mewn argyfwng, cyfrifiadau mwyafswm posib o bobl, cynlluniau safle a manylion cyfarpar diogelwch.
Dogfennau canllaw perthnasol
Dogfennau cynghori fel y Canllaw Diogelwch ar Gaeau Chwarae (y 'Canllaw Gwyrdd'), Canllaw Diogelwch Digwyddiadau neu Ganllaw Mannau Poblog NaCTSO.
Mwyafswm posib o bobl sy'n ddiogel mewn lleoliad
Y mwyafswm o bobl a all gael eu derbyn mewn lleoliad ac sydd wedi'i gyfrifo yn unol â chanllaw wedi'i gyhoeddi yn defnyddio safonau wedi'u cyhoeddi.
Dolenni I NOS Eraill
SKASS15, SKASS16, SKASS19, SKASS23, SKASS24