Datblygu eich dealltwriaeth, sgiliau a chymhwysedd
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chymryd cyfrifoldeb dros ddatblygu eich dealltwriaeth, sgiliau a chymhwysedd eich hun i fodloni gofynion eich gwaith yn y presennol ac yn y dyfodol ac i gefnogi eich datblygiad personol a'ch gyrfa.
Mae'r safon hon yn berthnasol i bob rheolwr ac arweinydd.
Mae gan y safon hon gysylltiadau agos gyda CFAM&LAA1 Rheoli eich hun. Mae ganddi hefyd gysylltiadau â'r safonau ym maes allweddol DC Datblygu a chefnogi unigolion, sydd yn ymwneud â helpu eraill i ddatblygu eu dealltwriaeth, sgiliau a chymhwysedd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Rhaid eich bod chi'n gallu:**
1. **monitro tueddiadau a datblygiadau yn eich sector a'ch maes arbenigedd proffesiynol a gwerthuso'u heffaith ar eich rôl
2. gwerthuso, ar yr adegau priodol, gofynion eich rôl nawr ac yn y dyfodol, gan ystyried gweledigaeth ac amcanion eich sefydliad
3. adnabod y dulliau dysgu sydd orau i chi a sicrhau eich bod yn eu hystyried wrth adnabod a chyflawni gweithgareddau datblygu
4. adnabod sut mae angen datblygu eich dealltwriaeth, sgiliau a chymhwysedd presennol i fodloni gofynion eich rôl bresennol ac yn y dyfodol
5. trafod a chytuno ar gynllun datblygiad gyda'ch penaethiaid sy'n mynd i'r afael ag unrhyw fylchau yn eich dealltwriaeth, sgiliau a chymhwysedd ac sy'n eich helpu i gyflawni eich nodau personol a gyrfaol
6. cyflawni'r gweithgareddau a adnabuwyd yn eich cynllun datblygiad a gwerthuso'u cyfraniad at eich perfformiad
7. casglu adborth cyson ar eich perfformiad o bobl sy'n medru rhoi adborth gwrthrychol, penodol a dilys
8. adolygu a diweddaru'ch cynllun datblygiad yn sgil eich perfformiad ynghyd ag unrhyw weithgareddau datblygu a chyflawnwyd ac unrhyw newidiadau ehangach
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol**
- **yr egwyddorion sy'n sail i ddatblygiad proffesiynol
2. sut i werthuso gofynion rôl bresennol a sut gall y gofynion datblygu yn y dyfodol
3. sut i fonitro newidiadau, tueddiadau a datblygiadau
4. sut i werthuso effaith gwahanol ffactorau ar eich rôl
5. sut i adnabod anghenion datblygu er mwyn mynd i'r afael ar yr angen i ddatblygu eich dealltwriaeth, sgiliau a chymhwysedd presennol i fodloni gofynion eich rôl bresennol ac yn y dyfodol
6. beth i gynnwys mewn cynllun datblygu effeithiol a'r cyfnod o amser y dylid fod yn weithredol
7. pwysigrwydd ystyried eich nodau personol a gyrfaol wrth gynllunio eich datblygiad proffesiynol
8. yr ystod o wahanol ddulliau dysgu a sut i adnabod y dulliau sy'n gweithio orau i chi
9. y math o weithgareddau datblygu y gellir eu cyflawni er mwyn mynd i'r afael ar yr angen i ddatblygu eich dealltwriaeth, sgiliau a chymhwysedd
10. sut i werthuso cymaint y mae gweithgareddau datblygu wedi cyfrannu at eich perfformiad
11. sut i ddiweddaru cynlluniau datblygu yn sgil eich perfformiad ynghyd ag unrhyw weithgareddau datblygu a chyflawnwyd ac unrhyw newidiadau ehangach
12. sut i adnabod a defnyddio ffynonellau perthnasol sy'n rhoi adborth ar eich perfformiad
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r diwydiant/sector**
*
*13. gofynion y diwydiant/sector ar gyfer datblygu neu gynnal dealltwriaeth, sgiliau a chymhwysedd
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r cyd-destun**
*
*14. gofynion eich rôl, yn cynnwys cyfyngiadau'ch cyfrifoldebau
15. eich nodau personol a gyrfaol
16. pa ddulliau dysgu sy'n well gennych
17. eich dealltwriaeth, sgiliau a chymhwysedd presennol
18. ble sydd angen gwella o ran eich dealltwriaeth, sgiliau a chymhwysedd presennol
19. eich cynllun datblygu personol
20. y cyfleoedd ac adnoddau datblygu sydd ar gael yn eich sefydliad
21. polisi a gweithdrefnau eich sefydliad o ran datblygiad personol
22. ffynonellau adborth posibl yn eich sefydliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Wrth berfformio i'r safon hon, rydych yn debygol o ymddwyn fel y ganlyn:
1. Adnabod newidiadau i amgylchiadau yn ddi-oed ac addasu cynlluniau a gweithgareddau fel sy'n briodol
2. Chwilio am gyfleoedd i wella perfformiad
3. Datblygu dealltwriaeth, sgiliau a pherfformiad mewn ffordd systematig
4. Annog a chroesawu adborth wrth eraill a defnyddio'r adborth hwn mewn ffordd adeiladol
5. Ystyried eich profiadau a defnyddio'r gwersi i'ch tywys wrth wneud penderfyniadau a gweithredu
6. Cytuno ar amcanion sy'n heriol ond yn ymarferol
7. Dangos ymwybyddiaeth o'ch gwerthoedd, cymhellion ac emosiynau
8. Perfformio'n gyson ac yn ddibynadwy
9. Adnabod a gwneud y mwyaf o'ch cryfderau
10. Adnabod eich cyfyngiadau a cheisio lleihau eu heffaith
11. Gwneud defnydd effeithiol o'r adnoddau sydd ar gael
12. Chwilio am adnoddau cymorth newydd yn ôl yr angen
Sgiliau
Wrth berfformio i'r safon hon, rydych yn debygol o ddangos y sgiliau canlynol:
1. Cyfathrebu
2. Gwerthuso
3. Dysgu
4. Casglu adborth
5. Cynllunio
6. Adlewyrchu
7. Adolygu
8. Hunanasesu
9. Pennu amcanion